Protest yn erbyn rhoi statws dinas i Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
protest

Mae tua 100 o bobl wedi bod yn protestio yn Wrecsam yn erbyn cais i roi statws dinas i'r dref.

Fe allai bwrdd gweithredol y cyngor sir roi'r golau gwyrdd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth sy'n nodi Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

Mae disgwyl i'r Frenhines roi statws dinas i un neu fwy o drefi yn 2022 i nodi 70 mlynedd o deyrnasiad.

Mae uwch gynghorwyr yn credu y bydd statws dinas yn rhoi hwb i economi'r ardal, yn ôl y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol (LDRS).

Ond fe leisiodd y protestwyr eu barn yn erbyn y cynlluniau y tu allan i Neuadd y Ddinas ddydd Sadwrn.

Canfu arolwg fod 61% (258) o bobl yn teimlo "nad oedd Wrecsam yn haeddu bod yn ddinas o gwbl", yn ôl adroddiad gan y cyngor.

Bydd y bwrdd yn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cyflwyno cais ai peidio.

Mae'r cyngor sir wedi methu ag ennill statws dinas yn y gorffennol - yn 2000, 2002 a 2012.

Mae nifer yn dadlau fod ymgyrch o'r fath yn wastraff arian cyhoeddus, yn enwedig o ystyried fod cryn dipyn o sylw wedi dod i Glwb Pêl-droed Wrecsam yn ddiweddar.

Fe brynodd sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y clwb y llynedd cyn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn y Cae Ras fis diwethaf.

Mae Wrecsam hefyd yn un o wyth ardal sydd wedi'i henwi ar restr hir Dinas Diwylliant y DU yn 2025.

Pynciau cysylltiedig