Ansicrwydd Covid yn 'niweidiol iawn' i iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CyfyngiadauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 50% o oedolion a thua tri chwarter o bobl ifanc yn dweud fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y pandemig

Fe allai newidiadau i gyfyngiadau Covid er mwyn rheoli lledaeniad Omicron fod yn "niweidiol iawn" i iechyd meddwl pobl, yn ôl arbenigwr yn y maes.

Yng Nghymru, mae rheolau coronafeirws yn cael eu hadolygu'n wythnosol bellach yn sgil yr amrywiolyn newydd.

Daeth cadarnhad ddydd Gwener y bydd clybiau nos yn cau o 27 Rhagfyr, ac y bydd rhagor o gyfyngiadau ar fusnesau a swyddfeydd.

Ond dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y gallai rhagor o gyfyngiadau cael eu cyflwyno cyn hynny os yw'r sefyllfa'n gwaethygu'n gynt na'r disgwyl.

Dywedodd Julia Terry, cyn-nyrs iechyd meddwl sydd bellach yn athro ym Mhrifysgol Abertawe, ei bod yn natur ddynol i deimlo'n annifyr am ansicrwydd.

"Ry'n ni'n hoffi gwybod beth sydd 'rownd y gornel. Ry'n ni'n hoffi cynllunio ar ei gyfer, ac mae'n rhoi sylfaen gadarn i ni," meddai.

'Gobeithion wedi'u dinistrio'

Yn ôl ymchwil gan elusen Mind Cymru mae dros 50% o oedolion a thua tri chwarter o bobl ifanc yn dweud fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y pandemig.

Dywedodd yr Athro Terry fod cyfyngiadau yn bwysig i arbed bywydau, ond eu bod yn gallu cael effaith "niweidiol iawn" ar rai.

"Roedd pobl yn dechrau teimlo'n obeithiol, dechrau gwneud cynlluniau, dechrau ailafael yn eu bywydau ychydig yn rhagor," meddai.

"Rydych chi wedi mynd o gael pobl yn obeithiol i gael y gobeithion hynny wedi'u dinistrio eto."

Ffynhonnell y llun, Julia Terry
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Terry y gall cyfyngiadau fod yn niweidiol, ond mai arbed bywydau yw'r flaenoriaeth

Ychwanegodd mai un o'r pethau sy'n cael yr effaith fwyaf negyddol ar iechyd meddwl pobl ydy'r teimlad o ddiffyg rheolaeth sydd ganddynt oherwydd y cyfyngiadau.

"Pan does gennym ni ddim rheolaeth, dyna pryd mae pobl yn dechrau teimlo'n bryderus, rhwystredig neu isel," meddai'r Athro Terry.

"Rydyn ni wedi gweld pobl o bob oed yn byw bywydau mwy cyfyngedig, yn aros yn eu cartrefi a chael cyswllt cyfyngedig â phobl eraill."

Dywedodd Simon Jones, pennaeth polisi Mind Cymru, fod "dim ffordd normal" i ymateb i'r pandemig gan ei fod mor ddigynsail.

"Mae'n bwysig cydnabod y gall y sefyllfa bresennol deimlo'n stressful wrth i bethau newid mor sydyn," meddai.

"Dyw hi ddim yn syndod fod nifer o bobl yn teimlo'n bryderus neu amharod am ba bynnag newidiadau allai ddigwydd yn yr wythnosau i ddod."