'Dyma'r cyfnod mwyaf peryglus i dafarndai a bwytai'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Byrddau gwag tu allan i far Juniper Place Caerdydd ddydd Gŵyl San SteffanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byrddau gwag tu allan i far Juniper Place Caerdydd ddydd Gŵyl San Steffan, sef diwrnod cyntaf y cyfyngiadau diweddaraf

Mae tafarndai a bwytai ar draws Cymru ar drothwy'r "cyfnod mwyaf peryglus" ers dechrau'r pandemig o ran ymdrechu i sicrhau eu dyfodol, yn ôl grŵp sy'n cynrychioli busnesau lletygarwch.

Mae busnesau wedi gorfod brwydro'n galed am bron i ddwy flynedd, medd cyfarwyddwr UK Hospitality yng Nghymru, rhwng gorfod cau, gweithredu cyfyngiadau a delio gyda phrinder staff a chostau cynyddol.

O ganlyniad i hyn oll, medd David Chapman, bydd rhai tafarndai a bwytai'n cau am byth heb gymorth ychwanegol.

"Rwy'n ofni y byddwn ni'n colli busnesau o fewn wythnosau, nid o fewn misoedd," dywedodd, "a bydd hynny'n effeithio ar gymunedau ar draws Cymru yn nhermau swyddi, cyflenwyr a rhwydweithiau cymdeithasol."

Daeth cyfyngiadau newydd i rym ar 26 Rhagfyr gan gynnwys:

  • 'rheol chwe pherson' mewn llefydd fel tafarndai, bwytai, sinemâu a theatrau;

  • ymbellhau cymdeithasol mewn mannau cyhoeddus;

  • dim mwy na 30 o bobl mewn digwyddiadau dan do; a

  • bu'n rhaid i glybiau nos gau.

Ond dywed busnesau bod llai o bobl yng nghanol dinasoedd a threfi cyn i'r cyfyngiadau hynny ddod i rym yn sgil rhybuddion bod amrywiolyn Omicron yn lledu'n gyflym.

Yn ôl UK Hospitality fe gollodd tafarndai, bariau a bwytai £10,335 ar gyfartaledd yn yr wythnos cyn y Nadolig.

Ar draws y DU roedd gwerthiannau busnesau 60% ddiwrnod Nadolig o'i gymharu ag yn 2019 wrth i deuluoedd aros adref.

Dyw'r corff ddim yn galw am ailgyflwyno'r cynllun ffyrlo, a welodd Llywodraeth y DU yn talu'r rhan helaeth o gyflogau gweithwyr busnesau fu'n rhaid cau oherwydd y pandemig.

Yn hytrach, medd Mr Chapman mae angen grantiau a benthyciadau ar lefel debyg i'r cynllun ffyrlo er mwyn cynnal busnesau drwy gyfnod nesaf y pandemig.

Mae'n dweud bod llawer o fusnesau wedi llwyddo i gario ymlaen ond gan eu bod heb wneud elw am gyfnod mor hir fe fydd rhai'n wynebu trafferthion mawr wrth i gostau ychwanegol ddod i rym yn y gwanwyn.

Ym mis Ebrill bydd busnesau lletygarwch yn gorfod dechrau talu hanner eu trethi busnes unwaith yn rhagor.

Bydd Treth ar Werth yn codi i'r sector o 12.5% i 20% a bydd cyfraddau Yswiriant Cenedlaethol yn cynyddu hefyd, ac mae hynny ar ben cynnydd yng nghostau bwyd ac ynni.

Pynciau cysylltiedig