Cantorion yn colli 'miloedd' heb ddathliadau Calan

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dave Riley gyda'i fandFfynhonnell y llun, Dave Riley
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dave Riley (dde) ei fod wedi colli dros £2,500 yn sgil canslo gigiau rhwng Gŵyl San Steffan a'r Flwyddyn Newydd

Mae cantorion sy'n perfformio mewn tafarndai wedi colli miloedd o bunnoedd, heb unrhyw beth i'w digolledu, wedi i ddigwyddiadau Nos Galan gael eu canslo, yn ôl sylfaenydd gŵyl yn y de.

Wrth i gyfyngiadau Covid newydd atal mwy na 30 o bobl rhag mynychu digwyddiadau dan do, mae nifer o leoliadau wedi canslo'u dathliadau.

Mae'r canwr Dave Riley o Borthcawl yn dweud ei fod wedi colli dros £2,500 o ganlyniad.

Dywed Llywodraeth Cymru y gallai cerddorion llawrydd fod yn gymwys am y Gronfa Cadernid Economaidd, neu Gronfa Cymorth Ddewisol awdurdod lleol.

"Yn draddodiadol, Nos Galan yw'r diwrnod sy'n talu fwyaf i gantorion tafarn ac mae wedi diflannu," meddai Peter Phillips, sylfaenydd Gŵyl Elvis Porthcawl.

"Mae eu hincwm, yn y bôn, wedi ei gymryd oddi arnyn nhw ar fyr rybudd.

"Rwy'n meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn anghyfrifol trwy beidio â gosod rhai mesurau.

"Dydw i ddim yn beirniadu eu mesurau iechyd cyhoeddus - nid fy lle i yw hynny - ond fe ddylen nhw fod wedi ystyried pwy fyddai'n cael eu heffeithio'n syth yn ariannol, a rhoi rhywbeth yn ei le ar eu cyfer."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sefydlodd Peter Phillips Ŵyl Elvis Porthcawl yn 2004

Dywedodd fod llawer o gerddorion llawrydd wedi gallu cael taliadau ffyrlo yn ystod cyfnodau clo blaenorol, ond nad oedd hyn yn bosib bellach.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi galw ar Lywodraeth y DU o'r newydd i ailddechrau'r cynllun wnaeth gostio bron i £70bn.

"Fe ddylen nhw fod wedi trefnu rhyw gymorth i'r bobl hyn," meddai Mr Phillips. "Mae'r bobl hyn yn ffrindiau i ni ac rydyn ni wedi 'nabod llawer o'r bobl hyn am flynyddoedd."

'Rwy'n grac'

Mae Dave Riley yn ganwr o Borthcawl sy'n perfformio mewn tafarndai, gwestai a chlybiau yng Nghymru a thramor.

Roedd ganddo bedwar gig rhwng Gŵyl San Steffan a Nos Galan, ac fe gafodd pob un ohonynt eu canslo.

Dywedodd: "Mae jyst wedi dod yn sydyn iawn heb unrhyw gynllun - popeth wedi ei ganslo heb unrhyw beth mewn lle."

Ffynhonnell y llun, Dave Riley
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dave Riley yn flin bod dim trefniadau i ddigolledu perfformwyr wrth i'r cyfyngiadau orfodi tafarndai i ganslo gigiau

Roedd Mr Phillips yn dibynnu ar y perfformiadau hyn - a fyddai wedi ennill rhwng £2,500 a £3,000 iddo - i'w gefnogi trwy fis Ionawr, sydd fel arfer yn gyfnod tawel i berfformwyr.

Dywedodd iddo fethu â chael taliadau ffyrlo yn y gorffennol, a'i fod wedi dibynnu ar daliadau diweithdra a gwerthu pethau ar eBay.

"Dw i'n grac y tro hyn. Dim ond yn dechrau cael pethau yn ôl i normalrwydd ac adeiladu pethau'n ôl i fyny o'n i."

Ffynhonnell y llun, Dave Riley
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dave Riley ei fod yn dibynnu bob blwyddyn ar berfformiadau gwyliau'r Nadolig i'w gynnal tan ddiwedd Ionawr

O dan reolau Lefel Rhybudd 2, mae hawl i drefnu cerddoriaeth fyw mewn tafarndai a mannau eraill ond mwyafrif o 30 o bobl sydd yn cael mynychu.

Mae'n rhaid i bobl aros yn eistedd, sydd yn golygu nad yw dawnsio wedi ei ganiatáu.

Rhaid darparu gwasanaeth bwrdd ac mae'n rhaid cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr rhwng grwpiau o hyd at chwe pherson o hyd at chwe aelwyd.

Mae'n rhaid gwisgo gorchudd wyneb pan dydych chi ddim yn eistedd wrth fwrdd.

Mae'r un rheolau yn berthnasol i briodasau, ond mae eithriad sydd yn caniatáu i gyplau gael eu dawns gyntaf.

Dywedodd Peter Phillips fod y cyfyngiadau ar y nifer o bobl yn ei gwneud hi'n amhosib i lawer o fusnesau fwcio perfformiwr.

'Deall yr heriau - ond Cymru'r wynebu sefyllfa ddifrifol iawn'

Ar 23 Rhagfyr, fe wnaeth Llywodraeth Cymru amlinellu pecyn o gymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan Omicron gwerth £120m.

Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd Gweinidog Economi Cymru Vaughan Gething: "Rydyn ni'n deall yr heriau parhaus mae busnesau yn eu hwynebu yn llawn, ond rydyn ni'n wynebu sefyllfa difrifol iawn yng Nghymru.

"Mae ton o achosion yn dod tuag aton ni yn sgil yr amrywiolyn newydd, heintus a chyflym Omicron, sydd yn golygu gweithredu'n gynnar i geisio rheoli ei ledaeniad - a chyfyngu'r effaith ar fusnesau Cymreig."

Dywedodd fod dros £2.2bn o gymorth wedi ei darparu i fusnesau trwy Gymru ers dechrau'r pandemig.

Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried a fydd angen cyllid brys ychwanegol yn y flwyddyn newydd.