Sinema wrthododd orchymyn i gau wedi dangos ffilm 'beryglus'
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth sinema gafodd orchymyn i gau ar ôl torri rheolau Covid anwybyddu'r gorchymyn i ddangos ffilm sy'n gwneud honiadau di-sail yn erbyn meddygon a nyrsys y gwasanaeth iechyd.
Cafodd Cinema & Co yn Abertawe orchymyn llys wedi i'r perchennog Anna Redfern wrthod gofyn i gwsmeriaid ddangos pàs Covid er mwyn cael mynediad.
Fe gafodd Redfern, 45, hefyd ddirwy o £15,000 a dedfryd o garchar wedi'i gohirio am ddirmyg llys.
Ond cyfaddefodd ei bod wedi dangos ffilm A Good Death? gan Jaymie Icke, sy'n gwneud honiadau difrifol di-sail am y GIG, wedi'r gorchymyn llys cyntaf.
Mae Jaymie Icke yn fab i'r cyn bêl-droediwr David Icke, sydd ei hun wedi gwneud honiadau di-sail am y pandemig fel bod mastiau 5G yn achosi Covid.
Ffilm 'cwbl ffals'
Mae'r ffilm yn cynnwys honiadau fod staff y gwasanaeth iechyd yn fwriadol yn lladd pobl hŷn mewn ysbytai er mwyn "rhoi hwb i'r niferoedd" o bobl sy'n marw gyda Covid.
Mae'r Center for Countering Digital Hate wedi disgrifio'r ffilm fel un "cwbl ffals", "niweidiol" a "pheryglus".
Dydy Ickonic TV, wnaeth gynhyrchu'r ffilm, ddim wedi ymateb i geisiadau BBC Cymru am sylw.
Dywedodd Redfern wrth BBC Cymru mai mater i'r cwmni cynhyrchu ydy cynnwys y ffilm, nid y sinema.
"Dydy Cinema & Co ddim yn sensro neb," meddai.
Mae David Icke yn enwog am ei gred mai ef yw mab Duw, a bod y Teulu Brenhinol yn ymlusgiaid sy'n gallu newid eu hedrychiad.
Mae Facebook, Twitter a YouTube wedi gwahardd ei gyfrifon ers 2020 am gyflwyno honiadau ffug am y pandemig.
'Rhannu gwybodaeth real'
Cyn ei hail wrandawiad llys cafodd Redfern ei chyfweld gan un o feibion eraill David Icke, Gareth, ble dywedodd y byddai'n "bleser" cynnal dangosiad cyntaf A Good Death? gan ddweud ei bod eisiau "rhannu gwybodaeth real".
Ar ôl cael gorchymyn llys i gau fe wnaeth y sinema ailagor ar 1 Rhagfyr er mwyn dangos ffilm Nadoligaidd.
Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach bu'r sinema'n cynnal "dangosiad cyntaf" ffilm Jaymie Icke.
Mae llefarydd y wasg Cinema & Co, Jacquelyn Haley, hefyd wedi rhannu erthyglau ar ei chyfrifon Facebook a Twitter yn honni fod Covid yn cael ei achosi gan fastiau ffôn 5G, fod brechlynnau wedi achosi mwy o farwolaethau na'r feirws a bod cyd-sylfaenydd Microsoft, Bill Gates, yn gyfrifol am lofruddiaeth oherwydd y "marwolaethau sydd wedi'u hachosi gan y brechlynnau".
Dywedodd hefyd, os yw rhieni yn gadael i'w plant gael eu brechu, "nad ydych chi'n haeddu eich plant".
Mewn fideo gafodd ei ffilmio yn y sinema wedi i A Good Death? gael ei dangos fe wnaeth Ms Haley annog pobl i "wylio'r ffilm a'i rhannu ymhell".
Dyw Ms Haley ddim wedi ymateb i geisiadau gan BBC Cymru am sylw.
Hefyd yn bresennol i wylio'r ffilm ddadleuol oedd Wesley Garner o Abertawe, un o dri o bobl gafodd ddirwyon o dros £2,000 y llynedd am deithio i Lerpwl yn ystod cyfnod clo i herio staff am brofi disgyblion mewn ysgol yno.
Cyfaddef dirmyg llys
Wythnos wedi i'r ffilm gael ei dangos yn Cinema & Co fe wnaeth Redfern gyfaddef dirmyg llys, ac addo i'r barnwr y byddai'n cydymffurfio â gofynion yr awdurdod lleol.
Mae hi wedi derbyn dros £61,000 mewn rhoddion ers iddi anwybyddu gorchmynion Cyngor Abertawe am y tro cyntaf, trwy wefan godi arian gafodd ei sefydlu gan gyn-ymgeisydd Plaid Brexit a Phlaid Diddymu'r Cynulliad, Richard Taylor.
Dywedodd Redfern wrth BBC Cymru ei bod yn bwriadu defnyddio'r arian i "addysgu ac awdurdodi eraill i ailafael yn eu hawliau dynol", mynd â'i theulu ar wyliau ac ariannu digwyddiadau fel "darlledu ffilmiau am ddim i ysgolion sydd mewn tlodi".
Yn ei gwrandawiad diweddaraf fe ddywedodd bargyfreithiwr Redfern wrth y llys nad oedd Cinema & Co yn cynhyrchu elw, a'i bod yn byw ar gynilion.
Dywedodd y barnwr rhanbarthol Neale Thomas ei fod yn "amheus" o'r honiad hwnnw.
Ym mis Mai 2019 cafodd cwmni Cinema & Co ei ddiddymu wedi iddo fynd yn fethdalwr, ac mae Tŷ'r Cwmnïau yn dangos fod Redfern yna wedi creu cwmni newydd yn yr un cyfeiriad o'r enw Cinema & Co Ltd.
Fe wnaeth Cyngor Abertawe ddatgelu fis diwethaf fod y sinema wedi derbyn dros £52,000 mewn grantiau Covid ers dechrau'r pandemig.
Mae swyddogion y cyngor yn asesu a yw'r sinema wedi torri unrhyw amod o'r grantiau ac oes sail i'r awdurdod eu hawlio yn ôl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021