Adfer canol trefi: 'Pobl moyn cefnogi pethe lleol'
- Cyhoeddwyd
"Chi moyn cefnogi pethe lleol sy' rownd chi, chi ddim moyn mynd i lefydd eraill," medd aelod o staff caffi yn Llanelli.
"Ond os ni ddim gyda dim byd i fynd i, ni'n mynd i'r ddinas nesa' neu'r dre' nesa'," medd Angharad Warren.
Er i gaffi Hwyl oroesi'r pandemig, dywed Ms Warren na fuodd pob busnes lleol mor lwcus ac fe aeth sawl un i'r wal.
Daw sylw Ms Warren wrth i gabinet Cyngor Sir Gâr gytuno ar gynlluniau i adfer canol trefi Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli wedi'r pandemig ddydd Llun.
Mae'r cynlluniau'n amlinellu camau i roi hwb i fusnesau a chadw pobl yn lleol er mwyn dod i'r afael ag effeithiau economaidd Covid-19.
Ymhlith y camau hyn mae denu pobl ifanc i'r trefi, gwella cysylltiadau teithio, a chefnogi busnesau annibynnol.
Roedd yr adroddiad yn dweud ei bod yn debygol y byddai adfer o'r pandemig yn cymryd "llawer hirach" heb gynlluniau clir.
Wrth gymeradwyo'r cynlluniau, dywedodd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole, eu bod yn "benderfynol o weld canol trefi Sir Gaerfyrddin yn adfer gan ddod yn lefydd llewyrchus" unwaith eto.
'Y dref yn dawelach fyth'
"I fod yn onest, cyn y pandemig o'dd y dre' ddim yn rhy dda eniwe - ond ma' lot o fusnesau wedi cau ers y pandemig yn anffodus," meddai Ms Warren.
Agorodd caffi Hwyl yn Llanelli wythnos cyn y cyfnod clo gyntaf, gan olygu y bu'n rhaid cau am gyfnod yn fuan ar ôl agor eu drysau.
Fodd bynnag, dywed Ms Warren fod cefnogaeth pobl y dref wedi cadw'r busnes i fynd.
Er gwaethaf llwyddiant Hwyl, bu'n rhaid i sawl busnes yn Llanelli gau yn ystod y pandemig, meddai hi.
Un her i'r dref wnaeth gyfrannu at hyn yw diffyg pobl ifanc, dywed Ms Warren.
"Maen nhw 'di mynd o'r dre' achos ma' Llanelli ddim gyda lot o bethau'n mynd 'mlaen, a 'na gyd sydd ar ôl yw plant ysgol neu bobl sy'n henach.
"Ma' fe 'di mynd yn fwy dawel byth achos dydy'r bobl hen ddim yn mynd mas o'r tŷ gymaint ers y pandemig."
Dywedodd Ms Warren y byddai cynnal mwy o ddigwyddiadau yn Llanelli yn helpu, gan fod awch gan bobl leol i gefnogi'r dref.
"Mae'r cyngor wedi bod yn rhoi mlaen fel food festival 'mlaen bob mis… pob tro ma' hwnna 'di bod 'mlaen ma'r caffi 'di bod yn rili rili fishi, so fi'n credu pethe fel 'na ma' ishe, fel events yn y dre' i ddenu pobl mewn."
Beth sydd yn y cynlluniau?
Mae'r cynlluniau'n nodi'r heriau sy'n wynebu pob tref. Yng Nghaerfyrddin, mae'r heriau'n cynnwys cwymp yn y nifer o bobl sydd yn gweithio yng nghanol y dref o ganlyniad i weithio o adref, a thwf yn y nifer o adeiladau gwag.
Mae dirywiad brandiau cenedlaethol oedd yn denu pobl i'r dref wedi ei nodi fel her i Rydaman, yn ogystal â phobl leol yn gwario mwy mewn ardaloedd cyfagos fel Abertawe.
Mae'r un heriau wedi eu nodi ar gyfer Llanelli, yn ogystal â diffyg presenoldeb digidol busnesau lleol.
Hefyd, mae'r cynlluniau'n nodi cryfderau sy'n cynnig cyfleoedd i gryfhau canol y trefi - fel y cymysgedd o siopa, hamdden a diwylliant yng Nghaerfyrddin, a bod yna fwy o wariant lleol yn Rhydaman a Llanelli yn sgil gweithio o adref.
Mae hefyd cyfres o dargedau ar gyfer adfer canol y trefi, gyda chamau er mwyn eu cyrraedd.
Yng Nghaerfyrddin, mae'r targedau'n cynnwys gwneud defnydd o adeiladau gwag a chryfhau gweithgareddau hamdden a lletygarwch canol y dref.
Denu teuluoedd lleol a phobl ifanc i ganol y dref trwy gynyddu ar y dewis o weithgareddau yno yw un o dargedau Rhydaman, yn ogystal â diogelu busnesau.
Ar gyfer Llanelli, mae targedau fel annog y boblogaeth leol i dreulio mwy o amser a gwario mwy o arian yng nghanol y dref, a chryfhau cysylltiadau teithio lleol.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole, y bydd y cabinet yn parhau i gydweithio gyda llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig pan ddaw cyfleoedd am gyllid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021