'Wna i ddim stopio brwydro am gyfiawnder i fy mab'

  • Cyhoeddwyd
Alina Joseph a'i mab Christopher Kapessa
Disgrifiad o’r llun,

Alina Joseph a'i mab Christopher Kapessa, a fu farw ar 1 Gorffennaf 2019

Mae mam bachgen 13 oed yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol ei hun os nad yw penderfyniad i beidio ag erlyn person oedd ynghlwm â'i farwolaeth yn cael ei wrthdroi.

Cafwyd hyd i gorff Christopher Kapessa yn Afon Cynon, ger Aberpennar, Rhondda Cynon Taf yn 2019.

Er i'r heddlu ganfod tystiolaeth ei fod wedi cael ei wthio i'r afon, fe benderfynodd Gwasanaeth Erlyn Y Goron (CPS) yn erbyn erlyn.

Mae mam Christopher, Alina Joseph, yn credu bod hiliaeth ynghlwm â'r penderfyniad hwnnw - awgrym y mae'r CPS yn ei wrthod.

Dywed y cyn-farnwr a chadeirydd Cyngor Hil Cymru, Ray Singh y dylai'r teulu gael gwrandawiad llys.

Mae achos Christopher yn mynd i'r Uchel Lys ddydd Iau pan fydd cyfreithwyr Ms Joseph yn gofyn am Adolygiad Barnwrol o benderfyniad y CPS.

Dywedodd wrth raglen BBC Wales Investigates ei bod yn credu y byddai'r ymchwiliad "wedi bod yn wahanol iawn" pe tasai Christopher yn blentyn gwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Christopher yn Afon Cynon, ger Aberpennar

Dywed Ms Joseph bod yr heddlu wedi dweud wrthi, o fewn diwrnod i'r farwolaeth, nad oedd yr achos yn un amheus.

Roedden nhw wedi siarad gyda phedwar plentyn o blith grŵp mawr o blant oedd yn bresennol a dod i'r casgliad bod Christopher wedi llithro i'r afon.

Aeth Ms Joseph at y mudiad gwrth-hiliaeth The Monitoring Group a chwyno i Heddlu De Cymru ynghylch y ffordd wnaethon nhw drin yr achos.

Cyfeiriodd y llu ei hun i'r Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) a rhoi ei Dîm Troseddau Mawr ar waith mewn cysylltiad â'r achos, wythnos wedi angladd Christopher.

Daeth yr ymchwiliad yna i'r casgliad bod Christopher wedi cael ei wthio i'r afon gan fachgen 14 oed.

Dywed yr IOPC nad yw eu hasesiad cychwynnol o'r gŵyn wedi canfod unrhyw arwydd bod unrhyw swyddog heddlu wedi torri safonau proffesiynol.

Dywedodd Heddlu De Cymru na allai wneud sylw nes bydd yr IOPC wedi cyhoeddi adroddiad llawn, ond mae'r llu'n croesawu'r ymchwiliad a chyfleoedd i ddysgu a gweithredu unrhyw wersi sy'n codi.

Mae'n dweud hefyd bod herio hiliaeth yn flaenoriaeth i'r llu ers tro.

'Roedd gan Christopher ddyfodol'

Fe drosglwyddodd yr heddlu'r ffeil i'r CPS, a benderfynodd yn erbyn erlyn y bachgen 14 oed.

Daeth i'r casgliad bod digon o dystiolaeth ar gyfer cyhuddiad o ddynladdiad, ond na fyddai hynny er budd y cyhoedd gan nad oedd tystiolaeth bod y llanc wedi bwriadu achosi niwed i Christopher.

Roedd y bachgen ag enw da cyn y digwyddiad ac roedd rhaid ystyried effaith erlyniad ar ei ddyfodol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

"Beth am ddyfodol Christopher?" meddai Ms Joseph. "Roedd dyfodol da o'i flaen.

"Maen nhw wedi ceisio diystyru hynny fel petai dim gwerth i fywyd Christopher. Os nad yw hynny'n hiliaeth, ni wn beth yw e."

Dywed bod y penderfyniad i beidio erlyn yn rhoi neges i'r cyhoedd "gallwch chi wneud unrhyw beth cas i bobl dduon a ni chewch eich cosbi".

'Lles pwy?'

Mae'r cyn-farnwr Ray Singh wedi ymchwilio i hiliaeth sefydliadol honedig yn system gyfiawnder Prydain yn dilyn achos llofruddiaeth Stephen Lawrence. Dywedodd wrth BBC Wales Investigates: "Rwy'n gofyn y cwestiwn: beth sydd er lles y cyhoedd?"

"Mae llawer o famau eraill yn edrych ar yr achos, yn enwedig mamau du a lleiafrifoedd ethnig. Onid ydyn ni'n aelodau'r cyhoedd?"

Ychwanegodd: "Dylai cyfiawnder ddigwydd mewn llys barn. Rhaid i'r ddau deulu fyw gyda'r canlyniad."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ray Singh bod angen ystyried yr achos yn nhermau "tegwch", nid er lles y bachgen 13 oed

Dywedodd y CPS wrth BBC Wales Investigates eu bod, wedi i erlynydd arbenigol adolygu'r dystiolaeth, yn glynu wrth y penderfyniad i beidio ag erlyn y bachgen 14 oed.

Doedd "dim byd i awgrymu" trosedd casineb, meddai, a doedd hil ddim yn rhan o'r penderfyniad i beidio ag erlyn.

Ychwanegodd y dylai erlynwyr weithredu er lles cyfiawnder ac nid sicrhau euogfarnau yn unig.

BBC Wales InvestigatesChristopher - the boy who never came home; nos Lun 7 Mehefin, 20:25 ar BBC One Wales ac yna ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig