Cannoedd o adar wedi marw ar ffordd yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Adar marwFfynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr adar eu canfod ar ffordd rhwng pentrefi Waterston ac Hazelbeach ger Aberdaugleddau

Mae tua 200 o adar wedi cael eu canfod yn farw ar ffordd yn Sir Benfro.

Fe gafodd yr adar eu canfod rhwng pentrefi Waterston ac Hazelbeach ger Aberdaugleddau nos Iau.

Yn ôl llygad dyst roedd yr adar yn "cwympo o'r awyr", ac mae Cyngor Sir Penfro wedi clirio'r ffordd erbyn bore Gwener.

Dywed RSPB Cymru ei bod hi'n bosib fod yr adar wedi cael eu "haflonyddu o'u man clwydo gyda'r nos".

"Pan fydd hyn yn digwydd yn ystod y nos, gallai achosi iddynt wrthdaro â'r ddaear wrth iddynt ddrysu," meddai llefarydd.

"Ond bydd angen archwiliadau pellach i gadarnhau achos y digwyddiad yma."

'Casglu 10 bag bin'

Dywedodd golygydd y Pembrokeshire Herald, Tom Sinclair ei fod wedi mynd yno nos Iau ar ôl clywed am y digwyddiad.

"Roedd 50 a mwy o adar ar y ffordd ac roeddech chi'n gallu eu clywed nhw yn y gwrychoedd yn gwneud synau," meddai.

"Yn ystod y don gyntaf [o glirio'r adar] fe ddywedodd pobl wrtha i fod y cyngor wedi casglu 10 bag bin, ac roeddwn i yno ar ôl hynny felly rwy'n credu fod ychydig gannoedd, os nad 1,000 wedi marw.

"Roeddwn i yno am 23:30 ac roedden nhw'n dal i gwympo o'r awyr - roedd fel tasen nhw wedi marw cyn iddyn nhw daro'r ddaear."

Ffynhonnell y llun, Claire Eaton
Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd ambell i aderyn i oroesi'r digwyddiad - sy'n parhau'n ddirgelwch

Ychwanegodd Mr Sinclair: "Roeddwn i'n cael yr argraff eu bod nhw'n cwympo o uchder.

"Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd - dim syniad. Alla i ddim meddwl mai adar ysglyfaethus oedd e - doedden nhw ddim yn hedfan a tharo'r ffordd, roedden nhw'n disgyn yn farw."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr adar wedi cael eu clirio o'r ffordd erbyn fore Gwener

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro: "Cawsom alwad tua 21:00 ar 10 Chwefror ynglŷn â nifer o ddrudwy marw ar Heol Hazelbeach, Waterston.

"Fe aeth swyddogion i'r safle a chafwyd hyd i tua 200 o ddrudwy yn farw ar y ffordd. Cynhaliodd yr awdurdod waith glanhau a symud yr adar marw o'r safle.

"Nid oes unrhyw arwydd clir o achos y marwolaethau hyn. Rydym wedi hysbysu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) am y digwyddiad."

Roedd digwyddiad tebyg ar Ynys Môn ym mis Rhagfyr 2019, pan gafodd cannoedd o ddrudwy eu canfod ar ffordd wledig.

Y tro hwnnw fe benderfynodd yr heddlu eu bod wedi marw ar ôl taro'r ffordd tra'n ceisio osgoi rhywbeth - "o bosib aderyn ysglyfaethus".

Pynciau cysylltiedig