'Bydda i'n colli fy nghartref achos biliau ynni'
- Cyhoeddwyd
"Pam bod pobl ym Mhrydain yn gorfod dewis rhwng gwres a bwyta?"
Mae Dave Davies, 39, o Lanbedr Pont Steffan wedi ei barlysu ers iddo dorri ei wddf 16 mlynedd yn ôl, ac wrth i bris ynni godi mae'n poeni y bydd yn rhaid iddo adael ei gartref.
Mae'n rhentu byngalo a gafodd ei godi'n arbennig iddo a dywed bod ei filiau diweddar wedi dyblu ac wedi'i adael mewn dyled.
Mae'n poeni y byddant yn treblu yn y dyfodol agos.
"Sut mae pobl fel ni yn goroesi pan mae rhain yn codi hyd yn oed yn fwy? Dwi jyst ddim yn gw'bod.
"A sut mae'n gwneud i mi deimlo - dwi wedi fy syfrdanu bod hyn yn gallu digwydd."
Mae problemau niwrolegol yn golygu nad yw'r tad i ddau o blant yn gallu rheoli ei dymheredd, ac felly mae tymheredd y gwres yn ei gartref yn gorfod bod yn 24 gradd er mwyn sicrhau nad yw ei iechyd yn dioddef.
Mae ei gyflwr hefyd yn golygu bod ei groen yn hynod o sensitif, felly mae gwisgo deunyddiau trwm fel siwmperi yn "teimlo fel papur tywod".
Ers mis Hydref mae Mr Davies yn dweud bod ei filiau ynni wedi codi o £150 i £300 y mis wedi iddo orfod symud i gwmni ynni gwahanol am fod ei gwmni gwreiddiol wedi mynd i'r wal.
Gyda'r newid i'r cap ym mis Ebrill mae'n poeni y bydd ei filiau misol yn codi i £450.
Mae Mr Davies yn ddibynnol ar ofal 24 awr y dydd, ac ar fudd-daliadau gan y llywodraeth ar ôl i'w ddamwain ei atal rhag gweithio mewn ffatri bysgod yn Ngheinewydd.
Mae'n dweud bod unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru a'r DU ond yn gallu helpu gydag oddeutu mis o'i filiau ynni.
Mae felly yn benthyg arian gan ei deulu ac yn defnyddio cardiau credyd i dalu am ynni.
"Dwi ddim gallu mynd allan i weithio i gael mwy o arian i helpu i dalu biliau", meddai.
"Pam bod pobl ym Mhrydain yn gorfod dewis rhwng gwres a bwyta? Beth mae'r llywodraeth yn ei wneud os mai dyma'r dewis?
"A sut ma'n nhw'n meddwl bod pobl fel fi ar y gwaelod yn gallu talu am hyn?"
"Dwi'n trio bwyta yn dda achos y ddamwain ond pan ma'r prisiau yn codi bydd dim dewis gyda fi bydd rhaid i fi fwyta beth bynnag sy'n rhad - dim ots os yw'n dda i fi neu beidio.
"Dwi'n canolbwyntio ar heddi a 'fory, fi ddim yn meddwl am y dyfodol. Fi'n ofnus am y dyfodol."
Cymorth i bobl anabl yn 'hanfodol'
Ben Lake o Blaid Cymru yw Aelod Seneddol Mr Davies a dywedodd: "Mae pawb yn gweld eu costau yn cynyddu ond ni'n siarad fan hyn am gynnydd o gannoedd o bunnoedd bob mis.
"Does dim dewis gan bobl fel Mr Davies i droi'r gwres lawr neu mynd hebddo achos ei gyflwr. Felly ma' angen i'r llywodraeth yn Llundain yn benodol i edrych eto a thalu mwy o sylw i'r anghenion unigryw yma."
Daw'r pryderon wedi i elusennau a gwleidyddion gyflwyno tystiolaeth i bwyllgor Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU ar 9 Chwefror.
Dywedodd Pennaeth Polisi Cyngor ar Bopeth, Morgan Wild: "Mae'n anodd pwysleisio ddigon argyfwng costau byw pobl anabl.
"Mae 60% o'r bobl sydd wedi derbyn cyngor gennym am danwydd neu ddyledion tanwydd yn anabl neu â chyflwr tymor hir - mae sicrhau ein bod yn rhoi cefnogaeth ddigonol i'r bobl yma a sicrhau eu bod yn cael digon o fudd-daliadau yn hanfodol."
Dywed Llywodraeth y DU ei bod yn cydnabod fod pobl yn wynebu pwysau yn sgil costau byw a'i bod yn delio â hynny yn gadarnhaol.
Ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd llefarydd bod gweinidogion "yn gwneud pob dim posib o fewn eu pwerau gan helpu teuluoedd yng Nghymru a chymunedau yn ystod yr amseroedd anodd yma".
Dywedodd hefyd bod Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i "weithredu er mwyn diogelu pobl mwyaf bregus cymdeithas rhag yr argyfwng".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022