Prosiect adfywio mwyaf ar ôl y Blitz ar fin agor yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
"Bydd canol Abertawe yn edrych yn gwbl wahanol erbyn 2020 wrth i'r trawsnewidiad mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd ddigwydd yno."
Dyna oedd geiriau arweinydd cyngor y ddinas, Rob Stewart, yn 2015.
Ar ôl pandemig byd-eang, mae cam cyntaf y prosiect adfywio mwyaf ar ôl y Blitz, gwerth £135m, ar fin cael ei gwblhau.
Mi fydd rhannau allweddol o ddatblygiad Bae Copr ar agor i'r cyhoedd ddydd Gwener.
Fe gafodd yr arena newydd, sydd â lle i gynulleidfa o 3,500, ei agor yn swyddogol ddydd Iau gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Ddydd Gwener, mi fydd y bont lliw aur uwchben Heol Ystumllwynarth, sy'n cael ei adnabod gan rai bobl leol fel y 'Crunchie' a'r 'Taco', yn agor gan gysylltu canol y ddinas â'r arena, y marina a'r traeth.
Mi fydd maes parcio newydd gyda 345 o leoedd hefyd yn agor am y tro cyntaf ddydd Gwener.
'Newid yn y ffordd mae pobl Abertawe yn gweld eu dinas'
"Bwriad hyn oedd gwneud rhywbeth sbeshal," meddai arweinydd y cyngor, Rob Stewart.
"Roedd pobol yn amheus a fyddai'r cynlluniau'n digwydd, ond wrth weld pobol yn trafod lliw a siâp y bont, roedd 'na newid.
"Yn lle cwestiynu a fyddai rhywbeth yn digwydd, roedden nhw'n cwestiynu beth oedd yn digwydd, ac mae hynny'n newid mawr yn y ffordd mae pobl Abertawe yn gweld eu dinas," meddai.
Ar ôl cynnal cyngherddau prawf gyda cherddorion lleol y penwythnos diwethaf, mi fydd drysau'r arena, yn agor nos Fawrth nesaf, 15 Mawrth, gyda sioe gan y digrifwr John Bishop.
Mi fydd y band roc Royal Blood yn perfformio nos Sadwrn 19 Mawrth.
Mi fydd y parc arfordirol yn agor y mis yma - y parc cyntaf newydd yn y ddinas ers oes Fictoria.
Mae'n cynnwys meinciau a phaneli solar fydd yn galluogi ymwelwyr yn gallu eu defnyddio i wefru batris ffonau symudol a chyfrifiaduron.
Enw'r llwybr i fyny at y bont newydd fydd Cupid Way ar ôl y rhedwr Cyril Cupid, o Abertawe, dorrodd sawl record yn ystod ei yrfa.
Fe oedd y Cymro cyntaf i redeg canllath mewn llai na 10 eiliad ac fe gynrychiolodd tîm cyntaf Cymru i gystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth (Gemau'r Gymanwlad erbyn hyn).
"Fe fydde fe wrth ei fodd," meddai ei nith, Olwyn Cupid.
"Nid dim ond am fod hyn yn dathlu ei lwyddiannau athletaidd, ond mae'n gydnabyddiaeth fod pobol ddu yn Abertawe.
"Does dim llawer medrwn ni ei wneud am ein hanes ni ond fe allwn ni wneud lot am ein dyfodol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys ym mhethau a bod Abertawe yn croesawu pawb," meddai.
Mae cam cyntaf Bae Copr yn rhan allweddol o'r cynllun i adfywio Abertawe, gydag amcangyfrif y bydd y cam cyntaf yn cyfrannu £17.1m y flwyddyn i economi'r ddinas.
Mae disgwyl rhagor o gyhoeddiadau am ragor o ddatblygiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019