Cei Connah: Pencampwyr y Cymru Premier yn colli 18 pwynt

  • Cyhoeddwyd
Cei Connah yn dathlu ar ôl cael eu coroni'n bencampwyr y gynghrair ym mis Mai 2021Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cei Connah yn dathlu ar ôl cael eu coroni'n bencampwyr y gynghrair ym mis Mai 2021

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi tynnu 18 pwynt oddi ar bencampwyr y Cymru Premier, Cei Connah ar ôl iddyn nhw ddefnyddio chwaraewr anghymwys.

Mae'n golygu fod y clwb yn disgyn i'r 11eg safle yn y tabl o 12, ac yn wynebu'r posibilrwydd o ddisgyn allan o'r gynghrair.

Roedd y clwb o Sir y Fflint yn anghytuno â'r cyhuddiadau ac fe gafodd y mater ei gyfeirio at banel annibynnol, sydd wedi dyfarnu'n erbyn y Nomadiaid.

Fe allai'r dyfarniad achosi dryswch i amserlen gemau'r gynghrair, sydd newydd ei hollti'n ddwy.

Llwyddodd Cei Connah i orffen yn bumed gyda 34 pwynt, ond mae colli 18 pwynt yn eu rhoi yn y 11eg safle.

Mae hynny'n eu rhoi 14 pwynt o flaen Derwyddon Cefn ar y gwaelod a chwe phwynt y tu ôl i Hwlffordd.

Bydd Caernarfon yn cymryd lle Cei Connah yn y chwech uchaf oherwydd y gosb.

Cei Connah heb weld e-byst hwyr

Roedd y cyhuddiadau'n ymwneud ag arwyddo cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Neal Eardley a chwaraewr canol cae Portiwgal, Paulo Mendes.

Dim ond un chwaraewr y gall clybiau'r Cymru Premier ei arwyddo am ddim rhwng diwedd ffenestr drosglwyddo mis Awst a dechrau ffenestr Ionawr.

Honnwyd eu bod wedi torri'r rheol trwy arwyddo Eardley ym mis Hydref, ar ôl arwyddo Mendes y tu allan i'r ffenestr drosglwyddo ar 2 Medi yn barod.

Ond mynnodd y Nomadiaid fod llofnod Mendes wedi'i gwblhau ar 31 Awst, o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer dod â chwaraewyr i mewn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe arwyddodd Neal Eardley - sydd wedi ennill 16 cap dros Gymru - i Gei Connah ym mis Hydref 2021

Cafodd William Norris QC ei benodi'n annibynnol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i edrych ar yr honiadau yn erbyn Cei Connah.

Yn ei ddyfarniad, dywedodd fod y clwb yn credu iddyn nhw arwyddo Mendes ar 31 Awst 2021 cyn i'r ffenestr drosglwyddo gau am hanner nos.

Ond ychwanegodd nad oedd y clwb wedi gwneud hynny'n llwyddiannus, ac fe roddwyd gwybod i'r clwb drwy e-bost am 23:34.

"Yn anffodus, doedd neb yn y clwb yn gwirio bod y broses wedi'i chwblhau'n llwyddiannus ac fe allai hynny, wrth gwrs, fod yn ddealladwy ar un ystyr o ystyried pa mor hwyr oedd hi," meddai.

"Serch hynny, roedd hynny'n anffodus mewn amgylchiadau lle mae cydymffurfio â'r gofynion cofrestru yn hollbwysig a phan oedd y cofrestriad yn cael ei wneud yn hwyr iawn yn y ffenestr drosglwyddo."

Roedd yn cydnabod y byddai goblygiadau "difrifol iawn" ar y maes chwarae ac yn y byd masnachol i'r clwb, sydd, meddai, yn cael ei redeg gan "bobl dda, weithgar".

Ni roddwyd unrhyw ddirwyon i'r clwb.

Dywed CBDC y bydd tabl y Cymru Premier yn cael ei newid i adlewyrchu'r sefyllfa a bydd y newidiadau i amserlen gemau'r gynghrair yn cael eu cyhoeddi maes o law.