'Angen cysondeb' ar asedau digidol wedi marwolaeth
- Cyhoeddwyd
22 mlwydd oed yn unig oedd Rowan Jones pan fu farw mewn damwain car ger Bangor.
Doedd Rowan a'i bartner, April, fel cwpl ifanc, ddim wedi paratoi am y fath amgylchiadau - a ddim wedi meddwl am ewyllys.
Ond yr hyn ddaeth yn drafferth annisgwyl i April oedd cael mynediad i gyfrifon ar-lein Rowan. Hynny yw, asedau digidol fel cyfrifon siopa ar-lein.
Yn ôl gwleidyddion ac un gyfreithwraig o ardal Pwllheli, mae "angen cysondeb" o ran polisïau cwmnïau ar asedau digidol.
Roedd marwolaeth Rowan yn sydyn ac yn sioc enfawr i'w deulu - yn enwedig i'w bartner, April Williams.
"Ar ôl gwaith aeth at ei ffrind i dropio presant gan fod o'n ben-blwydd ei ffrind gorau," dywedodd April.
"O'n i'n gweld o'n hir, nes i'm clywed dim felly nes i yrru tecst ato fo yn d'eud 'ti'n dod adref?'.
"Peth nesa', oedd yr heddlu yn cnocio ar y drws yn deud bod o 'di bod mewn damwain."
Mae ysgrifennu ewyllys yn gallu bod yn gam anodd ac yn gostus i lawer, felly nid pawb sydd wedi meddwl am ewyllys. Fel pâr ifanc, doedd y peth ddim wedi croesi eu meddyliau.
Ond llai fyth yw'r nifer sydd wedi meddwl am gynnwys asedau digidol yn eu hewyllys.
Lluniau, fideos, dogfennau pwysig, cyfrifon siopa ar-lein, cyfrifon e-bost, Bitcoin - mae'r rhain oll yn asedau gwerthfawr am resymau personol neu ariannol.
Ond beth sy'n digwydd iddyn nhw os ydy rhywun yn marw'n sydyn neu'n hynod sâl, a ddim wedi rhannu manylion fel cyfrineiriau?
'O'n i'm yn gallu defnyddio fo'
"Ges i drafferth efo Amazon account fo" meddai April.
"Doeddwn i'm yn gallu cael access iddo fo. 'Naethon nhw gymryd y pres allan o fy account i am Prime membership ond o'n i'm yn gallu ordro ddim byd na defnyddio fo.
"Pan nes i ffonio nhw, doedden nhw ddim yn helpful o gwbl ac roedden nhw'n reit anodd i ddelio efo."
Mewn datganiad, fe ddywedodd Amazon bod "eu tîm sy'n darparu cefnogaeth i berthnasau mewn profedigaeth yma i helpu" dan y fath amgylchiadau.
Ychwanegon nhw y dylai eu cwsmeriaid e-bostio eu gwasanaeth sy'n delio â materion yn ymwneud â phrofedigaeth.
Dyw'r trafferthion a gafodd April ddim yn unigryw. Wrth ein bod ni'n storio mwy a mwy o asedau yn y 'cwmwl', mae cyfreithwyr a gwleidyddion yn cydnabod bod angen mynd i'r afael â'r broblem.
Mae un gwleidydd yn San Steffan, Ian Paisley, yn galw am newid i'r gyfraith fel bod gan y teulu fynediad awtomatig i asedau digidol os yw rhywun yn marw neu'n wael iawn.
Yn ôl Mr Paisley: "Mae yna oddeutu £25bn o asedau ar ddyfeisiau digidol fel ffôn, neu laptop. Mi all hynny fod yn rhw'bath mor syml ag air miles. Mae yna lawer o asedau gwerthfawr yn y cwmwl."
"Mae angen i'r gyfraith ddal fyny gyda'r cwmnïau digidol. Mae gan bob cwmni digidol bolisi gwahanol ynghylch beth i'w wneud yn y fath sefyllfa ac mi all fod yn or-gymhleth a hynod gostus ar gyfer teuluoedd sy'n galaru."
'Y broblem yn mynd i gynyddu'
Mi wnaeth un teulu ddiolch i Mr Paisley am ei fesur, wedi iddyn nhw frwydro am flynyddoedd i gael mynediad i gyfrif Instagram eu merch.
Roedd rhieni Frankie Thomas, 15 oed o Surrey, a laddodd ei hun yn 2018, yn credu ei bod wedi cysylltu â rhywun dieithr drwy Instagram.
Eu pryder nhw ydy fod yna bobl beryglus yn cuddio ar y cyfryngau cymdeithasol a'u bod nhw'n cael eu diogelu gan reolau'r cwmnïau ynghylch preifatrwydd.
Yn ôl Meta, sy'n rhedeg Instagram, mae'n fater "cymhleth ac anodd" gan fod angen iddyn nhw gadw at reolau'n ymwneud â diogelu data a phreifatrwydd unigolion.
Ychwanegodd bod Instagram yn cynnig ffordd i'r proffil gael ei goffau, a bod Facebook yn cynnig ffordd i berthnasau allu ddileu cyfrifon, ac mae modd penodi'r hyn a elwir yn 'legacy contact'.
Mae cwmni Apple hefyd yn cynnig 'legacy tool' sy'n caniatáu i chi rannu allwedd arbennig gyda phum person fel bod ganddyn nhw fynediad i'r cyfrifon a dyfeisiadau petai rywbeth difrifol yn digwydd.
Yn ôl Elen Hughes, sy'n gyfreithwraig yn ardal Pwllheli, "mae'r trafferthion yn tarddu o'r ffaith nad oes 'na ddiffiniad o asedau digidol i gychwyn arni".
"Mae yna brinder canllawiau a rheolau," dywedodd.
"Mae gennych chi delerau gwahanol ar gyfer y gwahanol gwmnïau ac asiantaethau - tydyn nhw ddim yn gyson o ran eu telerau. Mae angen mwy o gysondeb.
"Mae'n broblem sy'n mynd i gynyddu.
"Mae llawer o'n bywydau ni ar y we rŵan gyda chyfryngau cymdeithasol, e-byst a ballu. Tydi pobl ddim yn sylweddoli pa mor bwysig ydy delio efo eich asedau digidol.
"Mae'n faes sy'n datblygu mor gyflym ond mae yna gamau gall pobl gymryd i helpu, fel ysgrifennu ewyllys er enghraifft, a rhowch restr o'ch asedion digidol yn yr ewyllys."
Un sydd wedi meddwl am ei asedau digidol ydy Billy Williams o gwmni Cufflink, yn enwedig wrth ystyried ei Bitcoin.
"Mae'n rhaid i chi gadw allwedd breifat ac os chi'n colli'r allwedd yna chi'n colli'r pres," meddai.
"Felly os chi'n meddwl am yr allwedd fath â rhifau, chi'n rhoi hanner y rhif i un twrnai a'r hanner arall i dwrnai arall - dyna be' dwi'n g'neud yn bersonol fel bod fy ngwraig yn gwybod sut i gael access.
"Ti'm isio colli fo gyd os ti'n farw nag wyt. Does 'na ddim llawer yn gwybod a tydi o ddim wedi sgwennu lawr yn nunlle.
"Mae rhaid i chi gadw rhestr - 'dan ni'n defnyddio password manager fel bod cofnod o be sydd gennyn ni. Password manager ydy'r ffordd fwya' hawdd i rannu'r manylion fel teulu."
Er nad yw'r llywodraeth yn San Steffan yn cefnogi mesur Mr Paisley ar hyn o bryd, mae'r llywodraeth wedi gofyn i'r Comisiwn Cyfreithiol adolygu'r gyfraith.
Mae'r comisiwn eisoes wedi cydnabod bod angen diwygio'r gyfraith, a bydd yn cyflwyno papur ymgynghorol yn hwyrach yn y flwyddyn.
Yn y cyfamser, y cyngor gan gyfreithwyr ydy "paratowch pan yn ifanc", yn enwedig wrth ystyried faint o'n bywydau ni sydd bellach ar-lein.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd2 Medi 2021