Arestio dau ar amheuaeth o gynnau tân gwair
- Cyhoeddwyd
Mae llanc 14 oed a dyn 20 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân gwair yn fwriadol yn ardal Blaenau Ffestiniog dros y penwythnos.
Dywedodd yr heddlu y cafodd y ddau eu harestio ar ôl ffoi oddi wrth swyddogion ger lleoliad y tân yn Nhanygrisiau ddydd Sul.
Mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad, gydag ymholiadau yn parhau i'r tân.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y fflamau wedi achosi "difrod mawr i'r tir".
Bu'n rhaid i 10 criw o ddiffoddwyr gael eu galw i ddelio â'r digwyddiad, oedd eisoes yn benwythnos prysur oherwydd nifer y tanau gwair yn yr ardal.
Mae criwiau yn parhau i ddelio â thanau yn ardaloedd Maentwrog ac Aberdeunant yng Ngwynedd.
'Peryglu bywydau diffoddwyr a'r cyhoedd'
Dywedodd yr Arolygydd Darren Kane o Heddlu'r Gogledd: "Mae cynnau gwair yn fwriadol yn beryglus a gall ledu allan o reolaeth yn gyflym.
"Mae'r tanau hyn yn peryglu bywydau'r diffoddwyr tân a'r cyhoedd. Mae digwyddiadau fel hyn yn faich ar y Gwasanaethau Achub pan fo angen eu gwasanaeth mewn llefydd eraill."
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Ychwanegodd Paul Scott o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Tra bod damweiniau'n gallu digwydd, mae yna rai o fewn ein cymunedau sy'n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol.
"Mae cynnau tanau'n fwriadol yn gwbl annerbyniol - mae hon yn drosedd y byddan nhw'n cael eu herlyn amdani."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2022