'Bydd annibyniaeth yn cymryd hirach na'r gobaith'
- Cyhoeddwyd
Bydd annibyniaeth yn "cymryd hirach nag y byddwn yn ei obeithio", yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Roedd Mr Price wedi dweud yn y gorffennol y byddai Cymru'n annibynnol erbyn 2030.
Mae'n dweud na ddylai cefnogwyr "ddigalonni" ond ni allai awgrymu pryd y bydd modd sicrhau annibyniaeth.
Dywedodd wrth BBC Cymru bod rhaid "ystyried yr effeithiau pell ac edrych ar y darlun ehangach".
Y llynedd fe ddywedodd Mr Price y byddai Plaid Cymru'n cynnal refferendwm annibyniaeth o fewn pum mlynedd pe tai'n dod i rym yn etholiadau'r Senedd.
Awgrymodd y byddai Cymru'n wlad annibynnol erbyn 2030.
Fe ddaeth y blaid yn drydydd yn y bleidlais tu ôl i Lafur Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig.
Ond mae'r blaid wedi dod i gytundeb i gydweithio gyda'r Llywodraeth Lafur sy'n cynnwys polisïau'n ymwneud â phrydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd a mesurau i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.
Wrth siarad ar raglen Politics Wales, dywedodd Adam Price bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod "yn tipyn o rollercoaster" i'r blaid - o "siom" canlyniadau etholiad mis Mai i "lwyddiant annisgwyl" y cytundeb gyda Llafur.
Mae'r blaid ar "ffordd hir", meddai, wrth ddewis peidio awgrymu dyddiad pa bryd y bydd pobl yn gallu cymryd rhan mewn pleidlais annibyniaeth.
'Yr unig ateb tymor hir'
"Ry'n ni'n credu taw annibyniaeth yw'r unig ateb tymor hir cynaliadwy i'r heriau y mae Cymru'n eu hwynebu.
"Gan ddysgu o wers y llynedd, mae'n rhaid i ni sylweddoli bod, wrth gwrs, bydd rhai o'r pethau 'ma'n cymryd hirach nag y byddwn yn ei obeithio neu'n ei ragweld.
"Dyw hynny ddim yn golygu bod rhaid i ni ddigalonni mewn unrhyw ffordd...
"Er na wnaethon ni lwyddo yn ein nod yn yr etholiad, os edrychwch chi ar sefyllfa Cymru ar y cyfan fe welwch chi'r holl bleidiau oedd yn dymuno dileu'r Cynulliad [neu'r Senedd fel y mae bellach] yn colli cefnogaeth."
"Yn nhermau'r sefyllfa'n fras yn y Senedd mae gyda ni nawr fwyafrif fawr o blaid hunan-lywodraethu.
"Mae'n rhaid i chi ystyried yr effeithiau pell ac edrych ar y darlun ehangach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2022