Straeon buddugol awduron ifanc cystadleuaeth Aled Hughes 2022

  • Cyhoeddwyd
Cafodd Leri Tecwyn, Sioned Medi Evans a Lleucu Gwenllian eu comisiynu i greu cloriau arbennig i'r dair stori fuddugol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Leri Tecwyn, Sioned Medi Evans a Lleucu Gwenllian eu comisiynu i greu cloriau arbennig i'r dair stori fuddugol

Ym mis Mawrth fe gyhoeddwyd enwau'r tri awdur ifanc a enillodd gystadleuaeth sgrifennu stori rhaglen Aled Hughes ar Radio Cymru: dyma'r cyfle cyntaf i ddarllen eu straeon buddugol gyda chloriau wedi eu comisiynu yn arbennig gan dri artist.

Mae'r artistiaid Leri Tecwyn, Sioned Medi Evans a Lleucu Gwenllian wedi creu cloriau arbennig ar gyfer straeon y tri enillydd ar y thema Y Gyfrinach - sef Gwenno o Ysgol ID Hooson yn y categori 5-7 oed; Harri o Ysgol Pont y Gof yn y categori 7-9 oed; ac Owain o Ysgol Cynddelw yn y categori 9-11 oed.

Cliciwch i ddarllen y dair stori fuddugol:

Fe wnaeth cannoedd o blant ateb yr her i ysgrifennu stori gan roi modd i fyw i'r beirniad, y gyflwynwraig a'r awdures Mari Lovgreen.

Meddai Mari: "Roedd gymaint o amrywiaeth a dychymyg yn y straeon ddaeth i law. Mae'n ddiddorol gweld y byd drwy lygaid plant yn tydy a roedd yna lot o hiwmor hefyd, ro'n i'n falch iawn o weld hynny. Roedd y safon yn ofnadwy o uchel a wnes i wir fwynhau'r gwaith darllen."

Ffynhonnell y llun, Mari Lovgreen
Disgrifiad o’r llun,

Mari Lovgreen

Hefyd o ddiddordeb: