Gwyrddion yn anelu at 'gyrraedd ffigyrau dwbl'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Blaid Werdd yng Nghymru yn dweud eu bod yn disgwyl y bydd nifer eu cynghorwyr sir yn "cyrraedd ffigyrau dwbl" wedi'r etholiadau lleol ym mis Mai.
Dim ond un sedd wnaeth y blaid ei chipio yn etholiadau lleol 2017 ond maen nhw'n dweud fod "mwy o ymgeiswyr ganddynt nag erioed o'r blaen a hynny ym mhob rhan o Gymru".
Mae 24 o ymgeiswyr y Blaid Werdd yn sefyll yng Nghaerdydd dan faner y "Cynghrair Tir Cyffredin' lle mae Plaid Cymru a'r Gwyrddion wedi cytuno i weithio gyda'i gilydd.
Dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd y Gwyrddion yng Nghymru, y byddai cynghorwyr y gwyrddion yn ffocysu ar "fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac anghyfiawnder cymdeithasol".
'Synau cywir'
Yn ôl y blaid y prif amcanion fydd sicrhau tai sydd wedi eu hinswleiddio ac yn fwy diogel, gweithredu ar newid hinsawdd ac atal defnyddio tanwydd ffosil fel modd o leihau'r cynnydd mewn costau byw.
"Ni yw'r llais cryf gwyrdd yn yr ystafell. Rydym wedi gweld cynghorau ledled Cymru yn cyhoeddi fod yna argyfwng hinsawdd.
"Mae'r synau cywir i'w clywed ond nid y gweithredodd," meddai Mr Slaughter.
"Mae angen cynghorwyr y Blaid Werdd yn y siambrau, i wneud yn sicr fod pethau yn cael eu gwneud yn gyflym yn ein cymunedau - gan gynnwys taclo newid hinsawdd a'r argyfwng o ran anghyfiawnder cymdeithasol.
"Rydym yn ymgeisio mewn pob cyngor yng Nghymru. Ein nod yw gwella ar ein canlyniadau gorau erioed yn etholiad y Senedd y llynedd a gweld Gwyrddion yn cael eu hethol mewn cynghorau ar draws Cymru."
Fe wnaeth y blaid sicrhau 1.2% o'r bleidlais - 12,441 - yn etholiadau lleol yn 2017, gan ennill un sedd cyngor ym Mhowys.
Yn etholiadau'r Senedd y llynedd fe wnaeth y blaid sicrhau ei phleidlais uchaf erioed.
Fe wnaeth eu canran yn yr etholiadau rhanbarth gynyddu 1.4% i 48,714. Ond roedd yna ostyngiad o 0.7% yn ei phleidlais o ran cyfanswm yr etholaethau unigol.
Etholiadau Lleol 2022
Eleni mae'r Gwyrddion wedi dod i gytundeb gyda Phlaid Cymru yng Nghaerdydd o ran ymladd wardiau ar y cyd - dan y faner Cynghrair Tir Cyffredin.
"Rydym yn sefyll fel un plaid yng Nghaerdydd er mwyn cyflwyno'r newidiadau y mae Caerdydd wirioneddol eu hangen.
"Ond mae'n rhaid imi bwysleisio fod hyn ond ar gyfer Caerdydd.
"Mae pobl yn gwerthfawrogi pleidiau yn cydweithio ac rwy'n obeithiol fod hyn yn ddechrau ar gydweithio ar wahanol lefelau, ddim o reidrwydd ar y lefel eithafol yma, ond ar wahanol lefelau ar draws Cymru," ychwanegodd y blaid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022