Casglu sbwriel: Pwnc o bwys ar drothwy'r etholiad?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lori sbwriel/pleidlaisFfynhonnell y llun, BBC/Getty Images

Os nad ydych chi'n awyddus i drin y tywydd wrth chwilio am bwnc trafod rhwng dau, mae 'na un pwnc arall sy'n siŵr o gynnal sgwrs ar gornel stryd neu dros baned.

Beth yw hwnnw felly? Wel, eich gwasanaeth casglu gwastraff lleol.

Yr hyn sydd yn amlwg iawn wrth ddechrau ymchwilio i'r mater yw bod gan bob un o awdurdodau lleol Cymru drefn ychydig yn wahanol i'w gilydd.

Tra bod rhai yn bodloni i chi daflu'r holl ddeunyddiau ailgylchu i un bag, mae eraill yn mynnu eich bod chi'n rhannu eich papur a'ch plastig, eich tuniau, a'ch poteli.

Mae ambell awdurdod lleol yn casglu biniau du bob tair wythnos ond eraill bob pythefnos.

Ond pa mor ddifrifol mewn gwirionedd yw'r pwnc i etholwyr ar lawr gwlad?

Er mwyn cael trawstoriad o safbwyntiau aeth Newyddion S4C i holi trigolion ardal Brynaman, Cwmllynfell ac Ystradgynlais. Dyma'r ardal lle mae tair sir yn cwrdd sef siroedd Caerfyrddin, Powys a Chastell-nedd Port Talbot.

Bag sbwriel ailgylchu
Disgrifiad o’r llun,

O'r rhai a holwyd ym Mhowys roedd yna fwy o bryder am gasglu'r bagiau gwastraff cyffredinol

Ar y stryd fawr ym Mhowys, yr un gŵyn gododd droeon oedd y ffaith mai bob tair wythnos y mae'r bagiau gwastraff cyffredinol yn cael eu casglu.

Dywedodd un o'r trigolion: "Mae e yn galed achos mae anabledd gen i. Felly weithiau, dwi'n methu mynd mas i ddodi'r bins mas ac mae'n cymryd tair wythnos iddyn nhw ddod. Felly mae e'n broblem. Mae ishe'r biniau du i ddod tamaid bach yn fwy aml."

Popeth ar wahân yn dda

I un arall serch hynny, doedd hynny ddim yn gymaint o broblem ac roedd y ffaith bod 'na gyfle i rannu'r gwastraff ailgylchu i dri bocs, sy'n cael eu casglu'n wythnosol, yn cael ei groesawu.

"Bob wythnos mae'r recycling, y bins bach ti'n gwybod yn dod. Chi'n gorfod rhannu'r cyfan, y tins, y plastics, a'r papur a'r cardboard, yn separate yn pob un…

"Ydw fi'n eitha' hapus ag e. Dwi'n byw wrth fy hunan felly dwi'n ddigon hapus."

vox
Disgrifiad o’r llun,

Mae Martin Gray o Gwmllynfell yn canmol y gwasanaeth casglu sbwriel ond yn Ystradgynlais roedd 'na un siopwraig yn galw am gasglu gwydr ar wahân

Draw yng Nghwmllynfell, roedd Martin Gray yn llawn canmoliaeth o'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

"Mae'r cardboards, mae'r glass, a'r plastics, i gyd mewn bags individual. Popeth ar wahân. Pan ti'n dachre off, ti'n meddwl bod 'na lot o waith, ond unwaith ti'n cael y bags a separato nhw mas, ti'n deall y system ac mae e'n gweithio mas yn well wedyn."

Yn Sir Gaerfyrddin ar y llaw arall, sydd dafliad carreg o'r neuadd yng Nghwmllynfell, un bag glas sy'n cael ei roi ar gyfer yr holl ddeunyddiau ailgylchu. Dyw hynny ddim wrth fodd Roydon Morgan.

"Mae ishe gwella, ac mae lle i wella. Dylen nhw rannu pethe fel papur, a cardboard a plastic mewn gwahanol bag. Bydde hwnna yn lot mwy effeithiol, a bydd e lot yn haws i'r cyngor ar ddiwedd y dydd.

"Mae'r system yn dda," meddai Roydon. "Ond mae 'na le i tweako fe, a tweako a tweako fel bod e'n gwella wedyn."

sach las
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl rhai byddai'n well gwahanu deunyddiau yn well yn hytrach na rhoi pob dim mewn un sach

I Sandra ar y llaw arall, mae gwasanaeth Sir Gaerfyrddin yn ardderchog.

"Rwy'n byw yn Sir Gaerfyrddin ac mae popeth yn gweithio mas yn iawn fel dw i'n ei weld e, ac mae'r dynion sy'n dod â'r bins yn hyfryd.

"Mae un bin lle chi'n rhoi mewn eich gwastraff bwyd, ac maen nhw'n dod 'nôl â hwnna i'r drws i chi so maen nhw'n dda iawn."

Yn Sir Gâr serch hynny, does 'na ddim gwasanaeth casglu gwydr, ac mae hynny yn siom i un oedd yn siopa ar y stryd yn Ystradgynlais.

"Na, dy' nhw ddim yn dod i ôl y gwydr - a hwnna hoffen i - 'sen i'n cael bag arall neu focs. Rhaid i fi ddweud, o ran sir Gaerfyrddin, s'dim problem gyda fi, ond 'se fe yn neis os delen nhw i ôl y gwydr o'r tŷ."

Mae yna amrywiaeth felly o ran y drefn a'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig, a'r un yw'r patrwm wrth edrych ar y sefyllfa drwy Gymru gyfan.

Baner

Etholiadau Lleol 2022

Linebreak

Newid yn Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych newydd gyhoeddi cynllun newydd fydd yn dechrau yn Hydref 2023.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Bydd y gwasanaeth ailgylchu gwastraff cartref newydd yn gweld casgliad wythnosol newydd ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy sych fel papur, gwydr, caniau, a phlastig, casgliad wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd a chasgliad newydd bob pythefnos ar gyfer dillad ac eitemau trydanol bychan.

"Bydd casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu yn newid o bob yn ail wythnos i bob pedair wythnos ac yn lle'r biniau du 140 litr presennol, bydd y Cyngor yn darparu biniau du newydd, mwy 240 litr yn lle hynny, lle bo angen."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Gyda chymaint o amrywiaeth felly o sir i sir, mae Cadwch Cymru'n Daclus yn teimlo y gallai mwy o gysondeb fod o fudd.

Dywedodd Nia Lloyd o'r elusen: "Mae e'n anodd iawn i ni ddweud shwt ddylai pob awdurdod lleol weithio neu os oes yna bethau allai nhw ei wneud yn well.

"Ond hefyd ni'n gwybod bod gan y cynghorau hynny reswm i roi'r rheolau mewn lle - falle does ganddyn nhw ddim yr infrastructure neu'r ffyrdd i ailgylchu.

"Ond os allwn ni weld fod pob lle yn cymryd yr un pethau, neu o leiaf yn rhoi'r un math o wybodaeth, dyna'r peth ni mo'yn gweld."

Beth bynnag y drefn, mae'n amlwg yn bwnc sy'n cael ei gymryd o ddifrif gan etholwyr, a hefyd yn her i'r cynghorwyr hynny fydd yn cael eu hethol ar 5 Mai.

Pynciau cysylltiedig