Diwedd y gân i Gôr Dyffryn Tywi wedi bron hanner canrif

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ar un adeg, roedd dros 40 o ddynion yn canu gyda Chôr Meibion Dyffryn Tywi, ond erbyn hyn does ond 12

Ar ôl bron i hanner can mlynedd o ganu, mae un o gorau meibion Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu rhoi'r gorau iddi.

Ar un adeg, roedd dros 40 o ddynion yn canu gyda Chôr Meibion Dyffryn Tywi, ond erbyn hyn does ond 12.

Er gwaethaf ymgyrchoedd recriwtio, dyw'r côr heb lwyddo i ddenu cantorion newydd.

Fe fues i yn ymarfer olaf y côr yn nhafarn y Red Lion, Llandyfaelog, lle maen nhw wedi bod yn cwrdd ers chwarter canrif.

Roedd yna deimlad o dristwch ymysg y dynion o bentrefi fel Mynyddygarreg, Trimsaran, Pont-iets, a Bancffosfelen ond hefyd tipyn o falchder wrth drafod be maen nhw wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd.

'Trueni'

Ffynhonnell y llun, Côr Dyffryn Tywi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y côr ei sefydlu 47 o flynyddoedd yn ôl

"Mae'n amser trist ac emosiynol," meddai Derrick Rowlands, ysgrifennydd y côr, "ond s'dim llawer mwy allwn ni wneud.

"Ni wedi trial ymhob ffordd posib. Ry'n ni 'di bod ar Twitter a Facebook. 'Rwy 'di neud apêl ar raglen Shân Cothi.

"Mae'r bechgyn 'di bod rownd yn gofyn i bobl i ddod. Mae'n drueni mawr. Gallen ni ddim 'di gweithio mwy caled i drio cadw fynd.

Disgrifiad o’r llun,

Derrick Rowlands yw ysgrifennydd y côr

"Ni lawr i ddwsin o aelodau. Ni 'di bod yn chwilio am aelodau ers tua pum mlynedd ond heb fawr o lwc.

"Fe wn'ethon ni lwyddo i gadw fynd achos bod balans y lleisie' yn iawn, ond nawr dyw y balans ddim yno.

"Roedd pawb ishe cadw fynd ond yn gw'bod allen ni ddim 'neud. Ni ddim mo'yn cwpla. Ni'n gorfod 'neud hyn."

'Wedi mwynhau pob eiliad'

Mae Derrick ei hun wedi bod yn aelod ers 27 mlynedd, ac yn ysgrifennydd ers chwarter canrif.

"Rwy 'di mwynhau pob eiliad, ac wedi gweithio gyda thîm gwych. Fe fyddai yn gweld isie' fe," meddai.

Ffynhonnell y llun, Côr Dyffryn Tywi

"Buon ni yn ymarfer unwaith yr wythnos ac wedyn mas unwaith neu ddwywaith bron bob mis yn canu, a chyn 'Dolig bydden ni yn ymweld â thua wyth neu naw o gartrefi gofal lleol.

"Roedd ymweliadau fel 'na yn rhoi boddhad mawr i ni gyd. Fe fydd yr ardal yn gyfan yn gweld isie' y côr yma."

Talcen caled

Mae'r côr wedi teithio a chystadlu yn helaeth dros y blynyddoedd, ac wedi codi arian mawr i helpu elusennau lleol.

Er mor frwdfrydig yr aelodau, sydd yn amlwg wrth eu boddau yn canu, doedd hi ddim yn bosib i barhau â chyn lleied o gantorion, er siom i'r arweinydd, Davinia Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Yr arweinyddes, Davinia Davies (dde) gyda rhai o aelodau'r côr ar noson eu hymarfer olaf

"Mae'n dipyn o broblem ac yn dalcen caled," meddai. "Yn draddodiadol mae corau meibion wedi ffynnu ar aelodau o'r teulu yn dod... y tad, y mab a'r brawd a'r wncwl.

"A bydd bwrlwm canu o fewn teulu ac roedd e hefyd yn r'wbeth i 'neud â'r traddodiad canu yn y capeli a phobl yn canu yn reddfol a naturiol, a fi'n credu fod peth o hwnna yn cael ei golli nawr."

Mae hi'n cyfaddef fod y pandemig wedi bod yn broblem, ond hyd yn oed cyn argyfwng Covid-19, roedd y niferoedd yn gostwng.

"Rwy'n credu mai y broblem fwya' yw faint o amser sy' angen rhoi i ymarferion wythnosol a chyngherddau, achos ma' lot o bethe 'mla'n gyda phobl yn eu bywydau bob dydd," meddai.

"Roedd gen i bryder am gorau meibion cyn y pandemig, mewn gwirionedd."

'Mae fy nyddiau canu i ar ben'

Aelod hynaf y côr yw Irfon Davies - tipyn o gymeriad, sydd â chwerthiniad iach a hiwmor naturiol.

Ond wrth ofyn iddo pa mor bwysig yw'r côr iddo, mae ei emosiwn yn amlwg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Irfon Davies wedi canu gyda'r côr am 46 o flynyddoedd

"O, nefi blw, allai ddim explaino pa mor bwysig yw y côr hyn i fi. Mae e yn 100% - allen i ddim byw hebddo fe," meddai.

"Fi 'di bod yn aelod am 46 mlynedd, erioed wedi cael gair gwael gyda neb."

Rwy'n gofyn iddo beth fydd ei gynlluniau ar gyfer nos Fawrth yn y dyfodol - noswaith ymarfer y côr.

"Good question," medde fe. "Symo i'n gw'bo' eto... symo i'n gw'bod beth bydda i'n 'neud, â dweud y gwir. Ond allen ni ddim di cario 'mla'n nawr.

"Mae fy nyddiau canu i ar ben... alla'i ddim mynd i gôr arall achos mae fy ngolwg yn pallu a galla' i ddim dysgu y caneuon.

"Ond mae repertoire Dyffryn Tywi gyda fi i gyd ar y cof... ac fe fydd gyda fi am byth!"

Ffynhonnell y llun, Côr Dyffryn Tywi
Disgrifiad o’r llun,

Clawr un o recordiau'r côr

Wrth i'r ymarfer dynnu at y terfyn mae'r aelodau'n pacio eu copïau ac yn paratoi i droi am adre'.

Mae'r stafell yn tawelu, ond wrth ffarwelio, mae un aelod yn bloeddio: "Peidiwch becso bois! Bydd ein canu ni dal yn fyw... ar record, yn y cof, ac yn ein calonnau."

Pynciau cysylltiedig