Dinas Bangor: 'Mae'n bechod i'r chwaraewyr, i'r dref, i'r gymuned'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"'Di o'm yn teimlo fatha Bangor dim mwy," meddai Gwydion Edwards

Mae ymchwiliad gan BBC Cymru i ddirywiad un o glybiau pêl-droed enwocaf Cymru - CPD Dinas Bangor - wedi clywed gan chwaraewyr gafodd eu harwyddo'n broffesiynol o Dde America ac Ewrop sy'n dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd bwydo'u hunain - er bod y clwb wedi hawlio hyd at £375,000 o arian ffyrlo.

Mae rhaglen BBC Wales Investigates nos Fawrth, 'The Hidden World of Football', yn edrych ar stori Domenico Serafino, canwr pop wnaeth hefyd brynu dau glwb pêl-droed yng Nghymru a'r Eidal sydd wedi mynd ar chwâl ers hynny.

Mae'r rhaglen hefyd yn datgelu fod gan un o gysylltiadau busnes Mr Serafino gysylltiadau blaenorol gyda'r Mafia.

Dywedodd Mr Serafino mai'r pandemig a dyledion annisgwyl oedd yn gyfrifol am drafferthion ariannol y clwb, a'i fod wedi talu arian ffyrlo i'r chwaraewyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Domenico Serafino'n mynnu ei fod wedi talu arian ffyrlo i chwaraewyr y clwb

Mae gan CPD Dinas Bangor hanes cyfoethog, gan cynnwys gemau Ewropeaidd yn erbyn Atletico Madrid a Napoli, ac roedden nhw'n un o'r clybiau gwreiddiol pan sefydlwyd Uwch Gynghrair Cymru.

Ond erbyn 2019, hyd yn oed cyn i Domenico Serafino ddod i Gymru, roedd y clwb eisoes mewn trafferthion ar ac oddi ar y cae.

'Rhan fawr o'r gymuned yma'

Disgrifiad o’r llun,

Dylan a Frida Fernley, sydd bellach yn cefnogi Bangor 1876 - clwb a'i sefydlwyd gan y cefnogwyr

Ymhlith cefnogwyr oes y clwb oedd Dylan Fernley a'i ferch Frida.

"Roedden ni'n falch o hanes Dinas Bangor. Mae o'n rhan fawr o'r gymuned yma," meddai Dylan, 62.

Ychwanegodd Frida, 19: "Mae Bangor wastad wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd. Mae o'n un o'r pethau yna lle roeddach chi'n teimlo'r ysbryd cymunedol yna ym mhob gêm."

'Y bybl yn siŵr o fyrstio yn y diwedd'

Disgrifiad o’r llun,

Mathew Jones: 'Ges i fy nal i fyny efo cyffro'r holl beth'

Pan brynodd Mr Serafino y clwb dair blynedd yn ôl, cafwyd addewid y byddan nhw'n esgyn yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru, ac y byddai cysylltiad yn cael ei sefydlu rhwng academi'r clwb a'r cewri Eidalaidd, Inter Milan.

Roedd Matthew Jones, 23, wedi cefnogi'r clwb ers yn blentyn ac fe neidiodd ar y cyfle i ddod yn swyddog i'r wasg arnynt.

"Ges i fy nal i fyny efo cyffro'r holl beth," meddai.

"Wrth i'r wythnosau a'r misoedd basio, roedden ni'n siarad i'n gilydd a meddwl bod y bybl yma'n tyfu a thyfu, a bod o'n siŵr o fyrstio yn y diwedd."

Ffynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Pedro Pasculli, a enillodd Cwpan y Byd gyda'r Ariannin yn 1986, yn reolwr am gyfnod dan Serafino

Ymhlith y rheolwyr nodedig a benododd Mr Serafino i'r clwb roedd Pedro Pasculli, enillydd Cwpan y Byd gydag Ariannin fel chwaraewyr, a chyn-chwaraewr Barnsley Hugo Colace, ac fe gafodd nifer o chwaraewyr o wledydd fel yr Ariannin a'r Eidal eu harwyddo hefyd.

Ond erbyn diwedd 2021 fe wnaeth panel disgyblu Cymdeithas Bêl-droed Cymru orchymyn Bangor i dalu gwerth £53,000 o gyflogau oedd heb eu talu i chwaraewyr a staff.

Cafodd y clwb hefyd eu gwahardd o "weithredoedd pêl-droed", ac erbyn mis Chwefror eleni roedden nhw wedi tynnu allan o gynghrair y Cymru North.

Ffynhonnell y llun, CPD Dinas Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clwb wedi bod mewn trafferthion ariannol ers symud o Ffordd Farrar i stadiwm Nantporth yn 2011

Mae sawl chwaraewr bellach wedi dweud wrth BBC Wales Investigates bod pethau wedi mynd mor wael fel eu bod nhw'n mynd heb fwyd ar adegau.

"Dwi 'di gweld pobl ar breaking point, i fod yn onest," meddai Mathew Jones.

'Sefyllfa wael iawn'

"Doedden ni heb fwyd, a bydden ni'n dod at ein gilydd achos roedden ni'n byw ar yr un stryd.

"Roedden ni'n trio gwneud prydau mawr i'n gilydd i drio arbed arian. Roedd lot o'r chwaraewyr yn dioddef. Roedd o'n sefyllfa wael iawn, iawn."

Cafodd Mariano Barufaldi, 29, ei arwyddo fel golwr i Fangor, ond mae'r Archentwr bellach wedi gadael y clwb ac yn chwarae yn Yr Eidal.

"Roedden ni'n gweld bod rhai chwaraewyr yn cael eu talu yn normal," meddai.

"Ond doedd rhai ddim yn cael eu talu, neu'n cael eu talu fisoedd yn hwyrach. Roedd o'n annheg iawn ac ac anghyfartal iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Does yr un gêm bêl-droed wedi'i chwarae ar stadiwm Nantporth ers misoedd

Mae ymchwiliad BBC Wales Investigates hefyd wedi canfod bod CPD Dinas Bangor wedi hawlio hyd at £375,000 o arian ffyrlo yn ystod Covid, ond yr honiad yw nad oedd chwaraewyr a staff wastad yn ei dderbyn.

"Ar y dechrau byddech chi'n gweld pedwar neu bump chwaraewr ddim yn cael eu talu o'r arian ffyrlo bob mis," meddai Mr Jones.

"Ond erbyn y diwedd roedd y garfan gyfan yn yr un cwch. Dwi ddim yn gwybod lle aeth yr arian ffyrlo yna, ond aeth o ddim i'n pocedi ni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y clwb Eidalaidd Sambenedettese ei daflu o'r gynghrair lai na blwyddyn wedi i Serafino ei gymryd drosodd

Yn ystod ymchwiliad BBC Cymru daeth i'r amlwg fod Domenico Serafino, 55, yn berchen ar glwb arall - AS Sambenedettese Calcio yn Yr Eidal - oedd yn defnyddio cyfrifydd oedd â chysylltiadau blaenorol gyda'r Mafia.

Cafodd Ignazio Spinnato ei ddedfrydu yn 2010 am ei ran mewn troseddau cyffuriau a gwyngalchu arian gyda mafia 'Ndragheta, yr un mwyaf pwerus a pheryglus yn Yr Eidal.

Ond mae BBC Cymru wedi gweld neges ble mae Mr Serafino yn cyfeirio at Spinnato fel "ymgynghorydd busnes" iddo, ac mae cyfeiriad ei gwmni hefyd yn gysylltiedig ag un Mr Serafino.

'Rhaid i rywun fod yn atebol'

Does gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ddim prawf i berchnogion a chyfarwyddwyr clybiau pêl-droed er mwyn eu gwirio nhw, fel sy'n digwydd yn Lloegr.

Ond mae Terry Steans, sy'n ymchwilydd i FIFA ar daclo llygredd yn y byd pêl-droed, yn credu y dylai rheolau Cymru nawr gael eu tynhau.

Disgrifiad o’r llun,

Terry Steans: 'Breuddwyd llawer o blant o chwarae dros CPD Dinas Bangor wedi'u chwalu'

"Pwy oedd yn edrych mewn iddo fo a'i arian? Pwy wnaeth wirio fod ganddo fo'r arian i brynu'r clwb a'i gynnal? Mae'n rhaid i rywun fod yn atebol," meddai.

"Mae'n bechod i'r chwaraewyr, i'r dref, i'r gymuned. Maen nhw wedi colli allan, a breuddwyd llawer o blant o chwarae dros CPD Dinas Bangor wedi'u chwalu."

Dywedodd CBDC fod ganddyn nhw Gôd Moeseg er mwyn gwarchod integriti ac enw da pêl-droed yng Nghymru, ac y bydden nhw'n "edrych ar y gwersi" allai gael eu dysgu o ran prawf i berchnogion a chyfarwyddwyr.

'Cyd-fuddsoddwr wedi tanseilio'r clwb'

Dywedodd Domenico Serafino mai'r pandemig a dyledion annisgwyl a etifeddodd oedd wedi atal Bangor rhag dychwelyd i Uwch Gynghrair Cymru.

Mewn ymateb i gwestiwn am ei gysylltiad gyda'r cyfrifydd, dywedodd Mr Serafino ei fod wedi defnyddio ei "waith artistig" i ymladd yn erbyn llygredd a'r Mafia.

Mynnodd ei fod wedi pasio'r holl arian ffyrlo ymlaen i chwaraewyr, gan feio cyd-fuddsoddwr, Kim Dae Jung, am danseilio Bangor a'r clwb yn Yr Eidal er ei fudd personol.

Dywedodd Kim Dae Jung nad oedd yn gallu gwneud sylw am resymau cyfreithiol, a hynny wedi adroddiadau ei fod wedi buddsoddi dros ddau filiwn Ewro yn y ddau glwb.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bangor 1876 bellach wedi'i sefydlu ac yn chwarae yn Nhreborth, ar gyrion y ddinas

Ond ym Mangor mae'r niwed wedi ei wneud, gyda'r rhan fwyaf o gefnogwyr y clwb bellach wedi mudo draw i glwb Bangor 1876, gafodd ei ffurfio dair blynedd yn ôl gan eraill oedd wedi eu dadrithio gan y datblygiadau.

"Mae'n bechod beth sydd wedi digwydd i Ddinas Bangor, ond mae'r hanes a'r angerdd wedi cario 'mlaen a symud drosodd i Bangor 1876," meddai Frida Fernley.

"Felly mae o dal yna, a 'dan ni dal yn rhan ohona fo."

The Hidden World of Football, BBC One Wales, 20:00 nos Fawrth 24 Mai 2022, ac yna ar BBC iPlayer.

Pynciau cysylltiedig