Wrecsam 'angen cwblhau'r daith' i gael dyrchafiad
- Cyhoeddwyd
Mae un o berchnogion byd-enwog Clwb Pêl-droed Wrecsam yn dweud mai dyrchafiad o Gynghrair Genedlaethol Lloegr ydy'r "peth pwysig" wrth i'r tîm baratoi at y gemau ail-gyfle.
Ddydd Sadwrn, bydd Grimsby yn dod i'r Cae Ras ar gyfer y rownd gyn-derfynol, gyda'r enillwyr yn herio Solihull Moors neu Chesterfield yn Llundain yr wythnos nesaf.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Rob McElhenney, bod Wrecsam wedi "cyflawni" sawl un o'u hamcanion am y tymor, ond mae angen "cwblhau'r daith" drwy ddod â'u cyfnod o 14 blynedd yn yr un adran i ben.
Ychwanegodd Mr McElhenney, seren y rhaglen gomedi It's Always Sunny in Philadelphia, fod pawb wedi eu "siomi" gan ganlyniad gêm ddiwethaf y tîm, sef y golled yn rownd derfynol Tlws FA Lloegr ddydd Sul.
'Rhaid cwblhau'r daith'
"Yn y diwedd, does dim ots am y gêm yna, y peth pwysig ydy dyrchafiad.
"'Dan ni'n credu [mewn dyrchafiad], mae'n amlwg bod y gefnogaeth gennym ni, ac mewn sawl ffordd 'dan ni wedi cyflawni'r hyn 'roedden ni am ei gyflawni, ond mae'n rhaid cwblhau'r daith rŵan."
Un fydd yn gwylio ar y Cae Ras ydy Cledwyn Ashford, y sgowt sydd wedi datblygu llawer o dalentau pêl-droed lleol.
"Mae'r gêm heddiw yn golygu gymaint, mae'n golygu popeth i'r giaffar, dyma'r gêm iddo fo," meddai.
"Ac wrth gwrs, y chwaraewyr - be' maen nhw isio ydy chwarae ar y safon uchaf eto."
Dywedodd ei fod yn falch o weld pwysigrwydd y chwaraewr ifanc lleol Max Cleworth yn y garfan, ochr yn ochr ag ymosodwyr medrus fel Paul Mullin ac Ollie Palmer.
"Fydd hi'n gêm anodd," meddai, "mae Grimsby yn dîm caled, maen nhw'n physical... a dwi'n meddwl bydd y bêl yn yr awyr cryn dipyn.
"Fydd y giaffar wedi dweud wrthyn nhw beth yn union i'w ddisgwyl, ond mi fydd hi yn gêm galed."
Yn ystod rownd derfynol Tlws FA Lloegr yn Wembley ddydd Sul, derbyniodd Mr Ashford wobr i gydnabod ei waith yn datblygu chwaraewyr ifanc.
"Roedd y gydnabyddiaeth o gael y darian 'ne yn Wembley yn rhywbeth wna' i byth ei anghofio," meddai.
"Ond o'n i'n ei wneud o ar ran pawb sydd fel fi wedi rhoi miliynau o oriau i mewn, ac mae 'ne gymaint yn gwneud hynny."
'Barod amdani'
Yn y diwedd, penderfyniadau'r chwaraewyr a'r rheolwr fydd yn siapio ffawd Wrecsam yn erbyn Grimsby, ac mae'r hyfforddwr Phil Parkinson yn hyderus y bydden nhw'n wynebu'r gêm fawr gyda hyder.
"Fe fydd yr awyrgylch yn anhygoel, a 'dan ni'n barod amdani," meddai.
"'Dan ni wedi chwarae llawer o gemau mawr ar y Cae Ras eleni ond mae hwn yn wahanol gan fod yr enillwyr yn mynd drwodd a'r lleill yn mynd allan.
"'Dan ni'n edrych i berfformio fel 'dan ni wedi gwneud yma drwy'r tymor. Os wnawn ni hynny, mi fydd gennym ni gyfle i da, ond mae'n rhaid inni berfformio i lefel uchel."
Yn y cyfamser, mae Rob McElhenney a'i gyd-seren Hollywood, Ryan Reynolds, yn teimlo'r holl optimistiaeth sydd ynghylch y clwb yn y ddinas ac ar hyd y gogledd.
"Dwi'n ei deimlo pan dwi'n cerdded o gwmpas y lle, a dwi'n falch o hynny ac yn gobeithio cario 'mlaen i adeiladu arno fo," meddai Mr McElhenney.
"Un o'r amcanion o ran y clwb, a'r rhaglen ddogfen i ryw raddau, ydy codi ymwybyddiaeth o Wrecsam a gogledd Cymru, a'r hyn maen nhw yn ei gynrychioli."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2022
- Cyhoeddwyd15 Mai 2022
- Cyhoeddwyd8 Mai 2022