Prif wobrau celf Eisteddfod yr Urdd i Catrin a Nel
- Cyhoeddwyd
Mae'r Urdd wedi cadarnhau enillwyr prif wobrau adran gelf Eisteddfod Sir Ddinbych 2022.
Catrin Jones, sy'n 18 oed ac o Lanwnnen yng Ngheredigion, yw enillydd Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc, ac mae'n derbyn gwobr o £2,000.
Nel Thomas, disgybl 16 oed o Gaerdydd, yw enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.
Mae Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc yn gwobrwyo'r gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng Blwyddyn 10 ac o dan 25 oed.
Mae Catrin Jones newydd gwblhau ei harholiadau Lefel A mewn Celf, Hanes ac Addysg Grefyddol yn Ysgol Bro Pedr, Llambed ac yn gobeithio dilyn cwrs sylfaen mewn celf ac yna gwrs gradd.
Ar gyfer y gystadleuaeth fe gyflwynodd ei gwaith cwrs Safon Uwch gan ddewis y thema 'static'. Ei nod oedd crynhoi ei diddordeb mewn materion fel hawliau menywod a iechyd meddwl gan greu darnau sy'n cael eu disgrifio'n rhai "anarferol a thywyll".
Dywed Catrin bod ei diddordeb mewn celf wedi dwysáu yn ystod y cyfnod clo wrth iddi astudio ar gyfer ei chyrsiau TGAU a Safon Uwch.
"Byddaf yn defnyddio'r arian i brynu deunyddiau, gan fod defnyddiau celf yn mor ddrud!" meddai.
"A byddaf hefyd yn ei ddefnyddio ar gyfer teithio i ddinasoedd i gasglu ysbrydoliaeth a syniadau ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol."
'Sgiliau aeddfed'
Dywedodd y beirniaid, Anna Pritchard a Ffion Pritchard, bod safon gwaith y gystadleuaeth yn uchel iawn a'r gwaith yn amrywiol.
"Dangosodd yr enillydd sgiliau aeddfed ac amrywiaeth yn ei gwaith gyda gwahanol gyfryngau," medd y ddwy yn eu beirniadaeth.
"Mae'r gwaith yn creu elfen o sioc, yn destun sy'n gyfredol ac yn destun sgwrsio. Mae'r elfen 3D yn dod ag elfennau gwahanol i'r gwaith."
Mae'r Fedal Gelf yn cael ei dyfarnu am gyflwyno'r gwaith mwyaf addawol yn y categori oedran blwyddyn 10 ac o dan 19 oed.
Mae Nel Thomas, disgybl yn Ysgol Gyfun Cymraeg Plasmawr, Caerdydd, newydd sefyll ei arholiadau TGAU yn cynnwys Celf, Cerdd a Graffeg.
"'Dwi wedi cystadlu sawl gwaith a chyflwyno gwaith 3D yn y gystadleuaeth Celf a Chrefft gyda fy efaill, Casi - ers i ni fod yn y Dosbarth Derbyn," meddai.
"'Dwi wrth fy modd yn gwneud gwaith creadigol, yn astudio ac yn arlunio wynebau. Rwy'n mynd ati i greu darlun - o'm dychymyg yn aml ac yn mwynhau creu darnau du a gwyn gan ddefnyddio pensiliau graffit.
"Dwi'n gobeithio mynd ymlaen i astudio lefel A mewn Celf, Graffeg, Bioleg a Throseddeg. Yn y dyfodol rwyf yn ystyried gyrfa mewn Anthropoleg Fforensig, gyrfa ble gallaf ddefnyddio fy sgiliau arlunio hefyd."
Yn gynharach yn yr wythnos cyhoeddwyd mai Twm Ebbsworth oedd enillydd Coron yr Eisteddfod, Ciarán Eynon oedd enillydd y Gadair, ac Osian Wynn Davies ddaeth i'r brig yn y Fedal Ddrama.
Cyn hynny fe gipiodd Josh Osborne Medal y Dysgwyr, ac fe gafwyd yr enillydd ieuengaf erioed i brif wobrau'r Urdd, wrth i Shuchen Xie, 12, ennill y Fedal Gyfansoddi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2022