Y Pab yn codi gobeithion dioddefwr camdriniaeth

  • Cyhoeddwyd
Mark Murray in the Vatican
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Murray yn un o saith dioddefwr wnaeth gyfarfod â'r Pab yn y Fatican

Mae dyn o Sir Ddinbych gafodd ei gam-drin yn rhywiol pan yn blentyn mewn athrofa hyfforddi offeiriaid Catholig yn dweud ei fod yn gadel y Fatican yn llawn gobaith ar ôl cyfarfod gyda'r Pab.

Dywedodd Mark Murray o Lanelwy fod y Pab Francis wedi gwrando yn astud ac yn fanwl ar ei stori.

"Roedd o'n gyfarfod oedd yn iachaol ac yn drawsnewidiol.

"Rwy'n gadael yn llawn gobaith, gobaith y gallai pethau barhau i newid o fewn yr Eglwys, ac y bydd y broses i ddiogelu yn parhau i newid."

Dywedodd fod y Pab wedi rhoi addewid y byddai'n gofyn i'r grŵp oedd yn gyfrifol am yr athrofa hyfforddi offeiriaid - Cenhadon Comboni - i gysylltu'n uniongyrchol gyda'r dioddefwyr.

Roedd Mr Murray yn un grŵp o saith ynghyd ag Esgob Leeds a phennaeth yr Eglwys Babyddol yng Nghymru a Lloegr, y Cardinal Vincent Nichols yn y cyfarfod preifat gyda'r Pab ddydd Llun.

Achos Sifil

Cafodd y saith dyn eu cam-drin yng Ngholeg San Pedr Claver, cyn goleg diwinyddol yn Sir Gorllewin Efrog.

Ymunodd Mark Murray â'r athrofa yn nhref Mirfield, yn 1969 yn 13 oed ac fe adawodd yn 1974. Fe gymerodd hi 21 o flynyddoedd cyn iddo allu trafod ei gamdriniaeth yno.

Fe ddaeth ag achos sifil yn 1995 ac ers hynny mae wedi brwydro am gydnabyddiaeth o'r hyn a ddigwyddodd iddo o dan yr urdd oedd yn gyfrifol am yr athrofa - y Tadau Verona.

Cenhadwyr Comboni yw enw'r urdd erbyn hyn, ac fe ddaeth i setliad ariannol gyda dioddefwyr, heb gydnabod atebolrwydd, yn 2014.

Ffynhonnell y llun, Bede Mullen
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y camdriniaeth yng Ngholeg San Pedr Claver ym Mirfield, Sir Gorllewin Efrog yn y 1960au a'r 1970au

Y llynedd fe gafodd y dioddefwyr "ymddiheuriad o'r galon" gan Esgob Leeds "am y boen a'r trawma y gwnaethoch ei brofi tra'n ddisgyblion yn Mirfield ac am y dioddefaint ysbrydol a'r gofid emosiynol sy'n effeithio arnoch hyd heddiw".

Ychwanegodd yr esgob: "Dymunaf felly rŵan hyn ymddiheuro i chi'n bersonol ac yn ddiamod am y gamdriniaeth rhyw y gwnaethoch ei ddioddef yn eich plentyndod, a dymunaf ymddiheuro hefyd i holl aelodau eich teuluoedd a'ch ffrindiau a ddioddefodd yn sgil effaith y gamdriniaeth yna."

Daw cyfarfod y dynion gyda'r Pab yn sgil ymdrechion y corff sy'n gyfrifol am ymateb i achosion o gam-drin plant o fewn yr Eglwys Babyddol ar draws y byd, sef Cynulliad Dysgeidiaeth y Ffydd.

'Dim cyfaddefiad erioed'

Disgrifiad o’r llun,

Mark Murray (ar y dde) gydag Esgob Leeds a gweddill y dirprwyaeth yn Y Fatican ddydd Llun

Cyn y cyfarfod gyda'r Pab dywedodd Mr Murray: "Y cyfan rydym yn gwybod ydy ein bod yn cyfarfod y Pab Francis am 09:00. Dydw i ddim yn siŵr a fydd ein partneriaid yn cael bod yn y cyfarfod neu dim ond y saith dyn o Mirfield.

"Rydan ni gyd yn paratoi'r hyn rydan ni am ei ddweud wrth y Pab. Fy safbwynt i ydy effaith methiant y Combonis i wrando'n iawn arnon ni.

"Ddylai dim achos fod i gynnal y cyfarfod yma - dylai fod wedi cael ei ddatrys ddegawdau'n ôl.

"Petai'r Urdd Comboni wedi gwrando gyda'u calonnau yn 1995 byddai wedi bod yn bosib datrys hyn.

Ffynhonnell y llun, EPAVATICAN MEDIA HANDOUT
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Murray cyn y cyfarfod nad oedd ganddo syniad beth mae'r Pab yn debygol o ddweud yn y cyfarfod

"Doeddan ni ddim eisiau i'r hyn ddigwyddodd i ni ddigwydd i bobl eraill felly 'dach chi'n pwyso am gyfarfod gyda'r person ar frig yr Eglwys Gatholig.

"Dydw i ddim eisiau ymddiheuriad. Dwi eisiau iddyn nhw wrando arnai. Dydy ymddiheuriad dan orfodaeth ddim yn wir ymddiheuriad.

Dywedodd Mr Murray y bydd elfen "fwy personol" i'w ddatganiad, gan gynnwys "beth mae eu triniaeth nhw wedi gwneud i fi fel person ac i fy nheulu".

"Gyda blynyddoedd o seicotherapi, wnes i ddelio gyda'r gamdriniaeth wnes i ddioddef yn blentyn. Mae'n anoddach o lawer ddelio gydag ymateb rhai o'r sefydliadau tuag atai. Maen nhw'n gwybod beth ddigwyddodd, ond dim cyfaddefiad erioed bod y gamdriniaeth wedi digwydd."

'Rydym wedi ymddiheuro'n gyhoeddus'

Mae aelodau o Grŵp Goroeswyr Comboni yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd yr ymweliad yn helpu'r broses iachau ond maen nhw'n dal yn mynnu cyfiawnder.

Ffynhonnell y llun, Bede Mullen/Mark Murray
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bede Mullen a Mark Murray eu cam-drin yng Ngholeg San Pedr Claver

Y llynedd dywedodd llefarydd ar ran y Cenhadwyr Comboni: "Gyda thristwch a gofid mawr, daethom i wybod am honiadau camdriniaeth hanesyddol yn ymwneud â'n cyn-goleg diwinyddol iau a gaeodd yn 1984.

"Rydym yn cydnabod y niwed a achosir gan gamdriniaeth plant ac rydym wedi ymddiheuro'n gyhoeddus am unrhyw gamdriniaeth."

Dywedodd bod yr urdd wedi "gweithio'n galed i ymateb gyda difrifoldeb a sensitifrwydd i'r cwynion a honiadau a wnaed", cydweithio'n llawn gyda'r Ymchwiliad Annibynnol i Gamdriniaeth Rhyw Plant, a gweithio gydag elusen arbenigol "i ddarparu cwnsela a threfnu cyfarfodydd, yn unol â cheisiadau".

Pynciau cysylltiedig