Lluniau Gŵyl Canol Dre a'r gwyliau haf sydd eto i ddod...

  • Cyhoeddwyd
Candelas yn Gwyl Canol DreFfynhonnell y llun, Jason Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Candelas yng Ngŵyl Canol Dre - band prysur iawn yr haf yma

Wrth i'r haf boethi, mae gwyliau bach Cymru hefyd wedi bod yn mynd o nerth i nerth gyda'r cynulleidfaoedd yn amlwg yn falch o gael dod at ei gilydd i fwynhau eto wedi'r pandemig; un ohonynt dros y penwythnos oedd Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin.

Ar un o benwythnosau poetha'r flwyddyn roedd tyrfa fawr ym Mharc Myrddin yn mwynhau Candelas, Al Lewis, Los Blancos, Eadyth, 50 Sheds o Lleucu Llwyd a llwyth o artistiaid eraill yn ogystal â gweithdai a stondinau.

Ffynhonnell y llun, Gwawr Williams

Roedd yn "deimlad braf cael dod â'r ŵyl yn ôl" wedi gorfod ei gohirio ddwy flynedd yn olynol yn sgil Covid, meddai Dewi Snelson, prif weithredwr Menter Gorllewin Sir Gâr, trefnwyr y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Jason Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Y rhai iau yn mwynhau dawnsio a symud gyda Siani Sionc

Ffynhonnell y llun, Justin Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Al Lewis ar y prif lwyfan ym Mharc Myrddin

Beth sydd eto i ddod?

Mae'r gwanwyn a'r haf eisoes wedi bod yn adeg prysur i wyliau bach a mawr Cymru ond mae cyfle eto i fwynhau cerddoriaeth, diwylliant a chymdeithasu dros weddill yr haf - dyma rai o'r prif ddigwyddiadau sydd ar y gweill:

Sesiwn Fawr Dolgellau

Ffynhonnell y llun, ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Mwynhau'r Candelas yng Nghlwb Rygbi Dolgellau yn 2019

Mae'r ŵyl ar lannau'r Wnion (wel, yng nghefn tafarn Y Ship a sawl lleoliad arall yn y dref erbyn hyn) yn digwydd y penwythnos hwn, rhwng 15-17 Gorffennaf.

Er gwaethaf llwyddiant eu gŵyl ar-lein yn ystod y pandemig, mae'n anodd cystadlu gyda'r profiad o weld cerddoriaeth fyw yn Nolgellau ac ambell i sesiwn jamio anffurfiol dros beint yn rhai o dafarndai'r dref.

Yws Gwynedd, Yr Eira, Cledrau, Bandicoot a Bwncath ydi rhai o'r artistiaid fydd yn perfformio a chael yr ŵyl nôl ar strydoedd y dref yn anrheg pen-blwydd 30 perffaith i'r Sesiwn Fawr.

Y Sioe Fawr

Ar ôl methu cynnal Y Sioe dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r anifeiliaid, crefftau ac adloniant yn ôl ar faes y Sioe eleni.

Felly mae disgwyl i filoedd ddychwelyd i Lanelwedd rhwng 18-21 Gorffennaf ar gyfer un o brif ddigwyddiadau'r calendr amaethyddol.

Ffynhonnell y llun, Just Shoot Me
Disgrifiad o’r llun,

DJ Bry oedd y DJ yn y Pentref Ieuenctid yn 2017

Mae'r Pentref Ieuenctid gyda'i gerddoriaeth fyw yn ôl hefyd ond ar raddfa lai eleni a rheolau gwahanol ynglŷn a phwy sy'n cael tocyn yn rhoi mwy o bwyslais ar aelodau'r Mudiad Ffermwyr Ifanc, sef y trefnwyr.

Bydd yr adloniant yn cynnwys y DJ Huw Stephens, Candelas, y band lleol Northern Ruins ac artistiaid eraill sy'n gysylltiedig â'r mudiad.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

Tregaron 2020 oedd hi fod, wedyn Tregaron 2021 - a rŵan Tregaron 2022.

Mae'n bosib y bydd rhai pethau yn wahanol i flynyddoedd arferol wrth i'r trefnwyr addasu i ganllawiau, ond mae Sadwrn 30 Gorffennaf i Sadwrn 6 Awst yn llawn yn nyddiadur nifer fawr o Gymry yn barod.

Mae trefnwyr Maes B, yr ŵyl gerddorol sy'n rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol, yn addo ei gwneud hi'n ŵyl fwy fyth eleni i wneud iawn am siom canslo dwy noson olaf 2019 oherwydd storm, a gohirio 2020 a 2021 oherwydd Covid.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Owen

Bydd ganddyn nhw ddau lwyfan byw yn lle'r un arferol a 30 o fandiau yn lle'r 16 arferol.

Adwaith fydd y prif fand sy'n cloi ar y nos Sadwrn, gyda Mellt, Hyll, HMS Morris, Sybs a Pys Melyn hefyd yn chwarae. Gwilym fydd y prif fand fydd yn agor Maes B ar y nos Fercher.

Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Ffynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Gŵyl y Dyn Gwyrdd i gynnal yr ŵyl yn 2021

Yn 2021 hon oedd yr ŵyl fawr gyntaf i ddigwydd heb amodau Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig ac mae hi'n ôl ar gyfer 2022 rhwng 18 ac 20 Awst.

Mae'r ŵyl sy'n cael ei chynnal ger Crughywel ym Mannau Brycheiniog wedi tyfu i fod yn un o rai mwyaf Cymru gan ddenu dros 20,0000 o bobl.

Mae'r banc electronig o'r Almaen, Kraftwerk, yn un o'r prif atyniadau yn 2022 ynghyd â Michael Kiwanuka, Metronomy, Beach House, Bicep a llwyth o rai eraill gan gynnwys Cate Le Bon, Adwaith, Melin Melyn a Papur Wal.