Anrhydeddu llenor, cerddorion a dysgwr yn yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lleucu RobertsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Lleucu Roberts oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn 2021

Seremoni'r Fedal Ryddiaith fydd y brif ddefod ar lwyfan y pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ddydd Mercher.

Un o uchafbwyntiau eraill ddydd Mercher fydd defod Tlws y Cerddor, a bydd enw enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn hefyd yn cael ei gyhoeddi mewn cyflwyniad arbennig ar lwyfan y pafiliwn.

Lleucu Roberts oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn 2021 a hynny ddiwrnod wedi iddi gipio Medal Goffa Daniel Owen.

Fel ag yn achos Medal Goffa Daniel Owen fe gafodd cyfansoddiadau eleni eu cyflwyno yn benodol ar gyfer cystadleuaeth 2022 - penderfynwyd gwobrwyo cyfansoddiadau 2020 yn 2021 er mwyn cefnogi'r diwydiant llyfrau yn ystod cyfnod anodd.

Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Dianc'.

Y beirniaid yw Meg Elis, Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury.

Mae'r Fedal a gwobr ariannol o £750 yn cael eu rhoi er cof am Robyn a Gwenan Lewis gan y teulu.

Disgrifiad o’r llun,

Tim Heeley yw'r person diwethaf i ennill Tlws y Cerddor a hynny yng Nghaerdydd yn 2018

Brynhawn Mercher hefyd fe fydd yna ddefod yn y pafiliwn i gyhoeddi os oes teilyngdod yng nghystadleuaeth Tlws Y Cerddor.

Y dasg i'r ymgeiswyr oedd cyfansoddi Opera Fer - un gân gorws a dwy gân i unawdwyr ynghyd ag amlinelliad cryno o'r opera gyfan.

Gwion Thomas, John Metcalf a Patrick Young yw'r beirniaid.

Tim Heeley a ddaeth o Scarborough i astudio ym Mhrifysgol Bangor yw'r person diwethaf i ennill Tlws y Cerddor a hynny yng Nghaerdydd yn 2018 - doedd dim teilyngdod yn 2019 yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.

Yn ogystal, cyhoeddir enillydd Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2022 yn ystod y seremoni, ac yn ystod y prynhawn enillydd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Stephen Bale, Joe Healy, Sophie Tuckwood a Ben Ó Ceallaigh

Hefyd brynhawn Mercher bydd enw enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi mewn cyflwyniad arbennig ar lwyfan y Pafiliwn.

Cafodd 18 o bobl o Gymru a thu hwnt eu cyfweld ar gyfer y gystadleuaeth, sy'n cael ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Y pedwar a ddaeth i'r brig oedd , dolen allanol o Fagwyr, , dolen allanol o Gaerdydd, , dolen allanol o Aberystwyth a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.

Yn ôl beirniaid y rownd gynderfynol - Cyril Jones, Elwyn Hughes ac Angharad Prys - roedd y safon yn uchel eleni eto, a gallai tua wyth o'r ymgeiswyr fod wedi bod yn deilwng o gyrraedd y rownd derfynol.

Bydd Geraint Lloyd yn ymuno â'r beirniaid ddydd Mercher.

Mae'r cystadlaethau eraill yn y pafiliwn nos Fercher yn cynnwys Gwobr Richard Burton ar gyfer actorion dros 19 oed ac Ysgoloriaeth W Towyn Roberts.