Beth yw'r heriau sy'n wynebu Liz Truss yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd
Liz Truss

Fe adawodd Boris Johnson Downing Street gyda gwaith ar ei hanner ac addewidion heb eu cyflawni.

Mae'r diweddglo sydyn i'w deyrnasiad wedi gadael rhestr hir o dasgau ar gyfer ei olynydd.

Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru Daniel Davies sy'n ystyried rhai o'r penderfyniadau mawr sy'n wynebu Liz Truss a'i llywodraeth newydd ac yn effeithio ar Gymru.

Costau byw

Hyd yn oed yn ystod gwres mawr yr haf, roedd miliynau'n teimlo ias oer wrth feddwl am y gaeaf drud sydd i ddod.

Mae rhai'n rhybuddio y gall Cymru ddioddef yn waeth o gostau ynni oherwydd bod ganddi gymaint o hen gartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n wael.

Mae'n anodd anghytuno gydag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, pan mae'n dweud bod rhaid i'r argyfwng fod yn flaenoriaeth i Liz Truss.

A chyn gynted ag y cyhoeddwyd ei buddugoliaeth yn erbyn Rishi Sunak, roedd Mark Drakeford ar Twitter yn gofyn i Ms Truss weithio gydag ef ar gostau byw.

Mae cymorth ariannol eisoes wedi'i gyhoeddi gan y ddwy lywodraeth, ond mae'n annhebygol o fod yn ddigon i lawer.

Fel yng ngweddill Prydain, mae aelwydydd a busnesau Cymru yn aros i weld sut y bydd y Prif Weinidog newydd yn ymateb.

Busnes a'r economi

Nid am y tro cyntaf, mae gwaith dur enfawr Port Talbot yn wynebu dyfodol ansicr.

Fe allai gau oni bai bod Llywodraeth y DU yn cyfrannu at y gost enfawr o leihau allyriadau carbon, meddai'r perchnogion Tata.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Daeth y rhybudd hwnnw ar ddiwedd arweinyddiaeth Boris Johnson, ond tîm Ms Truss sydd wedi etifeddu'r dasg o drafod gyda Tata.

Rhaid iddyn nhw hefyd wneud penderfyniad hollbwysig - sydd wedi ei ohirio - ynghylch gadael i gwmni o China brynu ffatri lled-ddargludyddion (semi-conductors) ger Casnewydd.

Fe fydd y llywodraeth hefyd yn awyddus i ddangos bod porthladdoedd rhydd (freeports) mor llwyddianus â phosibl. Gwahoddwyd ceisiadau i sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru yn ddiweddar.

Datganoli

Wrth iddi geisio ennill cefnogaeth aelodau ei phlaid, galwodd Liz Truss Mark Drakeford yn "fersiwn egni isel o Jeremy Corbyn".

Ry' ni'n gyfarwydd iawn â chlywed sylwadau o'r fath yng ngwleidyddiaeth datganoli.

Ond heb os, mae'r berthynas rhwng y ddwy lywodraeth wedi cael ei rhoi dan straen gan Brexit a'r pandemig.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn dadlau dros ddatganoli pwerau dros gyfiawnder troseddol.

Fe gawson nhw wybod na fyddai hynny'n digwydd dan y prif weinidog diwethaf - ac mae hynny'n annhebygol o newid o dan yr un newydd.

Atomfa newydd Wylfa?

Fe wnaeth Boris Johnson addo adeiladu atomfa newydd yn Wylfa, ar Ynys Môn.

Mae'n ymrwymiad enfawr, a wnaed gan Mr Johnson tra'n ymgyrchu ar gyfer yr etholiadau lleol ym mis Ebrill.

Wythnosau'n ddiweddarach, dywedodd Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Simon Hart, fod dipyn o ffordd i fynd cyn i bwerdy gael ei adeiladu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wylfa, meddai, "yn agos at frig y rhestr o safleoedd [niwclear] posibl".

Soniodd Mr Johnson hefyd am ynni niwclear yn dychwelyd i Drawsfynydd a'r "cyfle aruthrol" i adeiladu ffermydd gwynt ar y môr.

Mae Ms Truss wedi awgrymu bod ganddi ei huchelgeisiau seilwaith ei hun.

Dywedodd wrth ddadl yng Nghaerdydd fis diwethaf ei bod yn cefnogi adeiladu ffordd liniaru'r M4, a gafodd ei chanslo gan Mark Drakeford yn 2019.

Codi'r gwastad

Roedd yn bolisi allweddol i Boris Johnson: gwario arian y wladwriaeth mewn ardaloedd ble roedd pobl yn teimlo eu bod nhw'n colli allan.

Dan faner y rhaglen codi'r gwastad (levelling up), cafodd £585m ei addo i gymunedau yng Nghymru o Gronfa Ffyniant Gyffredin y llywodraeth.

Mae'r arian i fod i gymryd lle'r biliynau o bunnau a ddaeth o'r Undeb Ewropeaidd cyn Brexit.

Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud nad yw'n ddigon, ac mae Llywodraeth Cymru yn cwyno am gael ei gwthio allan o benderfyniadau gwariant.

Mae rhai yn amau na fydd codi'r gwastad yr un mor bwysig i'r prif weinidog newydd.

Serch hynny, bydd ei haelodau seneddol yn awyddus i ddangos bod y cyfan yn gweithio'n effeithiol cyn yr etholiad nesaf.

Etholiad 2024

Dal eu tir yw gobaith mawr y Ceidwadwyr Cymreig yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Aeth pethau'n wael iddyn nhw y tro diwethaf i'r etholwyr fwrw pleidlais.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Collodd nifer fawr o gynghorwyr Ceidwadol seddi yn yr etholiadau lleol fis Mai. Fe gollon nhw reolaeth ar Sir Fynwy i Lafur, hyd yn oed.

Roedd polau piniwn yn yr haf hefyd yn argoeli'n wael ar gyfer yr 14 o seddi a enillwyd gan y Torïaid Cymreig yn etholiad cyffredinol 2019.

Ac mae yna ffactor newydd ym cymhlethu pethau - sef y tebygrwydd y bydd ffiniau rhai o'u hetholaethau yn newid yn ddramatig cyn yr etholiad nesaf.