Elizabeth II: Cyfnod o alaru swyddogol wedi dechrau

  • Cyhoeddwyd
Munud o dawelwch yng Nghaernarfon

Mae cyfnod o alaru swyddogol wedi dechrau yn y DU yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth II.

Mae llyfrau o deyrnged wedi eu hagor mewn lleoliadau ar draws Cymru er cof am Ei Mawrhydi a fu farw yn dawel yn Balmoral ddydd Iau, yn 96 oed, wedi teyrnasiad o dros 70 o flynyddoedd.

Parhau i lifo mae'r teyrngedau o bedwar ban byd, gan gynnwys Cymru lle mae busnes y Senedd wedi'i ohirio am y tro a baneri'r Senedd yn hedfan ar eu hanner.

Mae'r Brenin Charles III wedi rhoi ei anerchiad radio a theledu cyntaf fel pennaeth y wladwriaeth ar ôl teithio o'r Alban i Lundain.

Disgrifiad o’r llun,

Archesgob Cymru, Andy John, gyda llyfr o deyrnged i'r Frenhines Elizabeth yng Nghadeirlan Bangor

Ymysg y mannau i agor llyfrau o deyrnged yw Cadeirlan Bangor.

Dywedodd Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andy John, ei bod yn "berson hyfryd iawn".

"Roedd hi y math o berson oedd yn gallu cydymdeimlo gyda phobl, ond hefyd fe wnaeth hi gadw y math o bellter sydd ymhlyg yn y swydd.

"Ond mae wedi bod yn ffrind mawr i ni yn yr Eglwys yng Nghymru... mae'n golled mawr i ni yn bersonol yn yr Eglwys."

Ffynhonnell y llun, Nick Hartley
Disgrifiad o’r llun,

Y Ddraig Goch yn hedfan ar ei hanner uwchben Castell Caerdydd

Amserlen y dydd

Teithiodd y Brenin Charles III o Balmoral i Lundain gyda'i wraig, Camilla, sydd bellach yn Frenhines Gydweddog, ddydd Gwener.

Fe wnaeth gwrdd â'r Prif Weinidog, Liz Truss ym Mhalas Buckingham, cyn anerch y wlad am y tro cyntaf fel Brenin.

Roedd yna funud o dawelwch wedi i Aelodau Seneddol ac aelodau Tŷ'r Arglwyddi ymgynnull yn y Senedd i roi teyrngedau i'r Frenhines ar ddechrau sesiwn sy'n debygol o bara tan 22:00.

Disgrifiad o’r llun,

Munud o dawelwch a Thŷ'r Cyffredin yn orlawn ar ddechrau sesiwn talu teyrnged i'r Frenhines

Hefyd am hanner dydd fe ddechreuodd glychau ganu er teyrnged yn Abaty Westminster, Cadeirlan St Paul, Castell Windsor a lleoliadau eraill ar draws y DU.

Am 13:00, fe wnaeth gynnau ddechrau tanio salíwt 96 o weithiau - un ar gyfer bob blwyddyn o fywyd y Frenhines - ym Mharc Hyde, Llundain a mannau eraill.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Milwyr yn tanio'r salíwt yng Nghastell Caerdydd

Un oedd yn y digwyddiad yng Nghastell Caerdydd oedd Amy Solomon, gyda'i merch Bella.

Dywedodd ei bod yn "draddodiadol fel teulu bod ni'n dathlu neu'n dod at ein gilydd pan mae unrhyw ddigwyddiad ynglŷn â'r Teulu Brenhinol".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Amy a Bella yn y dorf yng Nghastell Caerdydd ddydd Gwener

"Mae'r Frenhines wastad 'di bod yna ac mae wedi gweithio hyd at yr wythnos yma hefyd.

"Mae hi wedi gweithio'n galed trwy ei bywyd hi, mae wastad wedi bod yn Frenhines Y DU ac mae hyn nawr yn end of an era."

I Bella, 10, roedd yn gyfle i gofio, ac i ddysgu:

"Dwi'n meddwl bod e'n bwysig oherwydd dwi'n cael fy addysgu gartref, mae'n rhywbeth hanesyddol, felly mae'n rhywbeth i ddysgu amdano ond hefyd i ddangos parch."

Ffynhonnell y llun, Ffair Gêm Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna funud o dawelwch a salíwt gynnau ar Ystâd y Faenol, ger Bangor ar drothwy Ffair Gêm Cymru sy'n cael ei gynnal yna dros y penwythnos

Roedd Liz Truss, gweinidogion eraill y llywodraeth, Maer Llundain Sadiq Khan a chynrychiolwyr y gwrthbleidiau mewn gwasanaeth goffa yng Nghadeirlan St Paul.

Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford hefyd yn y gwasanaeth, a gafodd ei ddarlledu ar y BBC.

Adalw Senedd Cymru

Mae Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones wedi adalw aelodau ar gyfer sesiwn arbennig, am 15:00 brynhawn Sul, ble bydd cyfle i dalu teyrngedau a chydymdeimlo â'r teulu brenhinol.

Mae holl fusnes a digwyddiadau eraill y Senedd wedi'u gohirio yn ystod y cyfnod swyddogol o alaru, a bydd yr adeilad ei hun ar gau i'r cyhoedd tan âr ôl yr angladd gwladol.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines, gyda'r Llywydd, ar ddiwrnod agoriad swyddogol chweched Senedd Cymru fis Hydref y llynedd

"Mae'r Frenhines wedi agor pob Senedd ers datganoli yn 1999," dywedodd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones wrth siarad ar Radio Cymru fore Gwener.

"Fe wnaeth yn siŵr bod pwysigrwydd cyfansoddiadol y Senedd yn cael ei gydnabod... felly mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod ei chyfraniad hithau hefyd.

"Ac bydd yna rôl i ein Senedd i gydnabod y Frenhines fel y mae poblogaeth Cymru yn ei ddisgwyl i ni wneud."

Fel Llywydd, fe fydd Ms Jones hefyd yn bresennol yng nghyfarfod y Cyngor yr Esgyniad yn Llundain ddydd Sadwrn pan fydd Charles yn cael ei gyhoeddi'n swyddogol fel Brenin.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r teyrngedau i'r Frenhines sydd i'w gweld ar fyrddau hysbysebion strydoedd yng nghanol Caerdydd

A fydd yna ŵyl banc?

Mae disgwyl i angladd y Frenhines gael ei chynnal yn Abaty Westminster mewn oddeutu 10 neu 11 diwrnod - mae Palas Buckingham eto i gadarnhau'n dyddiad.

Mae'n debygol y bydd yn ŵyl banc, ond bydd hyn yn cael ei gadarnhau gan y palas a'r llywodraeth.

Os fydd yna ŵyl banc, bydd ysgolion ar gau, ond byddan nhw'n parhau ar agor yn ôl yr arfer fel arall.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd o bobl wedi talu teyrngedau wrth giatiau Palas Buckingham ers i'r farwolaeth gael ei chadarnhau

Gan fod y Frenhines yn Yr Alban pan fu farw, bydd ei harch yn gorffwys yng Nghadeirlan St Giles, Caeredin. Mae'n bosib y bydd y cyhoedd yn cael ymweld wedi ychydig ddiwrnodau.

Bydd yr arch wedyn yn cael ei hedfan i Lundain, ac yna'r gorwedd yn gyhoeddus am bedwar diwrnod yn Neuadd Westminster.

Bydd baner yr Undeb yn cyhwfan ar eu hanner ar adeiladau'r llywodraeth tan 08:00 y bore, drannoeth yr angladd.

Ond bydd baneri'n cael eu codi am 24 awr o 13:00 ddydd Sadwrn i nodi proclamasiwn Charles fel y brenin newydd, cyn gostwng tan ddiwedd y cyfnod swyddogol o alaru.