Peilot Emiliano Sala wedi sôn am bryderon cyn hedfan
- Cyhoeddwyd
Dywedodd peilot a fu farw mewn damwain awyren a laddodd y pêl-droediwr Emiliano Sala y "byddai'n sicr yn gwisgo siaced achub" y diwrnod cyn gadael ar y siwrne i Gaerdydd.
Mewn recordiad o alwad ffôn sydd wedi ei glywed gan y BBC, mae'r peilot David Ibbotson yn codi pryderon am sawl nam ar yr awyren a blymiodd i'r Sianel gan ladd y ddau.
Roedd Sala, 28, yn symud i Glwb Pêl-droed Caerdydd o Nantes fel rhan o gytundeb gwerth £15m ym mis Ionawr 2019, pan aeth yr awyren yr oedd yn hedfan ynddi ar goll yn y Sianel.
Mewn neges at ffrindiau cyn y daith, dywedodd y pêl-droediwr ei fod ar awyren "sy'n edrych fel ei bod yn cwympo'n ddarnau".
Ychwanegodd: "Os nad ydych chi'n clywed gennyf yn yr awr a hanner nesaf, dwi ddim yn gwybod a fydd rhywun yn chwilio amdana i, oherwydd fyddan nhw ddim yn dod o hyd i mi.
"Mae ofn arna'i."
Roedd David Ibbotson, 59, yn ffitiwr nwy ac yn beilot rhan amser o Crowle, Sir Lincoln.
Cafodd Mr Ibbotson y gwaith o hedfan Emiliano Sala o Gaerdydd i Nantes ac yn ôl am nad oedd David Henderson, a oedd wedi cael cais i beilota'r awyren, ar gael.
Nid oedd gan Mr Ibbotson hawl i gludo teithwyr a oedd yn talu gan nad oedd ganddo drwydded fasnachol.
Roedd ei gymwysterau i hedfan awyren injan sengl wedi gorffen fisoedd cyn y ddamwain ac nid oedd ganddo'r hawl i hedfan yn gyfreithiol gyda'r nos.
Cafodd Henderson, 68, oedd yn gyfrifol am drefnu mai Mr Ibbotson fyddai'n hedfan yr awyren, ei garcharu yn 2021 am ddwy drosedd gan gynnwys "peryglu diogelwch awyren".
Mewn galwad ffôn ar y diwrnod cyn y ddamwain, mae Mr Ibbotson yn sôn wrth ffrind sy'n beilot am nifer o broblemau a gododd gyda'r awyren wrth hedfan o Gaerdydd i Nantes.
"Ro'n i tua chanol y Sianel ac wedyn 'bang'."
"Roedd y 'stall warner' ymlaen am ryw 10 munud ac yn amlwg roedd y boi yn y cefn yn gallu ei glywed.
"'Nes i gyrraedd Nantes ac wrth droi'r awyren oddi ar y rhedfa, lawr y 'taxiway' nes i drio troi i'r chwith a doedd gen i ddim pedal brêc ar y chwith. Jyst dim byd ar ôl o gwbl.
"Fel arfer mae gen i fy siaced achub rhwng y seddi, ond yfory bydda i'n gwisgo fy siaced diogelwch, mae hynny'n sicr."
Dechreuodd Piper Malibu N264DB ar ei thaith o Nantes am 19:15 ddydd Llun 21 Ionawr, 2019.
Diflannodd o'r radar ychydig dros awr yn ddiweddarach.
Cafodd ymdrech preifat ei ariannu i chwilio am yr awyren gan ddefnyddio rhoddion o dudalen GoFundMe a drefnwyd gan asiant personol Mr Sala, Meïssa N'Diaye.
Cafodd y gwaith chwilio, ddigwyddodd bythefnos ar ôl y ddamwain, ei arwain gan arbenigwr yn y maes, David Mearns.
Lleolwyd yr awyren 100 metr o'r safle radar diwethaf i gael ei gofnodi.
Cafodd corff Emiliano Sala ei godi o'r awyren a'i hedfan i'r Ariannin.
Dywed David Mearns y dylai sefydliad gael ei greu i gefnogi teuluoedd sy'n chwilio am anwyliaid ar goll yn y môr.
"Mae'n drueni nad oedd modd dod o hyd i gorff David Ibbotson," meddai Mr Mearns.
"Dwi'n meddwl bod hi'n ofnadwy mai cyfrifoldeb bobl gyffredin yw hyn.
"Rydyn ni'n genedl ar ynys, rydyn ni wedi ein hamgylchynu gan ddŵr. Mae cychod ac awyrennau'n disgyn a suddo.
"Ond dwi'n meddwl bod hyn yn rhywbeth sydd angen ei gywiro gan y llywodraeth.
"I allu rhoi rhywbeth ar waith y gall y bobl yma ei ddefnyddio. Yn hytrach na bod y cyfrifoldeb yn gyfan gwbl ar eu hysgwyddau nhw yn ystod cyfnod gwaethaf eu bywydau."
Cafodd yr arbenigwr awyrennau Cat Burton sioc wrth glywed recordiadau galwad ffôn y peilot.
"I'w glywed yng ngeiriau David Ibbotson ei hun ac i glywed ei fod yn bryderus am yr hediad 24 awr ynghynt, mae hynny yn gwbl syfrdanol a dweud y gwir," meddai.
"Yn y pen draw mae gan beilot gyfrifoldeb am ddiogelwch hediad, ac rwy'n credu y gallai David Ibbotson, o'r wybodaeth oedd ganddo, yn hawdd fod wedi penderfynu nad oedd yr hediad yn ddiogel.
"Mae hynny'n bennaf oherwydd ei gefndir a'i hyfforddiant ei hun, sydd ddim efallai'n mynd i'r afael â'r angen i allu gwrthsefyll pwysau masnachol i ymgymryd â hediad pan nad yw'n ddiogel."
Dadansoddiad Cemlyn Davies, Newyddion BBC Cymru
Dwi wedi bod i Nantes deirgwaith ers y trychineb a hawliodd fywyd Emiliano Sala, ac ar bob achlysur mae hi wedi bod yn gwbl glir i mi pa mor boblogaidd oedd yr Archentwr.
Roeddwn i yno drannoeth y digwyddiad pan gafodd gwylnos ei chynnal ar y Place Royale.
Dwi'n cofio un o'r trefnwyr yn dweud wrtha i'r noson honno taw ymgynnull ar y sgwâr i ddathlu y byddai cefnogwyr Nantes fel arfer, ond y tro hwn gofid oedd yn eu huno.
Hynny a'r gobaith gwan y gallai'r pêl-droediwr fod yn fyw o hyd.
Bron i flwyddyn yn ddiweddarach fe ddychwelais i'r ddinas i gyfarfod ag ambell un oedd yn adnabod Emiliano'n dda.
Erbyn hyn, gyda mwy o fanylion wedi dod i'r amlwg ynghylch be ddigwyddodd i'w ffrind, roedd yna ddicter a rhwystredigaeth.
Ac yna'n gynharach eleni fe welais dorf fechan yn dod ynghyd i weld murlun newydd yn gofeb i Sala, ac i ddathlu ei fywyd.
Yn y ddinas hon mae Emiliano'n cael ei gofio ag anwyldeb mawr - fel dyn cyffredin, diymhongar oedd bob tro'n ymroi'n llwyr i'w gamp, ond a gollodd ei fywyd i drachwant y diwydiant oedd yn ei gyflogi.
Mae'r rhaglen ddogfen 'Transfer: The Fate of Emiliano Sala' i'w gweld ar BBC One Cymru am 22:40 ddydd Mercher ac ar BBC iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2022
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2021