Ateb y Galw: Ruben Chapela-Orri

  • Cyhoeddwyd
Ruben yn Ynys LawdFfynhonnell y llun, Ruben Chapela-Orri
Disgrifiad o’r llun,

Ruben yn Ynys Lawd

Ruben Chapela-Orri sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan y cerddor, Gwilym Bowen Rhys. Mae Ruben yn ieithydd, yn ddarlithydd ac yn diwtor yn Ysgol Iaith, Diwylliant, a'r Celfyddydau, Prifysgol Bangor.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio moment go iawn pan nes i sylweddoli ro'n i'n siarad dwy iaith fel plentyn. Roedd fy mam wedi pigo fy chwaer a finnau o'r ysgol, ac roedd o'n gyffrous rhannu efo nhw; roedd "pie" (troed yn Sbaeneg) yr un peth â "peu" (troed mewn Catalan). Am ddarganfyddiad!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi wrth fy modd yng ngogledd orllewin Cymru - mynyddoedd Gwynedd a thraethau Ynys Môn. Yn arbennig, dwi'n mwynhau cerdded a seiclo llwybr Lôn Las Ogwen - lifesaver yn ystod y cyfnodau clo!

Ffynhonnell y llun, Ruben Chapela-Orri
Disgrifiad o’r llun,

Ruben ym Mhorthaethwy

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Cwestiwn caled! Wna i ddewis dau ohonyn nhw. Mae'n debyg mi faswn i'n dweud parti pen-blwydd efo ffrindiau yn fy nhŷ (barbeciw yn yr ardd, dawns, cwmni da) a noson flwyddyn newydd efo fy nheulu (bwyd da, gemau, karaoke).

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Creadigol. Egnïol. Agored.

Ffynhonnell y llun, Ruben Chapela-Orri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruben yn cydlynnu rhaglen Erasmus gydag athrawon Cymraeg yn Rwmania ar hyn o bryd

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Momentau lost in translation pan ro'n i'n dysgu Saesneg a Chymraeg (fel dysgwr), neu Sbaeneg (yn yr ochr arall, fel athro!). Er enghraifft, roedd gen i grŵp bach oedd yn cynllunio mynd i Sbaen, a roedden nhw isio gwybod sut i ddweud wrth yr heddlu "It's Michael's fault" (Michael yw enw ffug ffrind sy'n dysgu Sbaeneg hefyd). Wnes i ddweud wrth y grŵp "Ond 'dach chi isio dysgu sut i ddweud wrth yr heddlu"'ItWASN'T Michael's fault", rili. Ond wnaethon nhw ateb "Oh, it certainly WAS"!

Roedden ni'n chwerthin am amser hir iawn am hwnna. Fel dysgwr, dwi wedi bod mewn sefyllfaoedd doniol hefyd, fel arfer oherwydd fy acen. Dwi'n dal i osgoi dweud geirfa fel traeth (beach) neu ddalen (sheet) yn y Saesneg. Rydych chi'n gallu trio dychmygu pam.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n cofio pan o'n i'n laslanc yn fy mhentref. Ro'n i'n meddwl o'n i'n hwyr i ddigwyddiad gêm. Wnes i gerdded mewn i ystafell efo 100 o bobl, dros y llwyfan, yng nghanol digwyddiad anghywir. Roedd pawb yn edrych arna' i yn dawel.

Wedyn, ro'n i'n meddwl 'O na... Wel, wna i eistedd yn ddistaw a gadael i'r siaradwr parhau.' Wnes i eistedd ar y gadair agosaf: cadair un o'r panel. Roedd y bobl yn chwerthin, ac wnaeth y siaradwr ofyn i mi os ro'n i'n medru gadael. Wnes i dweud 'Wrth gwrs!', a cherdded allan. Dwi'n dal yn cofio y teimlad! Ond wel, gallai wedi bod yn waeth!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Tro diwethaf wnes i ddweud 'hwyl am y tro' i fy nheulu. Mae gen i deulu a ffrindiau da mewn tair gwlad wahanol, ac yn anffodus dwi ddim yn gallu bod efo pawb ar yr un pryd. Dydy'r ffarwel fyth yn hawdd.

Ffynhonnell y llun, Ruben Chapela-Orri
Disgrifiad o’r llun,

Llun sy'n cynrychioli 'teulu' i Ruben

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Siŵr, mwy nag un! Er enghraifft, rydw i'n mwynhau gwylio ffilmiau arswyd cyn mynd i'r gwely. Ond dydyn nhw ddim yn helpu fi gysgu!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Saga Foundation, gan Isaac Asimov. Oherwydd dwi wrth fy modd yn ddarllen ei ffuglen wyddonol: dyfodol tywyll, taith gofod, robotau...

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Wel, efo Isaac Asimov hefyd! Mae gen i gymaint o gwestiynau am ei universe, cyfreithiau robotau, mwtantiaid... Dw i'n siŵr basen ni'n cael sgwrs ddiddorol iawn dros beint.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Rydw i'n ysgrifennu a wedi cyhoeddi comics mewn sawl iaith. O, ac dw i'n gallu datrys ciwb Rubik mewn munud, rhywbeth wnes i ddysgu yn ystod ycyfnod clo - balch iawn!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Nofio yn y môr, bwyta rhywbeth neis efo cwmni da, a gweld y machlud haul olaf ar y traeth gan yfed gwydr o rhywbeth neis.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Dwi'n dewis yr un yma o sgets doniol iawn y rhaglen Dim Byd ar gyfer S4C oherwydd roedd o'n delio mewn ffordd clyfar iawn efo'r stereoteip o siaradwyr Cymraeg sy'n siarad eu hiaith dim ond pan mae pobl o Loegr o gwmpas.

Dw i'n hapus iawn ro'n i'n gallu bod yna, hefyd efo ffrind da.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ruben yn cymryd rhan yn sgets Dim Byd

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Rŵan hyn, rhywun fel Putin, i stopio'r rhyfel.