Adolygiad i achos pedoffiliaid Y Barri yn 'dorcalonnus'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a gafodd ei cham-drin gan y pedoffiliaid Peter ac Avril Griffiths yn Y Barri yn dweud ei bod wedi'i siomi gan adolygiad i rôl gwasanaethau cymdeithasol lleol.
Cafodd adolygiad diogelwch plant hanesyddol ei gynnal gan Fwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro, ond ni chafodd y dioddefwyr wahoddiad i gyfrannu ato.
Cafodd Peter ac Avril Griffiths eu dedfrydu i garchar ym mis Hydref 2018 am gam-drin a threisio merched yn ardal Y Barri yn yr 1980au a'r 90au.
Aed ati i gynnal adolygiad ar ôl i ddioddefwraig ddweud nad oedd yr awdurdodau wedi ymateb i gŵyn gan un o'r dioddefwyr.
Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro fod troseddau Peter ac Avril Griffiths yn ffiaidd ond nad ymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd oedd hwn, ond yn hytrach ymchwiliad er mwyn datblygu'r gwasanaeth mewn ymateb i'r achos hanesyddol hwn.
Yn ôl un o'r dioddefwyr sydd wedi siarad yn gyhoeddus am ei phrofiad, Sally Ambridge, dyw'r adolygiad ddim yn dal unrhyw un i gyfri' am yr hyn ddigwyddodd iddyn nhw.
"Dwi wedi fy synnu'n fawr nad y'n nhw wedi dod o hyd i unrhyw beth," meddai.
"Mae angen dal rhywun i gyfri' ond does neb fel tasen nhw'n atebol. Mae hynny'n dorcalonnus.
"Mae'r ffaith nad oes unrhyw un arall wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r hyn ddigwyddodd yn sioc."
Honnwyd fod gan wraig Peter Griffiths lefel IQ isel a'i fod yn ei defnyddio i ddenu merched ifanc ato. Digwyddodd un ymosodiad yng nghefn fan ac un arall ar gwch.
Roedd honiadau fod y ddau yn rhan o gylch o bedoffiliaid, a bod heddlu lleol yn rhan o'r cylch hwnnw.
Yn ystod ei achos llys cafodd Peter Griffiths ei ddisgrifio fel "troseddwr rhyw anfad", ac Avril fel ei gwir bartner troseddol.
Fe arweiniodd ymchwiliad gan yr heddlu at garcharu dyn o'r enw David John Stanley am dreisio merch ar ddiwedd y 70au. Cafodd ddedfryd o naw mlynedd o garchar.
Doedd dim tystiolaeth, yn ôl yr ymchwiliad hwnnw, o gylch ehangach o bedoffiliaid.
'Difaru peidio sôn y tro cyntaf'
Yn ôl adolygiad Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro, roedd rhai staff yn ddihyder ynglŷn ag ymyrryd i newid amgylchiadau plentyn ac wrth gefnogi rhywun oedd wedi eu cam-drin.
Yn ôl Sally Ambridge dyw hynny ddim yn ddigon da.
"Os yw gweithwyr cymdeithasol yn dweud hyn, yna maen nhw yn y swydd anghywir," meddai.
Arhosodd Ms Ambridge 25 mlynedd cyn cysylltu â'r heddlu am ei bod yn poeni na fyddai unrhyw un yn ei chredu.
"Dwi'n difaru peidio sôn y tro cynta' iddo ddigwydd i fi a dwi'n flin nad oedd unrhyw un wedi gweld yr arwyddion a fy helpu i ar y pryd," meddai.
Yn ôl yr adolygiad mae nifer o weithwyr cymdeithasol yn ei chael hi'n anodd bod yn flaengar wrth edrych am, ac adnabod, arwyddion o gam-drin.
Mae'r adroddiad yn nodi bod goruchwyliaeth, hyfforddiant ac adrodd yn ôl at y bwrdd diogelu rhanbarthol yn bwysig ar gyfer cyflawni hynny.
Mae Ms Ambridge yn croesawu rhan o'r adroddiad sy'n pwysleisio'r angen i wrando mwy ar bobl ifanc yn hytrach na'u diystyru am fod yn "anodd".
Mae hi hefyd yn croesawu'r ffaith fod yna waith yn digwydd mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth o gam-drin.
Er hynny, mae hi'n rhwystredig na chafodd hi gyfle i gyfrannu at yr adroddiad.
"Fe ddigwyddodd e i fi, felly dwi'n teimlo y dylen i fod wedi cyfrannu," meddai.
"Dwi'n meddwl fod beth oedd gyda fi i'w ddweud yn bwysig. Fe allen i fod wedi rhoi profiad dioddefwr iddyn nhw."
Yn ôl Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro fe benderfynon nhw beidio siarad â dioddefwyr oherwydd natur hanesyddol y troseddau ac am nad oedden nhw am beri loes pellach iddyn nhw.
Gan fod rhai o'r troseddau wedi digwydd o leiaf 35 mlynedd yn ôl roedd hi'n amhosibl siarad â staff oedd yn gweithio ar y pryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018
- Cyhoeddwyd24 Medi 2018