Achos Y Barri: Gallu'r wraig yn 'ofnadwy o isel'

  • Cyhoeddwyd
avril a peter griffithsFfynhonnell y llun, Wales news service

Mae llys wedi clywed fod gan ddynes o'r Barri, sydd wedi ei chyhuddo o gyfres o droseddau rhyw yn y 1980au a'r 1990au, "anabledd deallusol".

Mae Peter Griffiths, 65, a'i wraig, Avril Griffiths, 61, yn gwadu cyhuddiadau hanesyddol o dreisio a cham-drin rhyw yn erbyn plant.

Cafodd adroddiad seicolegol o Ms Griffiths, gan seicolegydd fforensig a chlinigol ymgynghorol, ei ddarllen yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Clywodd y rheithgor y dylid ystyried Ms Griffiths fel unigolyn sydd ag "anabledd deallusol", a bod ei sgôr IQ yn "ofnadwy o isel".

Ychwanegodd fod 99% o bobl "yn fwy abl na hi yn gyffredinol".

Yn ystod ei hasesiad seicolegol, fe atebodd Ms Griffiths sawl cwestiwn gyda "dydw i ddim yn gwybod", ond ni ddaeth hi ar draws fel person oedd yn hawdd dylanwadu arni - i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol.

Gofynnwyd iddi a oedd hi'n cofio unrhywbeth cyn ei chyfnod yn yr ysgol. Clywodd y llys ei bod hi wedi ymateb yn ddagreuol, "dim ond pethau ofnadwy".

Cafodd Ms Griffiths ei hasesu 'nol yn 1972 pan roedd hi'n 15 oed, a phenderfynwyd adeg yna ei bod hi'n unigolyn nad oedd yn deall "yr hyn oedd yn cael ei ddweud wrthi.".

Clywodd y llys bod yr asesiad hwnnw yn "dal i sefyll".

Mae Avril a Peter Griffiths yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn ac mae'r achos yn parhau.