Mwy o ecsploetio plant yn rhywiol yng Nghymru - NSPCC

  • Cyhoeddwyd
Merch yn ei harddegauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y troseddau yn cynnwys elfen o ecsploetio plant yn rhywiol wedi cynyddu'n ddirfawr yng Nghymru o fewn y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl elusen.

Dywed yr NSPCC fod 752 achos wedi'u cofnodi gan heddluoedd Cymru yn 2021/22.

Roedd y ffigwr rhwng 350 a 450 yn ystod blynyddoedd blaenorol, meddai'r elusen.

Mae'r wybodaeth wedi cael ei ddefnyddio i nodi lansiad ymgyrch Childline yr elusen i annog mwy o bobl ifanc i ofyn am gymorth.

Dywedodd dynes 18 oed o Gymru wrth Childline: "Pan oeddwn i'n ifanc, mi wnaeth ffrind i'r teulu oedd yn hŷn gyffwrdd ynddo i ar ôl cynnig sigaréts ac alcohol i mi.

"Mi fyddai o'n prynu pethau drud i mi ac yn rhoi pres i mi.

"Roedd o isho gwybod oeddwn i wedi dweud wrth unrhyw un am be ddigwyddodd. Dwi'n dal i'w weld o weithiau a dwi'n cael pyliau o banig pan dwi'n ei weld o.

"Mi wnes i drïo dweud wrth rywun yn y teulu amdano, ond doedd hi ddim yn fy nghoelio fi."

'Trosedd gymhleth'

Dywedodd merch 15 oed, hefyd o Gymru: "Dwi wedi bod yn cael perthynas rywiol efo cyn-gariad fy mam. Roedden ni hefyd yn cael rhyw efo'n gilydd pan oedd o'n arfer byw efo ni.

"Dwi'n gwybod fy mod i'n ifanc iawn, a 'mod i ddim wir yn gwybod be' oeddwn i'n wneud.

"Weithiau dwi'n meddwl 'mod i wedi cael fy ngham-drin, ond weithiau dwi ddim. I bob pwrpas fo ydy 'nghariad i.

"Dwi'n teimlo'n ddryslyd iawn ynglŷn â fo gan mai fo ydy'r unig un sy'n gwneud i mi deimlo ei fod fy eisiau i."

Mae'r ymgyrch, The Full Story, wedi creu cyfres o ffilmiau byr yn dangos pum gwahanol sefyllfa o ecsploetio rhywiol, yn seiliedig ar alwadau i Childline.

Dywedodd Darren Worth, pennaeth gwasanaeth Childline: "Mae ecsploetio rhywiol yn drosedd gymhleth, ac yn aml pan mae plant yn disgrifio be' sy'n digwydd yn eu perthynas, dy'n nhw ddim yn sylweddoli eu bod yn cael eu cam-drin.

"Mae ein cwnselwyr wedi clywed gan blant sydd wedi dweud eu bod nhw ddim yn deall fod be' oedden nhw wedi'i brofi mewn perthynas neu gyfeillgarwch yn anghywir nes eu bod nhw'n llawer hŷn."

Mae prif weithredwr yr elusen, Syr Peter Wanless yn credu fod gan bawb ran i'w chwarae mewn gwarchod plant rhag ecsploetio rhywiol.

"Mae'n hanfodol bod 'na fwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus a phroffesiynol o'r broblem," meddai.

"Mae angen i'r llywodraeth hefyd ddarparu addysg ryw a pherthynas o ansawdd uchel i bob plentyn a pherson ifanc, i roi gwell dealltwriaeth iddyn nhw o be ydy perthynas iach."

Pynciau cysylltiedig