Ysgol â £1m wrth gefn ond yn dal i boeni am arian
- Cyhoeddwyd
Roedd bron i £1m wrth gefn gan Ysgol Friars ym Mangor ar ddechrau'r flwyddyn ond mae'r pennaeth yn dal yn poeni am gostau uwch.
Wrth i ystadegau ddangos bod gan ysgolion Cymru gronfeydd sylweddol wrth gefn mae undebau'n dweud bod y ffigyrau'n cuddio "problem wirioneddol" ynglŷn ag ariannu.
Mae rhai penaethiaid wedi rhybuddio y bydd angen edrych ar dorri staff oherwydd costau cyflogau staff a biliau ynni.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod effaith y wasgfa ariannol ar wasanaethau cyhoeddus.
Ar ddiwedd Mawrth 2022, roedd gan Ysgol Friars £974,000 wrth gefn, i'w gymharu â £7,000 ddwy flynedd ynghynt - sefyllfa hollol unigryw i'r ysgol uwchradd 1,400 disgybl, yn ôl y pennaeth Neil Foden.
Y rheswm bod y balans yn ymddangos mor iach yw bod ysgolion wedi cael grantiau ar y funud olaf i daclo effeithiau'r pandemig heb gyfle i'w gwario cyn diwedd y flwyddyn ariannol, a bod costau wedi bod yn is yn sgil canslo arholiadau, er enghraifft.
Mae Mr Foden yn credu y bydd hynny'n help i wrthsefyll y wasgfa eleni, ond mae'n poeni am doriadau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yn y flwyddyn i ddod.
"Pan mae grantiau Covid wedi dod i mewn dim ond unwaith mae ysgolion yn gallu gwario nhw, a beth dwi ddim yn gwybod yw pa fath o sefyllfa mae ysgolion yn mynd i wynebu flwyddyn nesaf," meddai.
Y prif bryder yw i ba raddau y bydd ysgolion yn gorfod canfod yr arian ar gyfer cynyddu cyflogau staff o'u cyllidebau eu hunain.
Mae pris trydan ar i fyny hefyd ac mae Neil Foden yn disgwyl cynnydd o 200% i'w bil, fyddai'n golygu costau ychwanegol annisgwyl o £45,000-£50,000.
Mae'n credu byddan nhw'n ymdopi yn y flwyddyn ariannol nesaf ond bydd yr arian wrth gefn ddim yn para gyda thoriadau ar y gorwel.
"Fyddan ni ddim mewn sefyllfa hanner mor iach," meddai.
"Dydw i ddim yn meddwl byddan ni mewn sefyllfa lle 'dan ni angen ystyried diswyddo, ond bendant bydd rhaid i ni wneud toriadau mewn llefydd eraill yn y gyllideb."
Ar draws Cymru roedd gan ysgolion £301m wrth gefn ar ddiwedd mis Mawrth 2022, sy'n cyfateb i £659 y disgybl, ac mae wedi cynyddu o £32m yn 2019-20.
Roedd gan bron i 1,000 o ysgolion gronfeydd wrth gefn o fwy na 10% o'u gwariant.
Ond roedd 44 o'r 1,479 ysgol yng Nghymru mewn diffyg ariannol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Dywedodd undeb arweinwyr ysgolion ASCL mai grantiau penodol i ymateb i'r pandemig oedd rhan helaeth y cronfeydd wrth gefn, a dyw'r rheiny ddim yn addas ar gyfer talu costau beunyddiol fel cyflogau.
Yn ôl Eithne Hughes, cyfarwyddwr yr undeb yng Nghymru, byddai'n "sefyllfa wael" pe bai arian sy'n cael ei glustnodi ar gyfer adferiad Covid yn cael ei ddefnyddio i "gynnal y system addysg drwyddi draw".
'Cronfeydd uchel iawn'
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn cydnabod y pwysau ariannol mae chwyddiant a chostau ynni yn ei roi ar wasanaethau cyhoeddus.
Ychwanegodd llefarydd bod "cronfeydd wrth gefn ysgolion yn gyffredinol yn parhau i fod yn uchel iawn" a dywedodd y byddent yn cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i'w defnyddio.
Mae Hywel Parry, sy'n bennaeth Ysgol John Bright yn Llandudno, yn dweud ei fod yn gofidio'n "ofnadwy" am ba doriadau sy'n dod, a'u heffaith ar addysg.
"'Dach chi'n sôn am dorri gymaint o'r cyllid fel bod ysgol yn methu parhau i ddarparu addysg yn ddiogel i ddisgyblion," meddai.
"Mae o'n gymaint o doriad fel bod niferoedd mewn dosbarthiadau yn fwy na mae'r 'stafell yn gorfforol yn medru cymryd."
Dywedodd y byddai'r toriadau sy'n cael eu crybwyll yn golygu nad oedd "modd darparu system addysg yng Nghymru o dan y fath amgylchiadau".
Ychwanegodd: "Mae'n hynod bwysig bod y cyhoedd yn dod yn ymwybodol o hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022