Ymchwilio i farwolaeth arall bosib â Strep A ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i gysylltiadau gyda haint Strep A yn dilyn marwolaeth plentyn ym Mhowys.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) eu bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a'r cyngor i ymchwilio i'r farwolaeth.
Yn ôl Dr Ardiana Gjini o ICC mae unrhyw un sydd "angen gweithredu" wedi cael gwybod.
"Does dim angen i unrhyw un arall wneud unrhyw weithred tu hwnt i'r arfer, ond rydym yn atgoffa rhieni i fod yn wyliadwrus am arwyddion a symptomau o'r dwymyn goch ac iGAS," meddai.
"Tra'n bod yn deall fod rhieni yn debygol o fod yn poeni, mae achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS) yn parhau'n brin yng Nghymru, ac mae plant yn wynebu risg isel iawn o ddal y clefyd."
Pe bai'r farwolaeth yn cael ei chadarnhau fel un o ganlyniad i Strep A, dyma fyddai'r ail farwolaeth yng Nghymru o ganlyniad i'r haint dros yr wythnosau diwethaf, yn dilyn achos Hanna Roap, 7, o Benarth.
Ers mis Medi mae 15 o blant ar draws y DU wedi marw ar ôl cael Strep A ymledol.
Beth yw Strep A, y dwymyn goch ac iGAS?
Mae haint Strep A yn grŵp o facteria sy'n achosi heintiau yn y gwddf a'r croen.
Mae'r dwymyn goch yn haint heintus a achosir gan haint streptococol Grŵp A, sy'n effeithio ar blant ifanc yn bennaf, ac mae'n hawdd ei drin â gwrthfiotigau.
Weithiau gall clefyd Strep A difrifol ddigwydd pan fydd bacteria'n mynd i rannau o'r corff lle nad yw bacteria fel arfer yn cael eu canfod, fel y gwaed, y cyhyrau neu'r ysgyfaint.
Gelwir yr heintiau hyn yn glefyd Streptococol Grŵp A ymledol (iGAS), a gallant gynnwys cyflyrau difrifol, fel syndrom sioc gwenwynig.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2022