Beirniadu cynllun i leihau cymorth ariannol am sbectol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn ôl Rhun ap Iorwerth AS, mae'r cynllun yn gwneud i'r "mwyaf tlawd dalu am y newidiadau yma"

Mae cynlluniau i leihau faint o arian y byddai pobl dlotaf Cymru'n cael i brynu sbectol ar y gwasanaeth iechyd wedi cael eu beirniadu.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried lleihau gwerth y daleb bresennol o £39.10 i £22.

Mae'r cynnig wedi cael ei ddisgrifio fel un "anghywir" yn ystod yr argyfwng costau byw.

Dywedodd y llywodraeth fod y swm wedi ei gytuno gan y grŵp sydd yn cynrychioli optometryddion yng Nghymru.

Bydd Senedd Cymru yn trafod y cynigion yn y flwyddyn newydd.

Fe allai'r cynigion olygu y bydd pobl yng Nghymru, sydd yn cael cymorth arianniol i brynu sbectol yn cael llai na phobl yng ngweddill y DU, os y bydd cynlluniau newydd Llywodraeth Cymru yn cael eu cymeradwyo.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i sicrhau nad oes rhaid i bawb, sy'n gymwys, i dalu am yr offer optegol y maen nhw eu hangen a bod costau optometryddion yn cael eu talu.

Mae BBC Cymru'n deall bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r arbedion i helpu i ariannu newidiadau i gefnogi gwasanaethau optegol mewn ymgais i leihau rhestrau aros.

Fe fydd y gwasanaethau'n cael eu trosglwyddo o ysbytai i optegwyr cymunedol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe ddaw'r cymorth ariannol i helpu cleifion i brynu sbectol o goffrau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond yng Nghymru, mae'n cael ei ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru.

Er y bydd cyfraniad y llywodraeth yn gostwng yng Nghymru, bydd gwerth talebau ym mhob un o wledydd eraill y DU yn aros yr un fath.

Mae grwpiau sy'n cynrychioli optegwyr wedi mynegi pryder am gynigion Llywodraeth Cymru.

"O ganlyniad i'r argyfwng costau byw, mae llawer o gleifion eisoes yn cael trafferth fforddio gofal llygaid digonol," meddai Adam Sampson, prif weithredwr Cymdeithas yr Optometryddion.

"Yn syml iawn, mi fydd hi'n anghywir i Lywodraeth Cymru dorri budd-daliadau i'r tlotaf yn ein cymdeithas.

"Mae'n beth da bod 'na gydnabyddiaeth am effaith y toriad i werth y daleb ar gleifion, ond dyw geiriau ddim yn ddigon," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Optometreg Cymru, y corff ymbarél sy'n cynrychioli optegwyr yng Nghymru, hefyd wedi mynegi "pryderon sylweddol" am y cynlluniau i leihau'r cymorth i brynu sbectol gan y Gwasanaeth Iechyd i blant ac oedolion sy'n cael rhai budd daliadau.

Mewn datganiad dywedodd y corff nad oedd Optometreg Cymru yn cefnogi'r newidiadau i'r system talebau yng Nghymru.

"Fe wnaethon ni bwyso ar Lywodraeth Cymru i ystyried cadw'r system bresennol a phan, yng nghanol y trafodaethau yn Lloegr, y cyhoeddwyd manylion y cynnydd o 2%, fe wnaethom ni ddadlau y dylai hynny ddigwydd yma, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol."

'Gwres canolog, bwyd neu sbectol newydd'

Mae Heledd Hallett yn gweithio fel Cyfarwyddwr Optometreg yn Aberteifi a dywedodd bod y daleb "yn bwysig ofnadwy".

"Mae sbectol cywir i blant yn bwysig ofnadwy fel bod nhw gallu dod ymlaen yn yr ysgol a gweld y bwrdd gwyn, datblygu, peidio cwympo a chael anafiadau, yn union fel pobl hŷn," dywedodd.

"Mae'r bobl sydd yn gwisgo sbectol o ddydd i ddydd angen y dewis ac maen nhw mo'yn y dewis.

"Os ydy'r arian yn cael ei wneud yn llai mae'n mynd i fod yn fwy anodd iddyn nhw ddewis wedyn - ydyn nhw yn mynd i dalu am wres canolog, neu fwyd, neu talu am sbectol newydd?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Hallett yn rhybuddio mae'r tlotaf mewn cymdeithas fyddai'n cael eu heffeithio

Mae 134,285 o bobl yn aros am driniaeth optegol yng Nghymru - y nifer uchaf erioed - ac mae mwy na hanner, 63,649, o bobl yn aros yn hirach na tharged Llywodraeth Cymru.

Mae hynny'n cymharu â'r 119,439 o bobl oedd yn aros ym mis Chwefror 2020 cyn y pandemig - pan cafodd 80,327 eu gweld o fewn y targed neu 25% yn hirach na'r amseroedd targed.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau lleihau faint o gleifion sy'n cael eu hanfon ar gyfer apwyntiadau mewn adrannau llygaid ysbytai o draean.

Y nod fyddai rhoi apwyntiadau dilynol gydag optegwyr cymunedol i 35,000 o gleifion a rhyddhau'r apwyntiadau fyddai wedi bod mewn ysbyty.

Mewn sesiwn rhoi gwybodaeth yn ddiweddar, dywedodd Prif Gynghorydd Optometreg Cymru David O'Sullivan, fod 112,610 o bobl yng Nghymru yn aros yn hirach nag y cytunwyd yn glinigol gyda 70% (tua 78,827 o bobl) mewn perygl o golli eu golwg.

Yn ôl Gwasanaeth Iechyd Cymru, mae Talebau'r Gwasanaeth Iechyd ar gael tuag at gostau sbectol neu lensys cyffwrdd yng Nghymru os ydych:

  • dan 16 oed;

  • mewn addysg llawn amser ac yn 16, 17 neu'n 18 oed;

  • angen lensys cymhleth;

  • chi neu'ch partner yn derbyn budd-daliadau penodol;

  • o dan 20 oed ac yn dibynnu ar rywun sy'n cael budd-daliadau penodol;

  • ar incwm isel.

Mae trafodaethau ynglyn â'r Bil Optometreg Drafft wedi bod yn cael eu cynnal rhwng Optometreg Cymru a Llywodraeth Cymru ers dwy flynedd gyda disgwyl y bydd Aelodau'r Senedd yn dechrau trafod y cynlluniau yn y flwyddyn newydd.

Mae'n bosib y gallai'r cynlluniau gael eu cymeradwyo erbyn yr haf nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru'n dweud bod angen i'r llywodraeth feddwl eto am sut i gyflwyno newidiadau

Yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, mae nifer o'r newidiadau sydd yn cael eu hawgrymu gan Lywodraeth Cymru yn "cael eu croesawu gan optegwyr".

Ond, mae'n bryderus am y syniad o dorri cymorth i'r mwyaf tlawd mewn cymdeithas.

"Beth d'wi'n gweld yw cynnig i wneud y mwyaf tlawd dalu am y newidiadau yma," dywedodd.

"Dydy hynny, d'wi ddim yn meddwl, yn deg iawn. Mae angen i r llywodraeth feddwl eto sut mae cyflwyno newidiadau, os ydy'r newidiadau yn bositif, heb wneud i'r baich ddisgyn ar y bobl sydd leia' yn gallu fforddio fo.

"Dydw i ddim yn credu bod hi'n dderbyniol bod Llywodraeth Cymru wrth edrych eto ar elfennau o ofal y golwg, yn gofyn i'r bobl sydd fwyaf tlawd, sydd fwyaf angen cefnogaeth, i wneud cyfraniad mwy tuat at y gwasanaethau hynny."

'Llai o ddewis i gleifion'

"Mae Llywodraeth Cymru yn deall bod dewis cleifion yn debygol o leihau o ganlyniad i'r newid hwn yng ngwerth y talebau," meddai llefarydd ar ran Optometreg Cymru.

"Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymchwil ei hun i bris cyfres cyfyng o lensys a fframiau er mwyn gosod gwerth talebau newydd.

"Rydym yn sylweddoli nad yw hyn yn cynrychioli'r ystod lawn o'r costau i bob practis ac y gallai practisau ei chael hi'n anodd cynnig yr hyn y maen nhw'n ei wneud nawr."

Mae papur drafft y llywodraeth hefyd yn cynnig ffi is - bron i 60% yn llai - i optegwyr am weld cleifion yn eu cartrefi eu hunain.

Mae optegwyr sy'n ymweld â phobl adref yn ofni y byddai hynny'n effeithio ar y rhai mwyaf bregus o fewn cymdeithas.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i sicrhau nad oes rhaid i bawb, sy'n gymwys, dalu am yr offer optegol y maen nhw eu hangen a bod costau optometryddion yn cael eu talu.

"Rydym yn darparu £30m yn ychwanegol dros ddwy flynedd i'r cytundeb newydd hwn, ac mae gwerth y rhan fwyaf o dalebau wedi cynyddu mewn gwirionedd.

"Fe wnaeth Optometreg Cymru, fel rhan o'r trafodaethau blynyddol, gytuno ar y cytundeb newydd a gwerthoedd talebau."