Anafiadau pen: 'Mwy o Lewod am erlyn cyrff rygbi'

  • Cyhoeddwyd
Lenny Woodard
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lenny Woodard yn chwaraewr Rygbi Undeb a Rygbi'r Gynghrair, gan gynrychioli Cymru yn y ddwy gamp

Mae BBC Cymru ar ddeall fod rhagor o gyn-chwaraewyr y Llewod ymhlith unigolion sy'n ystyried erlyn yr awdurdodau rygbi ar ôl cael diagnosis o anafiadau i'r ymennydd.

Fe fydd y chwaraewyr yma'n ymuno ag enwau megis cyn-gapten Cymru Ryan Jones, enillydd Cwpan y Byd Steve Thompson a dros 200 o gyn-chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd yn eu cais cyfreithiol.

Yn ôl cyn-chwaraewr Cymru Lenny Woodard, 46, gafodd ddiagnosis cynnar o ddementia ei hun, bydd pobl wedi'u "syfrdanu" pan fydd y rhestr llawn yn cael ei gyhoeddi.

Dywedodd Rygbi Byd, Undeb Rygbi Cymru (URC) a Rygbi'r Undeb (RU) eu bod nhw'n "ymdrechu'n gyson i amddiffyn a chefnogi ein holl chwaraewyr".

Enillodd Woodard, a anwyd ym Mhont-y-pŵl, bump o gapiau dros dîm Rygbi'r Gynghrair Cymru, a chwaraeodd dros dîm Rygbi Undeb Cymru ar eu taith i Dde Affrica yn 1998.

Mae nawr yn eistedd ar bwyllgor yn cynrychioli chwaraewyr sy'n ymwneud âr cais.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru dywedodd: "Ar ryw bwynt fe ddaw rhestr y chwaraewyr yn gyhoeddus ac fe fyddwch chi'n cael eich synnu gan enwau rai sydd yna. O ran chwaraewyr y DU, 'dych chi'n siarad am Lewod.

"Ry'n ni'n siarad am Ryan Jones, mae 'na chwaraewyr ar y lefel yna, enwau mawr, sy'n rhan o'r achos cyfreithiol ar y funud, sy'n siom ofnadwy gan eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd hefyd."

'Chwaraewyr sy'n rhy ofnus i ddod mlaen'

'Nôl ym mis Gorffennaf datgelodd cyn-gapten Cymru Ryan Jones ei fod wedi ymuno â'r achos cyfreithiol yn erbyn awdurdodau'r gêm ar ôl cael diagnosis o arwyddion cynnar o dementia.

Mae eraill yn cynnwys cyn-chwaraewr rhyngwladol Lloegr ac enillydd Cwpan y Byd, Steve Thompson a chyn-chwaraewr Cymru, Alix Popham.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Alix Popham 33 cap i Gymru fel wythwr

Dywedodd Woodard fod cyn-chwaraewyr proffesiynol eraill wedi cysylltu ag ef am gyngor ar ôl iddo siarad â BBC Cymru y tro diwethaf.

"Roedden nhw'n gofyn am gyngor gan eu bod yn diodde' o golli cof," meddai.

Ychwanegodd ei fod "yn gwybod am o leia' chwech cyn-chwaraewr Uwch Gynghrair Rygbi Cymru o'r 1990au sy'n cael heriau gyda cholli cof ac sy'n gofyn am gyngor meddygol".

"Dwi wedi cael cyn-chwaraewyr sy'n rhy ofnus i ddod 'mlaen [yn dod atai] gan nad ydyn nhw eisiau i'w cyflogwyr wybod eu bod nhw'n cael trafferth," meddai.

"Maen nhw wedi gweithio'n galed i gyrraedd ble maen nhw yn eu gyrfa a dydyn nhw ddim eisiau i'w cyflogwyr edrych arnyn nhw mewn ffordd negyddol achos maen nhw'n cael trafferth yn eu bywydau bob dydd.

"Mae'n fwy cyffredin na feddylies i'n gynta', mae 'na lot o chwaraewyr yn ei chael hi'n anodd."

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Rygbi Byd, Undeb Rygbi Cymru (URC) a Rygbi'r Undeb (RU): "Gan weithredu ar y wyddoniaeth, y dystiolaeth ddiweddaraf a chanllawiau arbenigol annibynnol, rydym yn ymdrechu'n gyson i ddiogelu a chefnogi ein holl chwaraewyr - dyfodol, cyfredol, a chynt."

Ond mae cyrff llywodraethu rygbi wedi cael eu cyhuddo o fethu ag "amddiffyn chwaraewyr rhag anaf parhaol".

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-gapten Cymru, Ryan Jones, wedi datgelu ei fod wedi cael diagnosis o arwyddion cynnar o dementia a'i fod wedi ymuno â'r achos cyfreithiol yn erbyn awdurdodau'r gêm

Yn ôl cyfreithwyr, mae achos cyfreithiol wedi ei gyflwyno ar gyfer tua 160 o chwaraewyr, gyda disgwyl y bydd achos i tua 70 yn rhagor y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Richard Boardman o Rylands Legal, sy'n cynrychioli'r chwaraewyr, fod 20 o'r 235 cyn-chwaraewyr proffesiynol wedi datgelu eu diagnosis yn gyhoeddus.

"Mae yna lawer o chwaraewyr uchel eu profil eraill, chwaraewyr amatur a benywaidd," meddai.

"Mae 'na chwaraewyr rhyngwladol o Gymru, Lloegr - mi wnaeth rhai ohonyn nhw chwarae i'r Llewod.

"Mae 'na lawer o fois o Gymru yn eu plith."

'Rwy'n teimlo rhywfaint o gyfrifoldeb'

Mae'r cwmni'n dweud mai dyma'r weithred ddosbarth fwyaf o'i fath y tu allan i'r Unol Daleithiau, lle talodd yr NFL dros £664m hyd yma i gyn-chwaraewyr a ddatblygodd broblemau dementia neu broblemau sy'n gysylltiedig â chyfergyd.

Dywedodd Rygbi Byd, URC a RU iddyn nhw fis Tachwedd dderbyn hysbysiad ar ran 169 o gyn-chwaraewyr proffesiynol rygbi'r undeb "yn gofyn am estyniad i ddyddiad cau'r llys i'n gwasanaethu gyda manylion llawn am eu ceisiadau".

Dywedodd Woodard ei fod hefyd wedi ystyried y rhan y gallai ef fod wedi'i chwarae, wrth achosi anafiadau gyda'i steil corfforol o chwarae.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lenny Woodward iddo dderbyn ei gyfergyd cyntaf yn 11 oed

"Nid fi oedd y mwyaf talentog, ond byddwn i'n rhoi 100%," meddai.

"Mae'n debyg fy mod i mor ymosodol ag yr oedden nhw'n dod mor belled â rhedeg at bobl - ond doeddwn i erioed eisiau i neb gael anaf."

Mae'n cofio gêm yn erbyn clwb Bonymaen pan ddaliodd chwaraewr yn ddamweiniol "gydag ergyd uchel", a arweiniodd at gyfergyd.

"Mae e erbyn hyn wedi cael diagnosis cynnar o ddementia a dwi wedi gweld ochr arall y geiniog. Rwy'n teimlo rhywfaint o gyfrifoldeb am hynny," meddai.

"Mae e wedi bod yn neis iawn am y peth, ond mae gen i erbyn hyn, fyddwn i ddim yn dweud euogrwydd, ond roedd y broses feddwl yna fy mod i efallai wedi cyfrannu at y sefyllfa, ac mae'n bryderus."

'Safoni'r penderfyniadau'

Ac yntau ar bwyllgor sy'n goruchwylio hyn, dywedodd Woodard ei fod bellach yn bryderus ynglyn â pha mor gyffredin allai anafiadau i'r ymennydd fod yn y cynghreiriau amatur.

Dywedodd y dylai'r penderfyniad i dynnu chwaraewyr oddi ar y cae yn ystod gêm gael ei wneud gan berson meddygol proffesiynol ym mhob lefel o'r gêm - rhywun sydd "ddim wedi'i ddal yng ngwres y foment".

"Oherwydd mi allwn ni weld rhywun yn marw ar gyfer y tîm os nad yw'r sefyllfaoedd yma'n cael eu rheoli'n iawn," meddai.

Disgrifiad,

Dywedodd Wayne Evans ei fod yn deall yr angen i hawlio arian er mwyn sicrhau gofal yn y dyfodol

"I ryw raddau ni yw awduron ein hanffawd ein hunain."

Ychwanegodd: "Ry'n ni angen safoni'r penderfyniadau yna. Dyna yw'r her ar gyfer Rygbi'r Byd, diwallu ar gyfer chwaraewyr rygbi ar bob lefel.

Cwestiynodd Woodard sawl chwaraewr amatur sy'n cael asesiad anaf i'r pen ar ochr y cae.

"Dydi o ddim yn digwydd," meddai. "Dwi ddim yn gwybod os allai ddigwydd."

'Cefnogi lles ac iechyd hir dymor'

Mewn datganiad ar y cyd cadarnhaodd Rygbi Byd, URC ac RU eu bod wedi derbyn hybysiad gan gyfreithwyr Rylands ar ran yr 169 o gyn-chwaraewyr proffesiynol.

"Mae rygbi yn gamp sy'n cefnogi lles a iechyd hir dymor chwaraewyr ar bob lefel," meddai.

"Mae'n cael ei charu gan filiynau o chwaraewyr presenol a chyn-chwaraewyr o gwmpas y byd.

"Ry'n ni'n poeni'n fawr am bob aelod o'r teulu rygbi ac wedi'n tristau gan gyfrifon personol dewr cyn-chwaraewyr sy'n cael trafferth gydag unrhyw broblemau iechyd.

"Dymunwn roi gwybod ein bod ni'n gofalu, yn gwrando ac na fyddwn ni'n sefyll yn llonydd pan ddaw hi i sicrhau fod rygbi y gamp fwya' blaengar o safbwynt lles athletwyr.

"Drwy weithredu ar y wyddoniaeth ddiweddara', tystiolaeth a chanllawiau arbenigol annibynnol, rydyn ni'n ymdrechu'n gyson i ddiogelu a chefnogi ein holl chwaraewyr - dyfodol, cyfredol a chynt.

"Mae rygbi yn arweinydd wrth atal, rheoli ac adnabod effeithiau pen ac mae Rygbi'r Byd hefyd yn ariannu ymchwil trawsnewidiol yn rhagweithiol, yn cofleidio arloesedd ac yn archwilio technoleg a all wneud y gamp mor hygyrch, cynhwysol a diogel â phosibl i bawb sy'n cymryd rhan."

Ychwanegodd y cyrff rheoli na allen nhw wneud sylw ar fanylion y camau cyfreithiol wrth iddyn nhw barhau.