Claf MS: 'Angen gwell cefnogaeth i weithwyr gofal'
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o gefnogaeth ar weithwyr gofal yn y gymuned, yn ôl dyn a dreuliodd gyfnod estynedig yn yr ysbyty ddiwedd y llynedd.
"Rhain ydy'r bobl mwya' pwysig, y bobl reit ar y gwaelod sy'n dal popeth i fyny," meddai Glyn Jones, sydd â chyflwr sglerosis ymledol (MS).
Fe dreuliodd Mr Jones bron i dair wythnos yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, er bod meddygon wedi dweud y gallai adael ar ôl chwe diwrnod.
Yn ôl Mr Jones, gwraidd yr oedi oedd y ffaith nad oedd y cwmni sy'n darparu'r gofal iddo gartref, ISS Healthcare, yn gallu ail-ddechrau'r gwasanaeth cefnogaeth pan roedd ei angen.
Dywedodd y cwmni na allen nhw wneud sylw ar yr achos, ond eu bod nhw'n "rhannu pryderon Mr Jones am gyflwr gofal cymdeithasol yng Nghymru ac ym Mhrydain".
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n "gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd adref cyn gynted â phosib gyda gofal priodol".
Aeth Mr Jones, sy'n 49 oed ac yn dod o Gaerdydd, i'r ysbyty ar ddydd Iau, 6 Hydref, yn dioddef o garreg fustl a chyflwr ar y gwaed - anemia dinistriol.
Chwe diwrnod yn ddiweddarach, ar ddydd Mercher 12 Hydref, cafodd wybod ei fod yn ddigon iach i fynd adref.
Ond dywedodd nad oedd y cwmni sy'n darparu gofal iddo yn ei gartref yn gallu ail-ddechrau'r gofal tan y dydd Mawrth canlynol.
Bu'n rhaid iddo aros yn yr ysbyty felly ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe gafodd ei heintio â Covid, oedd yn golygu bod yn rhaid iddo hunan-ynysu.
Cafodd ddychwelyd adref ddydd Mawrth 25 Hydref, ar ôl treulio bron i dair wythnos yn yr ysbyty.
'Rhwystredig bod y broses wedi torri'
Dywedodd Glyn Jones nad yw'n flin gyda'r cwmni sy'n darparu'r gofal yn y gymuned, ond yn hytrach mae'n flin nad ydy'r system yn gweithio fel y dylai.
"Rwy'n deall y sefyllfa'n llwyr, sef eu bod nhw'n brin o staff. Rhwystredigaeth yw e, bod pob rhan o'r broses i weld wedi torri," ychwanegodd.
"O'dd hi'n od jest bod mewn gwely yn gweld hyn i gyd yn digwydd; yn gwbod bo' fi isio mynd adra, bo nhw isio fi fynd adra, ond bod y sefyllfa adra mor brysur, ag oeddan nhw dan gymaint o straen efo staff, doedd gynnyn nhw ddim dewis 'mond gadael fi yn yr ysbyty.
"Do'n i ddim yn flin efo'r cwmni gofal, yn flin o'n i efo'r sefyllfa maen nhw ynddyn nhw."
Mae anawsterau wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty wedi cyfrannu'n fawr iawn at y pwysau diweddar ar ysbytai ar draws Cymru.
Ddechrau'r mis, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyngor newydd i feddygon oedd yn dweud y gallai cleifion sy'n ddigon da i gael eu rhyddhau o'r ysbyty fynd adref, hyd yn oed os nad oedd pecyn gofal ar gael iddyn nhw yn y gymuned.
Cafodd hyn ei feirniadu'n llym gan gymdeithas feddygol y BMA a gweithwyr y sector gofal.
Mae Mr Jones yn cytuno: "Os fyswn i 'di cael fy ngyrru adre heb unrhyw ofal, fyswn i yn fy ngwely am be, tri, pedwar, bum diwrnod. Dwi'm yn gweld sut allan nhw yrru pobl adra."
Y llynedd, fe ariannodd Lywodraeth Gymru godiad cyflog i ofalwyr yn y gymuned i godi eu cyflog i'r cyflog byw go iawn oedd ar y pryd yn £9.90 yr awr.
Bydd cyflogau'n codi eto fis Mehefin yma i £10.90 yr awr.
'Angen talu mwy i weithwyr gofal'
Mae Mr Jones o'r farn y byddai talu mwy yn gwneud y gwaith yn fwy deniadol.
"Dy'n nhw ddim yn cael digon o gyflog am y gwaith maen nhw'n gorfod gwneud.
"Ma'n nhw mor bwysig i gadw pobl fatha fi yn fy nghartra' yn lle bo' fi'n gorfod mynd i gatra' hen bobl neu sheltered accommodation sy'n mynd i gostio mwy yn y pendraw."
Mae Mary Wimbury, Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru, yn cytuno gan ddweud bod gweithwyr gofal yn y gymuned yn gwneud "gwaith gwerthfawr tu hwnt".
"Maen nhw'n aml yn gweithio ar eu pennau ei hunain, allan yn y gymuned ym mhob tywydd, yn y tywyllwch, yn ceisio gofalu am rai o bobl mwya' bregus cymdeithas.
"Mae'n swydd fedrus, ond dy'n ni ddim yn gwobrwyo'n ddigonol."
Dywedodd Max Wurr ar ran cwmni ISS Healthcare, y cwmni sy'n darparu gofal yn y cartref i Glyn Jones, "eu bod yn parhau i ddylanwadu lle'n bosibl ar y rhai sy'n gwneud polisïau mewn llywodraeth leol a chanolog i wneud buddsoddiad cyson a hir-dymor yn y gofal mae pobl yn ei dderbyn yn eu cartrefi eu hunain".
"Ry'n ni o'r farn mai proffesiynoli gweithlu gofal cymdeithasol a gwobrwyo'n deg yw'r unig ffordd i sicrhau bod pobl fel Mr Jones yn parhau i fyw bywydau iach ac urddasol, ac ry'n ni'n deall ac yn cydymdeimlo'n llwyr â'i rwystredigaeth," meddai.
'Buddsoddi mwy nag erioed'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n buddsoddi mwy nag erioed mewn gwasanaethau iechyd a gofal i ymateb i'r heriau yma ac yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd adref cyn gynted â phosib gyda gofal priodol".
Ond yn ôl Glyn Jones, y man cychwyn fyddai rhoi mwy o statws a chyflog i weithwyr gofal yn y gymuned.
"Rhein ydy'r bobl fwya' pwysig, y bobl reit ar y gwaelod sydd yn dal popeth i fyny.
"Ma' gymaint o sylw 'di cael ei dalu at yr ysbytai a'r gwasanaeth iechyd… Does 'na'm pwynt cael mwy o ambiwlansys ar gael jest i ymuno mewn ciw tu allan i'r ysbyty.
"Ma' isio gwneud gwaith y gymuned yn waith pwysig."
Dywedodd Cyngor Caerdydd, sydd â chytundeb gyda ISS Healthcare i ofalu am Glyn Jones, fod yr awdurdod lleol, "fel gweddill y DU" wedi bod yn wynebu "galw digynsail" am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol "gan atal rhyddhau cleifion yn amserol o'r ysbyty".
Ychwanegodd llefarydd fod y cyngor yn "gweithio'n agos" gyda'r bwrdd iechyd "i hwyluso rhyddhau cleifion cyn gynted â phosib".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2023