'Dewch â gwasanaethau ynghyd' i ddatrys argyfwng iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae angen dod â gwasanaethau at ei gilydd mewn partneriaeth sy'n cwrdd yn gyson i geisio taclo'r argyfwng iechyd, yn ôl cyn-ddirprwy weinidog gwasanaethau cymdeithasol.
Fel bod "llais pawb yn cael ei glywed", mae Gwenda Thomas hefyd yn dweud y dylai pleidiau gwleidyddol gydweithio.
"Does dim ateb syml, ac rwy' yn deall y pwysau ar y gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol," meddai.
"Ond rwy' yn credu bod angen i ddod â phawb yn ôl at ei gilydd i fforwm partneriaeth lle gall llais pawb gael ei glywed."
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i weithio tuag at integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ac, diolch i gydweithio rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, wedi sicrhau 500 o welyau cymunedol ychwanegol eleni.
'Gwir bartneriaeth'
Roedd Gwenda Thomas yn ddirprwy weinidog gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru pan adawodd y Cynulliad - y Senedd erbyn hyn - yn 2016
Yn sgil pryderon am bwysau cynyddol ar y GIG ac asiantaethau eraill, a thrafferthion pobl yn gallu gadael yr ysbyty, dywedodd bod angen gweithredu mewn "gwir bartneriaeth".
"Mae angen cydweithio yn sicr, ma' rhaid i hyn ddigwydd oherwydd bydde y gwasanaethau cymdeithasol yn hollbwysig i fynd â pheth o'r pwysau oddi ar yr adrannau eraill," meddai.
"Mae pedair colofn i ofal cymdeithasol... sef y gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaeth addysg, y sector wirfoddol a'r sector annibynnol ac yn hollbwysig ar ben hynny mae y gofalwyr anffurfiol.
"Os na 'newn ni ofalu ein bod yn cynnwys pob un yn y ddadl a siarad â phob un am y ffordd 'mla'n, symo i'n credu bydd lot o siâp.
"Mae yn g'neud sens bod pob un mewn gwir bartneriaeth. S'dim pwynt mewn siarad am y gair partneriaeth - mae angen gweithredu."
'Neb â monopoli ar syniadau da'
Roedd cydweithio llwyddiannus wedi digwydd yn 2013/14 wrth lunio'r ddeddf gwasanaethau cymdeithasol, meddai, er mwyn sicrhau bod gan bawb lais.
"S'dim un parti gwleidyddol â monopoli ar syniadau da," ychwanegodd.
Wrth gyfeirio at y ddeddf mae hi'n nodi ei fod yn hollbwysig ac yn rheoli gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Mae hi'n cyfaddef ei bod yn pryderu, fodd bynnag, ei bod yn bosib nad yw'r ddeddf wedi ei gweithredu mor effeithiol ag y dylai.
"Ar ddiwedd y dydd ma' raid i ni ystyried faint mae y sector wirfoddol yn cyfrannu - y gwir yw maen nhw yn dal y gwasanaethau statudol i fyny.
"Ac ma' angen cofio hefyd faint ma' y sector annibynnol o ran cartrefi gofal ac ati yn cyfrannu. Allwch chi byth mynd 'mla'n ag un heb y llall."
Pwysigrwydd 'ystyriaeth unigol'
Dywed ei bod hi'n clywed pryderon am bobl yn methu dod mas o'r ysbyty, er enghraifft.
"Maen bwysig i dderbyn ma' nid pobl di-wyneb di-nod y'n ni yn siarad ambwyti," dywedodd. "Dim cohort o bobl all gael eu symud en bloc. Mae pob un yn unigolion."
Un peth sydd rhaid cofio, meddai, yw fod gan lawer o bobl becynnau gofal cyn mynd i'r ysbyty ac felly fe fydd angen pecyn gofal pan fyddan nhw'n dod allan.
"Ma' pob unigolyn isie ystyriaeth unigol ac os na 'newn ni hynna bydda nhw nôl yn yr ysbyty. Fi ffili gweld hwn yn 'neud yn sens.
"Mae rhaid i ofalwyr gael y gefnogaeth ac mae pryderon gan bob unigolyn am eu hamgylchiade eu hunen."
Un ffordd o geisio sicrhau bod llai o bobl yn mynd i mewn i'r ysbyty - a helpu pobl hefyd i adael yr ysbyty - yw canolbwyntio ar wasanaethau cymdeithasol.
"Mae gwasanaethau cymdeithasol yn wasanaeth preventative, ac ma' hwnna'n hollbwysig i osgoi yr angen i fynd mewn i ysbyty efalle yn y man cynta' ac i helpu pobl ddod mas yn gynt.
"Does dim digon o ystyriaeth wedi bod i rôl gwasanaethau cymdeithasol a'r partneriaid."
'500 o welyau ychwanegol'
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n parhau i weithio tuag at integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol - fel rhan o hyn, mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi'u sefydlu i helpu i integreiddio gwasanaethau yn lleol, gyda chefnogaeth y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol sy'n werth £144m.
"Trwy gydweithio rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol mae 500 o welyau cymunedol ychwanegol wedi'u sicrhau eleni i helpu i drosglwyddo cleifion o'r ysbyty i fod yn nes at eu cartrefi, ac ry'n ni'n gweithio i ddarparu rhagor.
"Ry'n ni hefyd yn buddsoddi £70m eleni i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn parhau i gael o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2023