John Gwilym Jones yn ôl ar Y Talwrn

  • Cyhoeddwyd
John Gwilym JonesFfynhonnell y llun, John Gwilym Jones
Disgrifiad o’r llun,

John Gwilym Jones

Mae'r bardd, y gweinidog a'r cyn-Archdderwydd John Gwilym Jones yn ôl ar Y Talwrn ar BBC Radio Cymru.

Bu John Gwilym Jones yn aelod o dîm Penrhosgarnedd am flynyddoedd, a nhw oedd pencampwyr Y Talwrn, sef ymryson barddol rhwng timau o feirdd, yn 2006. Ymddangosodd John ar Y Talwrn am y tro cyntaf nôl yn yr 1950au.

Cymru Fyw fu'n holi John am ei atgofion a'i argraffiadau wrth iddo ddychwelyd fel talyrnwr i dîm Beirdd Myrddin, dros 60 mlynedd ers ei dalwrn cyntaf.

Yn y rhifyn diwethaf o'r Talwrn ar BBC Radio Cymru, bu Beirdd Myrddin mewn gornest yn erbyn tîm Aberhafren. Dyna'r tro cyntaf i John Gwilym Jones gystadlu ar Y Talwrn ers ei ddyddiau â thîm Penrhosgarnedd.

Eglura: "Dwi ddim yn cofio pa flwyddyn oedd hi ers i mi gymryd rhan yn Y Talwrn ddiwethaf ond mae sawl blwyddyn oddi ar hynny, a chymryd rhan yn nhîm Penrhosgarnedd bryd hynny yndê, gyda Gerallt Lloyd Owen yn feuryn.

Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Gerallt Lloyd Owen wrth ei waith fel meuryn

"Roedd Eic Morris Jones yn rhyw fath o gapten ac yn rhoi trefn arnon ni, oedd Morien Phillips a John Ogwen gyda ni hefyd.

"Oedd sawl un oedd yn dod mewn yn achlysurol i dîm Penrhosgarnedd, ac ambell i flwyddyn falle yn methu cymryd rhan."

'Dwl hen, dwl dwla'

Ymuno â thim Beirdd Myrddin "i lenwi bwlch funud olaf" mae John wedi ei wneud eleni.

"Aled Evans yw'r trefnydd, mae Geraint Roberts hefyd yn cadw trefn ar bethe ond dim ond dod mewn wnes i i lenwi bwlch," eglura John.

Disgrifiad o’r llun,

Trefnydd Beirdd Myrddin, Aled Evans

"Mae yna ymadrodd gyda ni yn Gymraeg - 'Dwl hen, dwl dwla' - mae hynna yn golygu mod i'n dod mewn, pan mewn gwirionedd dylen i roi mwy o gyfle i bobl llawer ifancach na fi!"

Un peth sy'n galondid mawr i John yw gweld Y Talwrn yn denu to newydd o feirdd ifanc sy'n gynganeddwyr medrus:

"Mae hwnna yn fendigedig. Mae gweld y modd y mae y cynganeddwyr yma - wel rwy'n rhyfeddu at eu dawn nhw. Mae'n flynyddoedd toreithiog arnon ni mewn gwirionedd o fewn y Gymru Gymraeg."

Meuryn oedd y Meuryn!

Yn frodor o Gastellnewyddemlyn, mae ardal Bangor a Sir Gaerfyrddin yn agos at ei galon, ac yntau wedi byw yn y ddau le am flynyddoedd ac wedi eu gwasanaethu fel gweinidog.

Teimlad braf felly ydy gallu dweud ei fod wedi bod yn rhan o dîmau Talwn Penrhosgarnedd a Beirdd Myrddin. Ond gyda thîm Ceredigion, y cystadlodd John gyda'r Talwrn am y tro cyntaf a hynny 'nôl yn yr 1950au.

Meddai: "Wy'n cofio a deud y gwir - y tro cyntaf fues i wrthi oedd mewn stiwdio yn Abertawe yn yr 1950au.

"Meuryn oedd enw barddol R. J. Rowlands sef y Meuryn cyntaf, fe roddodd yr enw wedyn i'r beirniad sy'n gofalu am yr ymryson a'r talwrn yndê. Dyna o le daw'r enw Meuryn sy'n cael ei ddefnyddio hyd heddiw. Meuryn oedd y Meuryn cyntaf!"

Ffynhonnell y llun, WIKI
Disgrifiad o’r llun,

Clawr cyfrol i blant, Y Barcud Olaf (1944) gan Meuryn (R. J. Rowlands). Roedd yn hoff iawn o fyd natur

"Unwaith eto dod mewn i lenwi bwlch oeddwn i yn nhîm Ceredigion. O'n i mewn tîm gyda T. Llew Jones bryd hynny a wy'n cofio - fuodd Llew yn ein hyfforddi ni cyn mynd, yn ein rhybuddio ni am ryw ragfarnau byddai gan Meuryn yn erbyn rhyw gampau fyddai rhai pobl yn ceisio eu gwneud gyda'r iaith. Oedd e nid yn unig yn beirniadu'r gynghanedd ond oedd e'n beirniadu'r iaith yn aml iawn.

'Ceri Wyn gyda'r gorau yn eu plith'

"Roedd 'na nifer o wahanol Feurynau wedi bod wrthi o dro i dro, a rhai ohonyn nhw yn eithriadol o wybodus a hefyd yn graff o ran dehongli, ond mae Ceri Wyn gyda'r gorau yn eu plith nhw," meddai John.

Ychwanega: "Mae rhyw ddawn gyda fe i weld a chanfod rhyw ystyr neu ergyd gudd o fewn i'r cynigion sy'n cael eu rhoi ger ei fron e."

Disgrifiad o’r llun,

Ceri Wyn Jones

Yr un edmygedd sydd gan y Meuryn presennol, Ceri Wyn Jones at John Gwilym Jones wrth iddo ei groesawu yn ôl i'r Talwrn.

Meddai Ceri: "Roedd John Gwilym Jones yn un o sêr y gyfres pan ddechreues i gystadlu ar y Talwrn nôl ar ddechrau'r nawdegau, ac mae'n wych o beth ei fod e wedi cael ail wynt nawr fel aelod o dîm Beirdd Myrddin.

"Fel ei fab, Tudur Dylan, mae John Gwilym yn gallu troi ei law at dasgau dwys a thasgau ysgafn, ac fe brofodd hynny droeon fel aelod o dîm Penrhosgarnedd slawer dydd, tîm oedd yn cynnwys sawl seren arall, fel John Ogwen, Iwan Llwyd a Llion Jones."

"Mae gen i'r parch mwya' at John, fel roedd gan fy rhagflaenydd, Gerallt Lloyd Owen, a gobeithio y bydda' i'n gwneud cyfiawnder â'i waith e."

'Y broga blwydd yn lladd y broga dwyflwydd'

Aelod o dîm Tir Iarll yw Tudur Dylan Jones, mab John, a bydd Tir Iarll yn wynebu Caerelli yng ngornest nesaf y Talwrn.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Yr Archdderwydd John Gwilym Jones yn cadeirio ei fab Tudur Dylan Jones yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1995. Yn yr un eisteddfod fe wnaeth hefyd goroni ei frawd - ac ewythr Tudur - Aled Gwyn

Wrth ofyn i John Gwilym Jones sut fyddai'n teimlo petai Beirdd Myrddin a Tir Iarll yn mynd benben â'i gilydd, a cherddi tad a mab yn cystadlu am sgôr a sêl bendith y Meuryn, ei ateb diymhongar yw:

"Go brin y byddwn i wedi cyrraedd i ddod gyferbyn â Thir Iarll yn y gystadleuaeth achos mae yna dimau yn cael eu torri allan drwy golli. Ond os bydd Dylan yn ei dîm a finne mewn tîm ac yn dod benben a'n gilydd, wel dyna fe, bydd rhaid i fi ildio wedyn mae'n siŵr yndê - bod yr ieuenctid yn ennill.

"Ymadrodd arall yn Gymraeg yw 'Y broga blwydd yn lladd y broga dwyflwydd'!"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig