Pedwar rhanbarth 'wedi eu bwlio' gan Undeb Rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr o bedwar rhanbarth Cymru yn Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y Dreigiau, Gweilch, Rygbi Caerdydd a'r Scarlets yw'r pedwar tîm proffesiynol yng Nghymru

Mae un o gyfarwyddwyr clwb rygbi'r Scarlets wedi dweud fod y berthynas rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau yn "un gormesol".

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Ron Jones fod pedwar tîm proffesiynol Cymru wedi cael eu bwlio yn ystod y trafodaethau ynglŷn ag ariannu'r gêm.

Daeth ei sylwadau ar ôl i gadeirydd URC, Ieuan Evans, gyhoeddi y bydd tasglu annibynnol yn cael ei sefydlu i ystyried y diwylliant o fewn yr undeb, yn dilyn honiadau o sarhad ar ferched, hiliaeth a bwlio.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru ei bod hi'n destun siom bod yna oedi wedi bod yn y broses o gyrraedd cytundeb.

Nodwyd hefyd ei bod yn "hanfodol bwysig i gael y manylion yn iawn er budd y gêm gyfan yng Nghymru".

Fe ymddiswyddodd prif weithredwr yr undeb, Steve Phillips, ddydd Sul ar ôl i'r honiadau ddod i'r amlwg yn dilyn ymchwiliad gan raglen BBC Wales Investigates.

Roedd y pedwar rhanbarth proffesiynol wedi galw arno i ymddiswyddo ddyddiau ynghynt.

Nigel Walker sydd wedi ei benodi'n brif weithredwr dros dro yn ei le.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Steve Phillips ymddiswyddo fel prif weithredwr ddydd Sul

Yn ôl Ron Jones, roedd ymateb cychwynnol yr undeb yn annigonol.

"Yn amlwg o'dd y dyddiau cynta' yn drychinebus i'r undeb ond yn ogystal dw i'n credu, i enw da rygbi.

"Doedd dim derbyn o gwbl gan y prif weithredwr (Steve Phillips) nac yn anffodus gan y cadeirydd (Ieuan Evans) bod 'na faterion yma o'dd rhaid cymryd o ddifri'.

"Neis i weld erbyn hyn bod un wedi mynd a bod y llall wedi cyfaddef bod materion anodd iawn fan hyn mae'n rhaid pigo lan."

'Y gêm yn marw'

Mae URC a'r pedwar rhanbarth wedi bod yn cynnal trafodaethau ynglŷn â chytundeb ariannol tymor hir, fyddai'n galluogi'r rhanbarthau i gynnig cytundebau i chwaraewyr.

Ond mae Ron Jones wedi cyhuddo'r undeb o geisio bwlio'r rhanbarthau.

"O'dd y trafodaethau dros y flwyddyn ddiwetha' ar gyfer ariannu'r gêm yn amlwg yn rhai lle o'dd y berthynas rhwng yr undeb a'r clybiau yn un gormesol - bwlian y clybiau i dderbyn rhywbeth oedd yn amhosib.

"I bob pwrpas, cyfranddalwyr y rhanbarthau fyddai'n talu am ddyfodol rygbi yng Nghymru," ychwanegodd.

"Mae'n rhaid i ni symud 'mlaen mewn rhyw fath o gytundeb sy'n seiliedig - os nad ar gyfeillgarwch - ar ddealltwriaeth o'r ffaith bod rhaid i ni symud ymlaen er lles y tîm cenedlaethol, timau rhanbarthol a hefyd y gêm gymunedol.

"Mae'r gêm yn marw oherwydd fel mae'r undeb wedi osgoi'r cyfrifoldeb a'r dealltwriaeth ers rhyw bymtheg mlynedd."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r cadeirydd Ieuan Evans a'r prif weithredwr dros dro Nigel Walker yn wynebu'r wasg ddydd Llun

URC: 'Rhaid i'r manylion fod yn gywir'

Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru bod y trafodaethau ar ddyfodol y gêm broffesiynol yn nwylo'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr pob un o'r pedwar rhanbarth, prif weithredwr a chyfarwyddwr cyllid URC, a dau gyfarwyddwr annibynnol.

Ychwanegodd bod y trafodaethau hyn "yn symud yn eu blaen, gyda chytundeb ar lafar, a dogfen gychwynnol ar gytundeb chwe blynedd ar gyfer y gêm broffesiynol".

"Tra bo'r oedi yn y broses o gyrraedd cytundeb yn destun siom, mae'n hanfodol bwysig bod y manylion yn gywir er lles y gêm gyfan yng Nghymru," meddai.

Dywedodd y prif weithredwr dros dro, Nigel Walker, ddydd Llun fod gan y rhanbarthau bellach yr hawl i ddechrau trafod cytundebau gyda chwaraewyr.

Ychwanegodd ei fod yn debygol y byddai'r holl gytundebau wedi'u cwblhau erbyn diwedd Chwefror.

Ond mae'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol yn pwysleisio nad yw'r cytundeb ariannol rhwng y rhanbarthau a'r undeb yn ei le eto.

Wrth ymgymryd â swydd y prif weithredwr dros dro, cyfaddefodd Nigel Walker ei fod yn dechrau ar adeg gythryblus.

"Does dim dwywaith fod rygbi Cymru yn wynebu argyfwng dirfodol," meddai, gan ychwanegu bod hygrededd yr undeb "mor isel ag erioed".

Mae Ron Jones yn cytuno, gan rybuddio y gall yr helynt achosi niwed i ddelwedd Cymru yn rhyngwladol: "Mae'n rhaid i ni dderbyn bod chwaraeon yn un o'r meysydd 'na ar draws y byd le mae Cymru ag enw, ac mae'n rhaid i'r enw 'na fod yn enw pwerus - ond yn fwy pwysig mae'n rhaid iddo fod yn enw da."