Nodi canmlwyddiant y BBC yng Nghymru gyda darn cerddorol arloesol

  • Cyhoeddwyd
John ReaFfynhonnell y llun, John Rea
Disgrifiad o’r llun,

John Rea yw cyfansoddwr y darn

Mae'r cyfansoddwr John Rea wedi creu darn cerddorol arbennig i nodi 100 mlynedd ers y darllediad radio Cymraeg cyntaf, ar Chwefror 13 1923.

Ar y diwrnod hwnnw fe ddarlledodd y BBC am y tro cyntaf yng Nghymru o orsaf "5WA" yng Nghaerdydd, oedd wedi ei leoli yn 19 Stryd y Castell, ger Stryd Womanby.

Cafodd cyfansoddiad arbennig John Rea, Amleddau, ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru, ac mae'n cyfuno darnau archif o hanes darlledu yng Nghymru gyda cherddoriaeth wreiddiol.

Mi gafodd Cymru Fyw gyfle am sgwrs gyda'r cerddor i glywed am ei hanes a'r hyn oedd wedi ei ysbrydoli wrth gyfansoddi.

Cymro Caerdydd gyda gwreiddiau yn yr Eidal

Mae John yn falch iawn o'r ffaith ei fod yn Gymro o'r brifddinas. Er hynny, daw ei rieni o ardal Ffestiniog, ac mae ganddo wreiddiau yn yr Eidal hefyd.

Eglura: "Oedd fy nhaid yn Eidalwr o'r Cymoedd ond 'naeth e symud i Ffestiniog. John Meirion Rea yw fy enw, ac mae Rea yn gyfenw Eidalaidd. Roedd yn dod o Arpino, sydd rhwng Rhufain a Naples. Ond yn bersonol, 'dw i'n Gymro Cymraeg dinesig neu drefol."

Mae'r cymysgedd yma yn ei wreiddiau i'w weld yn ei ddiddordebau cerddorol hefyd. Er mai addysg glasurol dderbyniodd i ddechrau, mae cerddoriaeth boblogaidd yn bwysig iddo.

Disgrifiad o’r llun,

John yn ymarfer yn Neuadd Hoddinott, sydd wedi ei enwi ar ôl ei gyn athro coleg

"Nes i astudio hefo Alun Hoddinott yng Nghaerdydd... ond o'n i'n chwarae mewn bands hefyd. 'Nes i ddiweddu fyny yn mynd i Lundain a gweithio fel cerddor sesiwn i gwmni Dave Stewart o'r Eurythmics. Nes i ddechrau gwneud trefniannau llinynnol ar gyfer bands.

"Ond o'n i'n gweld bod yr un peth yn bwydo'r llall. Nawr rydyn ni'n byw mewn byd lle mae'r ddau beth ynghlwm ac mae'r dylanwadau yn croesi boundaries cerddorol gwahanol"

Adlais yr hen leisiau

Mae hanes Cymru a Chymreictod o ddiddordeb i John, ac mae'n ymfalchïo yn y ffaith bod y prosiect hwn yn ymwneud â'r pynciau hynny.

"Mae Caerdydd yn bwysig yn hanes Cymreictod ac yn hanes darlledu," meddai.

"Mae 'na linyn yn mynd yn ôl o'r Sgwâr Canolog heddiw yn ôl i Mostyn Thomas yn canu Dafydd y Garreg Wen yn 1923. Digwyddodd hwnna gyferbyn â'r castell ar gornel Womanby Street, yn adeilad sinema cyntaf y ddinas."

Cafodd gyfle i wneud gwaith ymchwil i mewn i leoliadau eraill sydd yn bwysig i hanes darlledu yng Nghymru hefyd, fel adeilad Marconi yn Arfon a safle mast Blaenplwyf, lle roedd protest enwog gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn 1977.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gugliermo Marconi yn ffigwr pwysig yn hanes darlledu, ac mae'r adeilad yng Nghefn Du ger Ceunant yn dal i'w weld heddiw

"Mi wnaethon ni ffeindio adeilad gwreiddiol Marconi. Y person wnaeth ariannu Marconi wnaeth ddyfeisio radio fel cyfrwng, sef Cymro o'r enw William Preece. Roedd o'n brif beiriannydd yn y Swyddfa Bost, oedd yn gyfrifol am radio a telecommunications yn y dyddiau cynnar.

"Wnaeth Marconi sefydlu trosglwyddydd yng Nghefn Du ger Caernarfon, ac mae'r adeilad yn dal yna.

"Gaethon ni'r siawns i fynd i mewn i [mast] Blaenplwyf hefyd, ac mae'n bosib gweld lle 'naethon nhw ail fricio ar ôl i Gymdeithas yr Iaith dorri i mewn drwy gymryd y brics gwreiddiol. Mae pwysigrwydd darlledu yng Nghymru wrth wraidd y syniad i gyd felly."

Mae'r elfennau hanesyddol yma'n adleisio darnau cerddorol blaenorol gan John, fel Atgyfodi, oedd yn defnyddio darnau o archif amgueddfa werin Sain Ffagan.

"Nes i ffeindio yn archif Sain Ffagan rywun yn siarad hen acen y Wenhwyseg. Be wnes i oedd cyfuno'r Wenhwyseg hefo llais o gyfweliad cyfoes, felly'n dangos sut oedd pobl yn siarad yn y dyddiau a fu cyn y chwyldro diwydiannol, a sut mae pobl yn siarad heddiw, felly mi wnes i greu llinell hanesyddol drwy gyfuno'r ddau beth. Mewn ffordd, dweud rhywbeth newydd yn defnyddio'r hen leisiau."

Disgrifiad o’r llun,

John gyda Dame Evelyn Glennie, a weithiodd gydag o ar brosiect cerddorol yn defnyddio cloch Cwm Elan

Dylanwad R.S. Thomas a thu hwnt

Wrth geisio meddwl am deitl i'r darn, daeth casgliad gan fardd nodedig i feddwl John.

"Mae 'na gasgliad o gerddi gan R.S. Thomas o'r enw Frequencies. Naeth hyna bopio mewn i fy meddwl i. Beth ydy ystyr frequencies yn y casgliad yna ydi frequencies of faith iddo fe. Nawr, dydi'r darn yma ddim yn grefyddol, ond wnes i gymryd y syniad yna o amleddau o berthyn i Gymreictod, neu the frequencies of belonging," eglura

Mae'n amlwg bod John yn rhoi llawer o feddwl i'r cysyniadau y tu ôl i'w ddarnau, ac yn ogystal â dylanwadau hanesyddol a llenyddol, mae dylanwadau cerddoriaeth yr oes a fu i'w weld yn ei waith hefyd.

"Yn y 20au mi'r oedd 'na arddull o ffilm gyda cherddoriaeth sy'n cael ei alw yn City Symphonies. Be oedd rhain, fel y Berlin neu'r Manhattan, oedd rhyw fath o ddogfen sy'n ddathliad o le, heb ddefnyddio deialog. 'Nai gyd oedd y ffilm oedd delweddau eithaf abstract oedd yn cyfleu'r syniad o le hefo cerddoriaeth. Yn amlwg 'naeth hyna apelio i rywun fel fi.

"I ryw raddau, mae 'na elfen weledol i Amleddau er mai darn sain yw hwn yn y bôn. Maen nhw'n galw fe'n radio art, sef rhywbeth eithaf abstract sy'n cyfleu syniadau drwy sain, ond hefyd, mi fydd na fersiwn arall o'r darn yn defnyddio elfennau gweledol."

Disgrifiad,

Cymysgedd o gerddoriaeth a darnau o'r archif gan y cyfansoddwr John Rea

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig