Liz Saville Roberts: Angen 'croen caled' i ddelio gydag aflonyddu ar lein

  • Cyhoeddwyd
Liz Savile

Ers dod yn wleidydd yn 2015, mae Liz Saville Roberts yn derbyn mwy a mwy o negeseuon sarhaus a bygythiol ar y cyfryngau cymdeithasol, a dydi hi ddim yn gweld arwyddion bod pethau'n gwella.

Datgelodd yr aelod seneddol dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd ei bod pryderu'n fawr am bobl ifanc sydd yn mynd i mewn i fyd gwleidyddiaeth a'r effaith allai sylwadau o'r fath ei gael arnyn nhw.

Cafodd sgwrs gyda Cymru Fyw i drafod ei phrofiadau.

Adegau 'gwaeth na'i gilydd'

Ychydig dros flwyddyn wedi i Liz ddod yn aelod seneddol, cafodd y gwleidydd Jo Cox ei llofruddio gan unigolyn oedd yn arddel egwyddorion yr adain dde eithafol. Yn ystod y blynyddoedd wedyn, yn enwedig wrth i Brexit ddwyn y penawdau, mae wedi gweld twf yn y nifer o negeseuon bygythiol sydd yn cael eu hanfon.

"Mae 'na adegau lle'r oedd o'n waeth na'i gilydd. Mi oedd [trafodaethau] Brexit yn 2019 yn gyfnod eithafol."

O'r holl negeseuon y mae'n eu derbyn, mae'n sylwi bod y rhan fwyaf yn cael eu hanfon gan ddynion canol oed, a'r sylwadau'n rhai sy'n gwahaniaethu ar sail rhyw.

"Mae'r abuse dwi'n ei gael fwyaf gan ddynion dros 50 neu 60 oed. Mae 'na phenomenon o ddynion yr oed yna yn ein gweld ni [wleidyddion benywaidd] fel rhai sydd angen cael ein rhoi yn ein lle."

Mae hefyd yn pryderu y gallai bechgyn ieuengach gael eu dylwanwadu gan y ffenomen hon.

'Mynd y tu hwnt i'r unigolyn'

Yn 2020, cafodd David Lowe ei garcharu am anfon e-bost bygythiol at Liz. Defnyddiodd gyfrif ffug i ysgrifennu neges oedd yn cyfeirio at yr asgell dde eithafol, a chrybwyll Jo Cox a'i llofruddiaeth.

Nid yn unig oedd hi'n poeni am ei diogelwch ei hun yn sgil y digwyddiad hwn, roedd hi hefyd yn pryderu am ei theulu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz yn rhannu ei hamser rhwng ei hetholaeth a San Steffan

"Mae o'n mynd tu hwnt i jest yr unigolyn... o'n i hefyd yn poeni am fy nheulu fi adra. 'Dwi'n treulio hanner fy amser yn San Steffan... ac mae 'na deimlad yna eich bod chi'n gadael pobl eraill sydd ddim wedi seinio i fyny i hyn yn broffesiynol [mewn peryg].

"A'r staff yn ein swyddfa ni hefyd... 'da ni'n cloi'r drws. 'Da ni'n trio peidio gadael neb ar eu pen eu hunain."

Ffigyrau amlwg

Yn ôl Liz, mae ambell unigolyn adnabyddus yn derbyn mwy o sylwadau na'i gilydd.

Wrth gyfeirio at ymddiswyddiad diweddar Nicola Sturgeon fel Prif Weinidog yr Alban, dywedodd, "Mi'r oedd y ffordd yr oedd hi'n geirio [ei datganiad] yn wahanol iawn i sut mae'r dynion yn siarad am pan maen nhw'n sefyll i lawr. Hi a Jacinda Ardern."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Diane Abbott wedi derbyn nifer o sylwadau sarhaus ar hyd o blynyddoedd

Mae'r aelod seneddol Llafur Diane Abbott wedi siarad yn gyhoeddus am y modd y mae hi wedi cael ei thargedu ar hyd y blynyddoedd, ac mae un astudiaeth gan Amnesty a gyhoeddwyd yn 2017 yn dangos ei bod wedi derbyn mwy o gamdriniaeth nac unrhyw aelod seneddol benywaidd arall yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol y flwyddyn honno.

"Mae Diane Abbott yn cael mwy o aflonyddu ac abuse ar lein na'r gweddill ohona ni efo'n gilydd. Hynny yn gyfuniad o'i hoedran hi, ei hil hi a'i safbwyntiau hi. Dw i'n cofio cael sgwrs hefo hi, ac mi oedd hi'n dweud 'tasai hi'n mynd at yr heddlu bob tro mae hi'n cael bygythiad i'w lladd, fasa' hi ddim yn gwneud dim ond victim statements."

Gormod i'w rhestru

Teimla Liz hefyd nad oes modd iddi hi gyfeirio at bob sylw yn unigol gan eu bod yn rhy niferus.

"Dydi rhywun ddim isio bod yn crying wolf ar un llaw. Felly mae angen trio ffeindio balans yn fan 'na."

Er mwyn delio, mae wedi gorfod dysgu i anwybyddu, ac i atal unigolion sarhaus rhag cysylltu â hi.

"Dros y blynyddoedd... mae rhywun yn tueddu i fagu croen caled. Mae 'na rai dwi jest ddim yn engagio hefo nhw os ydyn nhw'n bersonol sarhaus. Mae gen i rywun yn edrych ar y cyfryngau cymdeithasol i mi ac mi wneith o flocio rhywun cyn fi yn aml iawn."

Fodd bynnag, mae'n poeni nad yw pawb yn gallu delio â'r broblem yn yr un modd.

"Dwi'n ffodus. Dwi yn fy mhumdegau hwyr, dwi'n weddol sefydlog ac yn weddol hyderus. Dwi'n meddwl am fenywod iau yn dod i mewn, lle mae rhywun yn teimlo'n llawer llai hyderus ac yn dechrau defnyddio Twitter 'fatha llwyfan i roi eich barn allan yna, dwi'n ofni bod o'n cael mwy o ddylanwad ar fwy o fenywod ac'u bod nhw'n gofyn pam fasa ti'n rhoi dy hun i mewn i ffau'r llewod?

"Da ni'n hynod awyddus i gael mwy o ferched a dynion o hil ethnig wahanol i roi eu hunain ymlaen fel ymgeiswyr. Sut ydych chi'n sicrhau eich bod chi'n cefnogi nhw'n ddigonol? Dim jest mater o ddewis nhw a rhoi nhw allan yna i wynebu'r tywydd. Mae nhw angen rhyw fath o amddiffyniad."

Platfformau angen bod yn 'atebol'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Mesur Diogelwch Ar-Lein, sydd wedi ei gynnig fel drafft ers 2021, yn edrych ar yr hyn sydd angen ei newid mewn deddfwriaeth i ymdrin ag ymddygiad digidol pobl.

Mae bodolaeth y mesur i'w annog, yn ôl Liz, ond creda bod angen gwneud mwy,

"Mae'r mesur diogelwch yn well na dim. Os ydy'r platfformau yn elwa o alluogi algorithms sy'n hybu casineb, yna mae'n rhaid dal nhw i gyfri'.

"Y trafferth ydi bod ein deddfwriaeth ni sydd yn ymwneud efo cyhoeddi yn perthyn i Oes Fictoria. Ar hyn o bryd mae unigolyn yn gorfod profi eu bod nhw wedi dioddef niwed... Hyd yn oed os ydych chi'n annog ymosodiad ar grŵp o bobl, tydi'r grŵp yna ddim yn gallu cwyno."

Risg i ddemocratiaeth

Creda bod y sefyllfa yn risg gwirioneddol i'r system ddemocrataidd yr ydym ni'n byw gyda hi.

"Os ydyn ni isio byw mewn cymdeithas wâr, mae 'na ffrwyno [angen bod ar] yr hyn 'da chi'n gallu ei ddweud.

"Allwn ni wneud hyn yng Nghymru heb aros am San Steffan mewn gwirionedd... Dwi wirioneddol yn meddwl ddylai Cymru fod yn ystyried edrych ar gwriwcwlwm y Ffindir [lle mae] unigolyn yn cael ei arfogi i adnabod misinformation ac i adnabod fraud.

"Mae'n risg i'n democratiaeth ni. Mae 'na ddiwydiant o ddylanwadu ac amcangyfrif ymddygiad pobl, ac yn nghyd-destun democratiaeth, waw, mae hynna'n beryg 'de.

"Mae democratiaeth dan fygythiad o'r newydd, a 'da ni angen gweld beth ydyn ni mewn perygl o'i golli."

Hefyd o ddiddordeb: