Chwe Gwlad: Y sylw'n ôl ar y cae wrth i Gymru herio Lloegr
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd yn croesawu degau o filoedd o gefnogwyr rygbi ar gyfer un o gemau fwyaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a hynny ar ddiwedd un o'r wythnosau mwyaf cythryblus yn hanes y gêm yng Nghymru.
Daeth cadarnhad nos Fercher bod y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn mynd yn ei blaen ar ôl cyfaddawd rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r chwaraewyr.
Roedd y chwaraewyr wedi bygwth streicio a gwrthod chwarae oherwydd ffrae ynglŷn â'u hamodau.
Bydd trafodaethau ynglŷn â chytundebau'r chwaraewyr yn cychwyn yr wythnos nesaf.
Cyn hynny bydd Cymru'n wynebu'r hen elyn yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae Cymru wedi colli'u dwy gêm gyntaf yn y bencampwriaeth - 34-10 yn erbyn Iwerddon a 35-7 yn erbyn Yr Alban.
Dim ond 72 awr cyn y gêm daeth cadarnhad bod yna gyfaddawd.

Mae Warren Gatland wedi cwestiynu cais Lloegr i gadw to Stadiwm Principality ar agor ddydd Sadwrn
"Mae hi wedi bod yn heriol," meddai prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.
Roedd Cymru eisiau cau to'r stadiwm ar gyfer y gêm, ond roedd Lloegr am iddo aros ar agor.
Yn ôl rheolau'r bencampwriaeth mae'n rhaid i'r ddau dîm gytuno ynglŷn â'i gau.
"Dydw i ddim yn meddwl bod y to'n mynd i wneud llawer o wahaniaeth," meddai Gatland, "ond mae hi'n amlwg eu bod nhw."
Roedd amcangyfrif y gallai peidio chwarae'r gêm gostio tua £12m i Undeb Rygbi Cymru, gan olygu mwy fyth o drafferthion i sefydliad sydd eisoes wedi bod dan bwysau'n ddiweddar.
Mae'r gêm yn cyfrannu'n sylweddol i economi'r brifddinas hefyd, gyda thafarndai a gwestai'n dibynnu ar y gêm er mwyn gwneud arian.

Mae'r ffaith bod y gêm yn mynd yn ei blaen yn newyddion da i berchnogion tafarndai a chlybiau lleol fel Rob Toogood
"Mae'r rhyddhad yn anferth," medd Rob Toogood, perchennog clwb roc Fuel sydd gyferbyn â Chlwb Ifor Bach ar Heol Womanby.
"Mae gemau'r Chwe Gwlad mor bwysig i'r busnes - gyda gemau'r hydref, maen nhw'n ein cynnal ni weddill y flwyddyn."
Byddai canslo'r gêm wedi arwain at golledion fyddai gyfystyr â gwerth wythnos o fusnes.
"Galla i ddim hyd yn oed meddwl am hynna," meddai.
'Edrych ymlaen'
Mae disgwyl dros 70,000 o bobl yn y stadiwm ar gyfer y gêm, gyda miloedd yn rhagor yn gwylio'r ornest mewn tafarndai.
Mae Ceri Parry o bentref Dinas ger Caernarfon yn teithio i'r brifddinas gyda'i mab Caio.
"Mae'n rhaid i ni gael lle i aros a fyddan ni ddim yn cael ein harian yn ôl tasan ni'n canslo," meddai Ceri wrth sôn am y trafferthion posib pe bai'r gêm wedi'i gohirio.
"Oherwydd y pandemig mae 'na bedair blynedd wedi bod ers i ni weld Cymru a Lloegr yn chwarae, felly rydan ni wir yn edrych ymlaen."

Mae Caio a Ceri yn falch o'r cyfle i weld Cymru yn erbyn Lloegr am y tro cyntaf ers cyn y pandemig
"Dwi wrth fy modd yn mynd i lawr i Gaerdydd i wylio Cymru'n chwarae'n rygbi ers o'n i'n fach," meddai Caio.
"Mae'r ffrae yma wedi cael effaith arnyn nhw a dwi'n meddwl y bydd hyn yn mynd i gael effaith ar y ffordd y maen nhw'n chwarae.
"Ond dwi jest yn hapus eu bod nhw wedi cytuno i chwarae."
Ar y cae, mae'r prif hyfforddwr wedi gwneud naw newid ers y golled yn erbyn Yr Alban bythefnos yn ôl, gyda Mason Grady yn dechrau dros Gymru am y tro cyntaf.

Bydd y canolwr Mason Grady yn ennill ei gap cyntaf i Gymru yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn
Mae cwmni trenau Great Western Railway (GWR) yn darparu rhagor o drenau er mwyn cludo cefnogwyr i Gaerdydd ac adref wedyn.
Mae GWR wedi trefnu 52 o drenau ychwanegol i orsaf Caerdydd Canolog cyn y gêm, gyda 25 o drenau ychwanegol yn gadael y brifddinas wedi'r chwiban olaf.
Fe fydd gwasanaeth bws wennol hefyd ar gael i gludo teithwyr rhwng Casnewydd a Chaerdydd ac yn ôl.
Er mwyn cludo mwy o deithwyr fe fydd trenau Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio pob trên sbâr, yn ogystal â bysus o gyfeiriad y gorllewin.
"Bydd ein gwasanaethau yn brysur iawn ac mae'n tîm yn barod i symud tua 30,000 o bobl drwy'r orsaf ar gyfer y gêm," meddai Jan Chaudry-Van dêr Velde, prif swyddog gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru.

Roedd Katherine Jenkins yn canu anthem Cwpan Rygbi'r Byd, World in Union, cyn y gic gyntaf
Bu cyfnod o dawelwch cyn yr anthemau i gofio am gyn-chwaraewr Cymru, Tony 'Charlie' Faulkner, ac i nodi blwyddyn ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin.
Roedd Katherine Jenkins hefyd yn canu anthem Cwpan Rygbi'r Byd, World in Union, cyn y gic gyntaf.
Mae hi'n 20 mlynedd ers i'r gantores glasurol o Gastell-nedd ganu yn y stadiwm cyn gêm rygbi.
Bydd Côr Meibion Pendyrus hefyd yn canu gydag aelodau o Gôr Meibion Guernsey.

Tîm Cymru: Halfpenny; Adams, Grady, Hawkins, Rees-Zammit; O Williams, T Williams; G Thomas, Owens (capten), Francis, Beard, AW Jones, Tshiunza, Tipuric, Faletau.
Eilyddion: Roberts, Carre, Lewis, Jenkins, Reffell, Hardy, Biggar, Tompkins.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2023