Oedi trafod pentref gwyliau wedi 'ansicrwydd cyfreithiol'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi pleidleisio i ohirio trafodaeth ar ddatblygiad gwyliau ym Môn.
Daeth penderfyniad pwyllgor cynllunio'r cyngor er gwaethaf argymhelliad swyddogion i ganiatáu elfennau o'r cais dadleuol, sydd wedi rhygnu ymlaen ers dros ddegawd.
Yn 2016 sicrhaodd cwmni Land and Lakes ganiatâd i godi 500 o fythynnod gwyliau ar ran o safle Penrhos ger Caergybi.
Roedd y cais wedi ennill caniatâd amlinellol yn 2013 yn dilyn cyfarfod tanbaid o bwyllgor cynllunio'r cyngor, gydag ymgyrchwyr o blaid ac yn erbyn.
Mae'r cynlluniau, yn eu cyfanrwydd, yn cynnwys codi 1,100 o fythynnod a thai aros ar draws tri safle ar gyrion y dref.
Llythyr twrneiod
Ond saith mlynedd ers sicrhau caniatâd cynllunio mae rhai elfennau o'r cais yn parhau i fod angen eu cymeradwyo cyn y gall unrhyw ddatblygiad o bwys ddechrau yno.
Brynhawn Mercher, yn dilyn oedi o dri mis, roedd disgwyl i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Môn gymeradwyo rhai o'r elfennau, dolen allanol hynny.
Ond yn hytrach, pleidleisiodd cynghorwyr o blaid oedi am fis arall, gyda rhai yn dweud fod "ansicrwydd" yn parhau ynglŷn â'r sefyllfa gyfreithiol.
Fis Ionawr roedd disgwyl i gynghorwyr wneud penderfyniad ar dri chais i ryddhau 'amodau' fel rhan o'r cytundeb 106 - sef amodau sy'n cael eu cyd-drafod rhwng datblygwyr a'r cyngor sir.
Roedd y ceisiadau'n ymwneud â chyflwyno Cynllun Grŵp Cyswllt Cymunedol a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus, yn ogystal â gofyn i'r datblygwyr gyfrannu at yr ardal leol, gan gynnwys ystyriaeth o'r iaith Gymraeg.
Ond yn ôl twrneiod ar ran y grŵp Achub Parc Arfordirol Penrhos Caergybi, roedd y datblygwr wedi "methu â chyflawni rhai o ofynion y caniatâd" ac heb gychwyn y gwaith angenrheidiol.
Gan honni, o ganlyniad, nad ydy caniatâd 2016 bellach yn gyfredol, dywedon nhw mewn llythyr at yr awdurdod y dylai'r cwmni orfod cyflwyno cais o'r newydd.
Ar gais swyddogion y cyngor fe ohiriwyd penderfyniad ar y tri chais er mwyn cael cyngor cyfreithiol.
Yn ystod cyfarfod brynhawn Mercher, barn swyddogion cynllunio oedd fod y caniatâd gwreiddiol yn ddilys ac y dylid ystyried y ceisiadau, gydag argymhelliad i ganiatáu'r cyfan.
Wedi derbyn cyngor cyfreithiol eu hunain, dywedodd swyddogion bod rhywfaint o waith wedi'i wneud, a'r cyngor oedd ei fod yn ddigon i fodloni'r terfyn amser hwnnw o bum mlynedd.
Ond yn ystod y cyfarfod dywedodd un o gynghorwyr Caergybi, Jeff Evans, na fyddai'n cymryd rhan yn y drafodaeth nac yn pleidleisio gan nad oedd yn credu fod y ddadl gyfreithiol wedi ei hateb yn llawn.
Gan ddadlau fod "ansicrwydd cyfreithiol" yn parhau i fod, cefnogwyd ei gynnig i ohirio unrhyw drafodaeth am fis arall gan fwyafrif o aelodau'r pwyllgor.
Roedd hyn er gwaethaf sylwadau cyfreithiwr y cyngor nad oes disgwyl i oedi pellach ddod â dwy ochr y ddadl ynghyd.
Fe gyhoeddwyd, o ganlyniad, bydd "sesiwn friffio" i gynghorwyr yn cael ei gynnal yn ystod y mis.
Teimladau cryfion
Mae'r cais i godi unedau gwyliau yn rhygnu ymlaen ers 2012, ond yn ôl cwmni Land and Lakes byddai'r datblygiad gorffenedig yn denu bron i 500 o swyddi i'r ardal.
Ond hyd yn oed os caniateir y ceisiadau diweddaraf, bydd yn rhaid cymeradwyo ceisiadau pellach - yn cynnwys manylion y cabannau a'r ffyrdd, yn ogystal ag asesiadau ecolegol ac amgylcheddol - cyn gallu dechrau'r gwaith adeiladu.
Mae'r safle yn ymestyn dros 200 acer, ond dywedodd y cwmni y bydd 73 o aceri yn parhau i fod ar gael i'r cyhoedd fwynhau.
Maen nhw hefyd yn addo canolfan ymwelwyr newydd yn Nhŷ Beddmanarch, gyda 38 hectar o dir agored cyhoeddus newydd yn cael ei greu yng Ngwarchodfa Natur Cae Glas, ynghyd â chanolfan ymwelwyr a maes parcio newydd i liniaru yn erbyn colli man agored cyhoeddus ym Mhenrhos.
Mae ymgyrchwyr yn mynnu na ddylai unrhyw waith fwrw 'mlaen ym Mhenrhos gan ei fod yn lle poblogaidd i bobl ymweld, ac yn gartref i nifer o rywogaethau gan gynnwys y wiwer goch.
Yn siarad y llynedd dywedodd Vaughan Williams, cynghorydd tref yng Nghaergybi, na ddylai swyddi gael eu blaenoriaethu ar draul ardal o'r fath.
Ychwanegodd: "Mae'r lle mor bwysig i ni yng Nghaergybi am sawl rheswm.
"'Sa'r syniad o ddymchwel y lle yn wrthyn i mi. Mae pawb o blaid swyddi ond nid cael gwared ar le fel hyn ydy'r ateb chwaith."
Ychwanegodd Glyn Jones, sy'n byw yn lleol: "Fyddwn i'n arfer dod yma'n rheolaidd gyda fy niweddar wraig, a fydda i'n dal i ddod yma yn rheolaidd ac eistedd yma i gael heddwch meddwl.
"Mae'n lle mor braf, os 'dach chi ar ben eich hun neu mewn giang, mae'n le mor hyfryd, ac i'r cwbl gael ei chwalu o bosib!"
'Wedi'i ddatrys o fewn wythnosau'
Mewn datganiad dywedodd cwmni Land and Lakes fod "dechrau effeithiol i'r datblygiad wedi cymryd lle yn 2021, sy'n golygu bod y caniatâd cynllunio ar gyfer y safle bellach yn ei le am byth".
Ychwanegodd llefarydd: "Dyma farn ein tîm cyfreithiol o hyd, ac mae'n gyson â'r cyngor y mae Cyngor Môn wedi'i dderbyn gan ei gynghorwyr cyfreithiol ei hun.
"Rydym yn hyderus y bydd y gohiriad presennol o faterion gweithredol, nad ydynt yn gysylltiedig, yn cael ei ddatrys o fewn nifer o wythnosau.
"O ran Penrhos yn benodol, cynaladwyedd yr ystâd fu ein blaenoriaeth erioed. Mae Land & Lakes yn ariannu'r gwaith o reoli, yswiriant a chynnal a chadw Stad Penrhos, sy'n costio tua £200,000 y flwyddyn.
"Mae hyn yn cynnwys cynnal mynediad cyhoeddus i goetiroedd yr ystâd, llwybrau, toiledau, dolydd, a chynefinoedd naturiol, a reolir gan ein tîm wardeniaid ar y safle."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd1 Medi 2022