Cylchffordd Cymru: Dim llawer o obaith o gael £7m yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn annhebygol iawn o gael y £7.35m a wariodd ar gynllun trac rasio aflwyddiannus yn ôl.
Dywedodd swyddogion mai prin yw'r gobaith o gael ad-daliad gan y cwmni tu ôl i brosiect Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy, Blaenau Gwent.
Daeth y cynllun i ben wedi i Lywodraeth Cymru wrthod cais i warantu bron i hanner ei gost, cyn dileu gwerth gwarant y benthyciad yn 2020.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae "wedi cymryd camau i sicrhau" yr arian.
Roedd sylwadau'r swyddogion yn ymateb i Gais Rhyddid Gwybodaeth, a gafodd eu cyhoeddi gan wefan Nation.Cymru.
Fe alwodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies ar weinidogion Llafur i gymryd camau cyfreithiol pellach i gael yr arian yn ôl.
Dywedodd adroddiad i'r Senedd yn 2018 bod swyddogion y llywodraeth wedi gwneud "penderfyniadau anesboniadwy" mewn cysylltiad â gwario arian cyhoeddus ar y cynllun.
Roedd cefnogwyr y prosiect, oedd yn werth £433m, wedi dweud y byddai wedi creu miloedd o swyddi.
Ond yn ôl y cyn-Weinidog yr Economi, Ken Skates, a benderfynodd i beidio â rhoi rhagor o gefnogaeth i'r prosiect, roedd nifer y swyddi posib wedi cael ei "or-chwyddo".
£9.3m oedd cyfanswm yr arian cyhoeddus a gafodd ei roi i'r prosiect.
Roedd £7.35m o hwnnw yn gwarantu benthyciad gan fanc Santander i gwmni Heads of the Valleys Development Company (HOVDC), a gafodd ei alw'n ôl fis Mai 2016.
Fis Gorffennaf 2020 fe wnaeth Mr Skates ddileu gwerth y benthyciad ynghyd â'r llog a'r ffioedd cysylltiedig - cyfanswm o £14.9m.
Dywedodd ar y pryd bod "dilead ffurfiol y ddyled yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru ddim yn nadu adennill unrhyw arian derbyniadwy".
Cytundeb methdalu gwirfoddol
Mae'r ymateb nawr i'r cais Rhyddid Gwybodaeth yn dweud mai "prin yw'r gobaith o adennill yr arian sy'n ddyledus i Lywodraeth Cymru", gan fod HOVDC wedi cytuno i gytundeb CVA (Company Voluntary Arrangement) yn 2018, a bod yr holl gwmnïau cysylltiedig yn fethdalwyr.
Proses yw CVA sy'n cael ei defnyddio gan gwmnïau sydd methu fforddio i ad-dalu dyledion i gredydwyr dros gyfnod penodol o amser.
Roedd Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, wedi cyflwyno rhybuddion i HOVDC "fel cam rhagofalus" i warchod ei hawliau i gymryd camau gorfodaeth.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru ac AS Ceidwadol Mynwy: "Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau cyfreithiol i'w gael yn ôl, nid jest colli'r arian i gyd.
"Y gwir broblem yw bod Llywodraeth Cymru ddim eisiau atgoffa pobl pa mor ddi-glem oedden nhw yn ystod y cyfnod yma."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Dan gytundeb y benthyciad, mae'n rhaid i HOVDC ad-dalu'r ddyled yn llawn i Lywodraeth Cymru.
"Rydym wedi cymryd camau i sicrhau hawliau Llywodraeth Cymru i adennill y buddsoddiad a wnaethpwyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2017