Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Eidal 10-36 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi darfod yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dilyn buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Yr Eidal yn Parma.
Dyma perfformiad gorau'r tîm yn y gystadleuaeth mewn 14 o flynyddoedd - y tro diwethaf iddyn nhw ennill tair gêm.
Roedd Cymru ond angen pwynt i sichrau'r trydydd safle tu ôl i Loegr a Ffrainc, ond fe wnaethon nhw lwyddo i fachu'r uchafswm posib ar ôl sgorio pum cais.
Mae Cymru o ganlyniad wedi codi i chweched safle detholion y byd - eu safle uchaf erioed.
Fe gafodd Cymru - ac amddiffyn Yr Eidal - ddechrau da ac fe sgoriodd Keira Bevan bwyntiau cyntaf y prynhawn gyda chic gosb.
Bethan Lewis wnaeth sgorio cais cyntaf y gêm, gan ganfod gofod prin o blith amddiffynwyr y tîm cartref, a gyda throsiad cyntaf Bevan roedd hi'n 0-10 wedi 23 munud o chwarae.
Fe darodd yr Eidalwyr yn ôl wedi ychydig funudau - pas campus gan Michela Sillari i'r wythwr Giado Franco oedd sbardun yr ymosodiad, ac er i Hannah Jones lorio Veronica Madia wrth iddi anelu am y llinell fe groesodd y maswr yn y gornel i sgorio.
Fe giciodd Sillari'n gywir i gau'r bwlch i 7-10 - ac eto ychydig funudau yn ddiweddarach i unioni'r sgôr wedi i Gymru ildio cic gosb.
Wedi cyfnod sigledig ac ambell i gamgymeriad wrth drin y bêl, fe diriodd y prop Sisilia Tuipulotu - ei phedwerydd cais yn y Chwe Gwlad eleni. Gyda throsiad Bevan, roedd Cymru 10-17 ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Deng munud i mewn i'r ail hanner roedd tîm Ioan Cunnigham wedi agor y fantais eto - i 10-24 - wedi ymosodiad a ddechreuodd gyda thafliad chwim o'r lein. Sioned Harries wnaeth groesi gyda throsiad cywir eto fyth gan Bevan.
Ar yr awr, daeth pedwerydd cais Cymru - gan seren y gêm, Alex Callender - i sicrhau'r fuddugoliaeth a phwynt bonws. Hi oedd wedi dechrau'r symudiad gan gyfnewid sawl pas gyda Carys Williams-Morris cyn tirio. Methodd Bevan â throsi y tro hwn.
Gyda 10 munud ar y cloc, fe ddaeth cais olaf y prynhawn - gan Kerin Lake. Roedd Elinor Snowsill yn rhan o'r ymosodiad a hi wnaeth trosi i wneud y sgôr terfynol yn 10-36.
Trwy godi yn nhabl detholion y byd, mae Cymru hefyd wedi sicrhau lle yn haen uchaf y gystadleuaeth ryngwladol newydd WXV ynghyd â Lloegr a Ffrainc.
Fe fyddan nhw'n chwarae yn erbyn tri thîm uchaf Cyfres y Pacific Four - sy'n cynnwys timau o Seland Newydd, Awstralia, Canada ac UDA - yn yr hydref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2023