Adam Price: Beth aeth o'i le?
- Cyhoeddwyd
"Rydyn ni'n barod i arwain eto. Mae ein hamser wedi dod."
Dyna oedd neges hyderus Adam Price ar ôl iddo ddod yn arweinydd ar Blaid Cymru ym mis Medi 2018, ar ôl trechu ei ragflaenydd Leanne Wood a'r aelod o Senedd Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth.
Doedd ei fuddugoliaeth ddim yn annisgwyl. Wedi'r cyfan, dyma ŵr gafodd ei ddisgrifio mewn pamffled ymgyrchu yn 2016 fel "y mab darogan".
Gyda'i bresenoldeb mawr a sgiliau areithio cryf roedd yna ddyfalu wedi bod ers blynyddoedd y byddai Mr Price yn cymryd yr awenau ryw ddydd.
Yn fab i löwr o Ddyffryn Aman, cafodd gwleidyddiaeth Adam Price ei siapio gan streic y glöwyr yng nghanol y 1980au.
Yn ddyn ifanc fe gymrodd gyffuriau, gan ddweud wrth raglen Question Time y BBC yn 2019: "Fel dyn hoyw oedd yn mynd i glybiau nos yn y 1990au byddai'n ychydig o syndod os nad oeddwn i wedi cymryd cyffuriau."
Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin am y tro cyntaf yn 2001 fel yr Aelod Seneddol dros etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Fe adawodd ei farc yn San Steffan drwy arwain ymgyrch aflwyddiannus i uchelgyhuddo'r prif weinidog ar y pryd, Tony Blair, dros honiadau yn y cyfnod arweiniodd at y rhyfel yn Irac.
Ildiodd ei sedd yn 2010 cyn mynd i astudio ym Mhrifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau.
Yn 2016 dychwelodd i'r byd gwleidyddol - i Fae Caerdydd y tro hwn, ond eto i gynrychioli bro ei febyd.
Dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei benodi'r arweinydd cyntaf ar blaid wleidyddol yng Nghymru oedd yn agored am fod yn hoyw, ar ôl disodli Leanne Wood.
Disgrifiodd y penderfyniad i herio un o'i "ffrindiau hynaf mewn gwleidyddiaeth" fel "y peth anoddaf" iddo orfod ei wneud yn ei fywyd gwleidyddol.
Byddai Ms Wood yn dweud wrth y BBC rai blynyddoedd yn ddiweddarach bod y penderfyniad wedi chwalu eu cyfeillgarwch.
Yn wahanol i'w ragflaenydd, gosododd Adam Price annibyniaeth wrth galon ei gynllun gwleidyddol, gydag addewid i gynnal refferendwm cyn 2030.
Ond yn yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr 2019 methodd ei blaid â chodi'i llais ynghanol y ffraeo ynghylch Brexit.
Er i Blaid Cymru ddal ei gafael ar ei phedair sedd yn San Steffan, aeth ei chyfran o'r bleidlais am i lawr a daeth y blaid yn drydydd yn ei phrif sedd darged, sef Ynys Môn.
Ymlaen felly at yr etholiad i Senedd Cymru yn 2021, ble byddai annibyniaeth yn flaenoriaeth i'r blaid.
Cyn y bleidlais, dywedodd Mr Price y byddai unrhyw beth llai na dod yn brif weinidog yn "fethiant", a gwrthododd y syniad o gydweithio â'r Ceidwadwyr ac o fod yn isbartner mewn clymblaid â Llafur.
Ond colli tir wnaeth y blaid wrth iddi fethu â chystadlu gyda'r ymateb ffafriol tuag at arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn sgil y pandemig.
Fisoedd yn ddiweddarach, gyda Mr Drakeford wedi methu o drwch blewyn i sicrhau mwyafrif yn y Senedd, fe ffurfiodd Adam Price gytundeb cydweithio gyda llywodraeth Lafur Cymru.
Byddai'r cytundeb yn galluogi i Blaid Cymru gyflwyno rhai o'i phrif bolisïau, gan gynnwys ehangu'r Senedd, ymestyn prydau ysgol am ddim, a gofal plant am ddim i blant dyflwydd oed.
A dyna pam felly y gallai Adam Price honni ar drothwy'r etholiadau lleol eleni, bod ei blaid yn "gwneud gwahaniaeth".
Dros y misoedd diwethaf mae'r sylw wedi troi at adroddiadau o ddiwylliant gwenwynig o fewn i'r blaid a chwestiynau dros ymateb yr arweinyddiaeth i'r honiadau.
Arweiniodd hynny at adroddiad gan Nerys Evans a ddywedodd fod y blaid wedi goddef "gormod o achosion o ymddygiad gwael".
Mynnodd Mr Price i ddechrau y byddai'n aros yn ei swydd, gan ddadlau y byddai rhoi'r gorau iddi yn "ymwrthod" â'i gyfrifoldeb.
Ond mae ymadawiad Adam Price yn golygu taw cyfrifoldeb ei olynydd fydd mynd i'r afael â'r materion hynny, a gosod llwybr i'r blaid tuag at yr etholiad nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd9 Mai 2023
- Cyhoeddwyd7 Mai 2023
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023