ASau 'wedi trafod disodli Adam Price fel arweinydd'

  • Cyhoeddwyd
Adam PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y sgyrsiau WhatsApp yn ymwneud ag ymateb Adam Price i honiadau o fwlio ac anweddustra o fewn y blaid

Fe wnaeth Aelodau o'r Senedd Plaid Cymru gynnal trafodaethau chwe mis yn ôl ynghylch disodli Adam Price fel arweinydd, yn ôl negeseuon testun sydd wedi cael eu rhannu â BBC Cymru.

Yn ôl negeseuon gan yr AS Luke Fletcher roedd cydweithwyr yn trafod a oedd Mr Price yn ffit i arwain y blaid yn sgil methiant i ddelio â honiadau o fwlio ac anweddustra.

Mae adolygiad wedi dod i'r casgliad bod yna ddiwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn y blaid.

Dywedodd Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd eu bod yn rhannu pryderon y blaid am ganfyddiadau'r adroddiad, ond ni wnaethon nhw ateb cwestiynau a oedd y blaid yn ehangach yn parhau i gefnogi Mr Price.

Mae Mr Price wedi gwrthod camu i lawr yn sgil yr adolygiad, gafodd ei arwain gan Nerys Evans, gan ddweud y byddai'n "ymwrthod" â'i gyfrifoldeb petai'n ymddiswyddo.

Ymddiheurodd i bawb sydd wedi profi neu fod yn dyst i ymddygiad annerbyniol, gan ddweud bod y blaid yn gynnyrch y gymdeithas y mae'n ceisio ei newid.

Mae'r negeseuon WhatsApp rhwng Mr Fletcher, AS yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, a chyn-uwch aelod o staff yn ymwneud â thrafodaethau fis Tachwedd y llynedd ynghylch cynllun i ddisodli Mr Price.

Maen nhw'n awgrymu fod Mr Price wedi colli hyder sawl unigolyn, a oedd yn awyddus i AS Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, fod yn arweinydd.

Disgrifiad o’r llun,

Negeseuon rhwng yr AS Luke Fletcher a chyn-aelod o staff y blaid sydd wedi dod i sylw BBC Cymru

Yn un o'r negeseuon, dywedodd Mr Fletcher ei fod wedi "siarad gyda Rhun" a "dweud wrtho y byddwn i'n ei gefnogi".

Aeth ymlaen i ddweud bod cyfarfod ynghylch yr arweinyddiaeth wedi cael ei gynnal ymhlith nifer o Aelodau o'r Senedd Plaid Cymru ar 15 Tachwedd.

Roedd hynny tua wythnos ar ôl i'r AS Canol De Cymru, Rhys ab Owen, gael ei wahardd o grŵp y blaid yn y Senedd.

Mae Mr ab Owen o dan ymchwiliad gan gorff gwarchod safonau'r Senedd yn sgil honiad ei fod wedi torri'r cod ymddygiad.

'Pethau sydd eto i ddod mas'

Dywedodd Mr Fletcher bod yna amharodrwydd, yn ystod y cyfarfod, "i wasgu'r botwm… ond rwy'n meddwl bod modd perswadio pobl", gan ychwanegu fod "pethau sydd eto i ddod mas".

Mewn ymateb i negeseuon pellach, dywedodd wedyn ei fod "wedi cael llond bol o bawb yn esgus fod popeth yn iawn", gan ddweud fod Plaid Cymru "yn ddiffiniad o ragrith".

Fe wnaeth Mr ap Iorwerth dderbyn bod angen "newidiadau mawr" mewn negeseuon i'r aelod staff tua'r adeg honno.

Aeth ymlaen i ddweud: "Mae'n glir i mi ein bod wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol i'r Blaid."

Mewn sgwrs ddiweddarach, mae Mr Fletcher hefyd yn cyfeirio at yr AS yn rhanbarth Gogledd Cymru, Llyr Gruffydd, gan awgrymu nad oedd yntau'n "meddwl bod yna ffordd yn ôl i Adam".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn datganiad dyweodd Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd: "Mae aelodau grŵp Plaid Cymru wedi sefydlu dulliau cyfrinachol fel y gall staff godi unrhyw bryderon ynghylch y diwylliant o fewn y blaid.

"Mae grŵp Plaid Cymru y Senedd yn rhannu gofid y blaid ehangach o ddarllen casgliadau adroddiad Nerys Evans ac yn ategu'r galwadau i weithredu'r argymhellion ar gyflymder."

Mae cais wedi cael ei roi i Mr Fletcher, Mr ap Iorwerth a Mr Gruffydd am sylw.

'Mater i Blaid Cymru' medd Llafur

Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad fe wnaeth cyn-weinidog Llafur alw am ddod â chytundeb cydweithredu Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru i ben.

Dywedodd Ken Skates, sy'n gyn-weinidog yr economi, nad oedd eisiau delio "â bwlis, casawyr gwragedd neu unrhyw un sy'n gwahaniaethu yn erbyn eraill".

Mae Plaid Cymru mewn cytundeb cydweithredu gyda'r llywodraeth sy'n golygu eu bod nhw'n gweithio gyda gweinidogion Llafur ar rai polisïau, gan gynnwys gofal plant a phrydau ysgol am ddim.

Pan ofynnwyd i Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James a oedd hi'n cytuno gyda sylwadau Mr Skates, dywedodd ei fod yn "fater i Blaid Cymru" ond y dylen nhw ystyried yr adroddiad "yn ofalus".

"Fe fyddan nhw eisiau edrych yn ofalus ar yr adroddiad, a rhoi trefn ar eu hunain," meddai ar raglen BBC Politics Wales.

"Y drafferth gyda system Cymru, wrth gwrs, yw bod rhaid i ni weithio gyda rhywun, ac mae cytundebau gweithredu ar draws pleidiau yng Nghymru yn rhywbeth sydd wedi dod â sefydlogrwydd a chefnogaeth gan lawer o bobl."