Llyr Gruffydd: 'Dylen ni gyd fod wedi gwneud mwy'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd dros dro Plaid Cymru wedi dweud y dylai ef ac eraill fod wedi ymateb yn wahanol i bryderon a godwyd am ddiwylliant o misogynystiaeth, aflonyddu a bwlio o fewn y blaid.
Fe awgrymodd Llyr Gruffydd ei fod wedi clywed honiadau ond "nid mewn ffordd lle'r oeddwn yn teimlo bod gwerth eu dilyn gyda'r egni a sensitifrwydd... efallai dylen fod wedi."
Ychwanegodd: "Gallen ni gyd fod wedi, a dylen ni gyd fod wedi gwneud mwy, a dyna pam mae'n brifo."
Cafodd Llyr Gruffydd ei gadarnhau fel arweinydd dros dro Plaid Cymru mewn cyfarfod o gyngor cenedlaethol y blaid dydd Sadwrn.
Fe fydd yn cymryd yr awenau'n swyddogol ar ddydd Mercher wedi i Adam Price ymddiswyddo yn dilyn adroddiad a ddaeth i'r casgliad bod diwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth," yn y blaid.
"Mae hyn yn gyfrifoldeb ar bawb"
Pan ofynnwyd wrth Mr Gruffydd ar raglen BBC Politics Wales a oedd yn ymwybodol o'r diwylliant a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad, dywedodd: "Wel, rydym i gyd mewn sioc dwi'n credu, yn dilyn yr adroddiad.
"Mae yna sibrydion, ac mae hynny'n wir o bob gweithle - mae hynny'n wir o'r gymdeithas ehangach."
Cafodd Mr Gruffydd hefyd ei holi a oedd wedi clywed unrhyw gyhuddiadau penodol.
Atebodd: "Na, ddim mewn ffordd lle roeddwn yn teimlo bod gwerth eu dilyn gydag egni a sensitifrwydd, efallai, mae rhai ohonom yn adlewyrchu, dylen fod wedi."
Roedd yn feirniadol o'r system cwynion, gan ddweud bod disgwyl i ddioddefwyr orfod gwneud cwyn cyn i gamau cael eu cymryd.
"I bob pwrpas, rydych yn dweud wrth y dioddefwr, 'wel, gwna cwyn.'
"Nawr, nid hynny yw'r diwylliant, nid hynny yw'r amgylchedd cefnogol y dylwn fod yn ei greu er mwyn helpu pobl ddod ymlaen pan fo'r problemau yma'n codi.
Ychwanegodd: "Mae hyn yn gyfrifoldeb ar bawb.
"Gallen ni gyd fod wedi, a dylen ni gyd fod wedi, gwneud mwy, a dyna pam mae'n brifo."
Yn dilyn ei gadarnhad fel arweinydd dros dro Plaid, fe wnaeth Mr Gruffydd ailddatgan fod ef a Phlaid wedi "ymrwymo" i'r cytundeb cydweithio efo Llafur Cymru.
Dywedodd Mr Gruffydd y byddai'r ymrwymiad yn parhau, pwy bynnag fydd yn cael eu dewis fel arweinydd newydd barhaol y blaid.
"Dydw i ddim yn gwybod am unrhyw un o fewn Plaid Cymru sydd efo'r awydd i'w ailfeddwl neu i ddod mewn a newid pethau," dywedodd.
'Ysgytwad i bob plaid'
Dywedodd un o weinidogion Llywodraeth Cymru fod Llafur Cymru wedi ymrwymo i "adolygu a chryfhau" eu gweithdrefnau'n ymwneud ag hyfforddiant a chwyno.
Yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, fe wnaeth Llafur Cymru gwrdd ddydd Iau er mwyn trafod eu gweithdrefnau eu hunain
Dywedodd: "Mae'r Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford, wedi bod yn mynd i'r afael â hyn ac mae wedi ysgrifennu at yr holl aelodau.
"Fe es i i'r byd gwleidyddol er mwyn mynd i'r afael â'r problemau yma, ac fel menywod mewn swyddi pwerus yn y Senedd, mae'n rhaid i ni gymryd y cyfle yma am newid go iawn.
Dywedodd Tom Giffard, AS Ceidwadol yn rhanbarth Gorllewin De Cymru: "Roedd gan yr adroddiad lawer o gasgliadau a honiadau ysgytwol, ac yn y pen draw mae 82 o argymhellion yn awgrymu fod problem yma i Blaid Cymru, ond mi fyddai'n hunanfodlon i ni neu unrhyw blaid arall i feddwl bod y broblem wedi'i gyfyngu i un blaid.
"Felly mae'n rhaid i ni nawr edrych ar ein strwythurau ein hunain a gwneud yn siŵr bod gennym y strwythurau mewn lle fel bod pobl yn teimlo'n hyderus i ddod ymlaen. Dwi'n credu eu bod nhw, ond mae'n rhaid i ni ddarganfod a yw eraill yn cytuno efo hynny."
Dywedodd yr ymgynghorydd gwleidyddol Cathy Owens ei bod yn gobeithio y byddai'r datblygiadau diweddar yn "ysgytwad i bob plaid er mwyn eu hatgoffa... mae hyn yn broblem ar draws pob plaid," sydd angen adnewyddu a diwygio eu polisïau a gweithdrefnau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2023
- Cyhoeddwyd13 Mai 2023
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023