Mam gollodd fab mewn tân carafán 'ag ond misoedd i fyw'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Geredigion a gollodd ei mab ieuengaf mewn tân carafán yn dweud ei bod ond â "misoedd i fyw" ar ôl cael gwybod bod canser terfynol arni.
Roedd Erin Harvey eisoes wedi colli mab yn fabi, a gafodd ei eni cyn pryd, cyn marwolaeth Zac dair blynedd yn ôl.
Nawr, wedi iddi gael gwybod bod math prin o ganser arni, mae'r fam 30 oed wedi ysgrifennu cardiau pen-blwydd a phriodas ar gyfer ei dau fab arall.
"Maen nhw wedi colli brodyr yn barod a nawr maen nhw am golli eu mam," dywedodd.
"Gwybod na fydda'i yna i'w gweld yn tyfu lan - dyna'r peth anoddaf am y sefyllfa yma."
Mae Erin yn canolbwyntio yr yr amser sydd gyda hi'n weddill ar gael gymaint o hwyl gyda'i meibion Alex, 13, a Harley, 8, cyn iddi farw.
Roedd Harley ond yn bedair oed pan gafodd yntau losgiadau difrifol yn y tân yn Ffair-rhos, ger Pontrhydfendigaid ddechrau 2020.
Mae Erin hefyd yn bwriadu priodi ei chymar, Dan.
'Gobeithio cael un Nadolig mawr, hapus'
"Rydym eisiau dathliad mawr hyfryd gydag ein holl deulu a ffrindiau," meddai Erin, sy'n weithiwr cefnogaeth i oedolion ag anableddau ac yn byw ym Mhontrhydfendigaid.
"Rydym eisiau mynd i Legoland er mwyn Harley. Mae gyda ni camper van, felly fe wnawn ni fachu bob cyfle rhwng sesiynau cemotherapi, i fynd bant a chreu atgofion.
"A rydym yn gobeithio cael un Nadolig mawr, hapus gyda'r holl deulu o gwmpas."
Bu farw ail fab Erin, Tyler, o ataliad ar y galon yn Rhagfyr 2012, ychydig fisoedd ar ôl iddo ddioddef cymhlethdodau wrth gael ei eni'n gynnar.
Bu farw Zac, ei phedwerydd mab, yn dair oed ym mis Ionawr 2020. Roedd wedi anadlu yn y tân, a gafodd ei achosi yn ôl pob tebyg gan wresogydd ffan trydanol.
Cafodd Erin wybod bod ganddi ganser prin sy'n ffurfio yn system dreulio'r corff a'i bod yng Nghymal 4 y salwch.
Fe gafodd lawdriniaeth i dynnu tiwmor ond mae'r canser wedi lledu.
"Mae'n derfynol ac mae gen i fisoedd yn hytrach na blynyddoedd i fyw," dywedodd.
Mae ffrindiau nawr wedi sefydlu ymgyrch codi arian ar-lein i helpu'r teulu i "greu atgofion hudolus".
Roedd Erin a'i dyweddi Dan wedi bod yn ceisio cael babi ac wedi bwriadu priodi flwyddyn nesaf, ond maen nhw'n ceisio sicrhau nawr bod y briodas yn cael ei chynnal yn gynt.
"Rwy' wedi bod yn ceisio tynnu fy meddwl oddi ar bethau trwy wneud pethau positif, felly dwi'n creu llyfrau sgrap ar gyfer y bechgyn ac rwy' wedi prynu cardiau pen-blwydd hyd at eu pen-blwyddi'n 21 oed," meddai dan ddagrau.
"Rwy' hefyd wedi ysgrifennu cardiau ar gyfer eu priodasau a phan maen nhw'n pasio eu profion gyrru.
"Rwy'n canolbwyntio ar y presennol ac yn gwneud i'r misoedd nesaf fod mor normal i'r plant ag y gallwn ni.
"Mae'n rhaid bod yn gryf er eu mwyn nhw. Dydw i ddim eisiau iddyn nhw fy ngweld yn ypsetio drwy'r amser."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020