Dynes yn 'falch o helpu pobl Wcráin' er cof am ei gŵr
- Cyhoeddwyd
Er mwyn cofio gŵr a thad dywed teulu o Ystradgynlais eu bod yn falch o helpu yn yr ymdrech i gynorthwyo pobl Wcráin.
Fe wnaethon nhw gyfrannu at gost generadur gafodd ei gludo yno ym mis Chwefror i helpu i adfer pŵer mewn ardaloedd gafodd eu targedu gan Rwsia.
Ar wythnos ffoaduriaid 2023 dywed y teulu eu bod yn awyddus i helpu oherwydd eu cysylltiad â'r wlad.
Ym 1952 fe wnaeth Ann Soroka gwrdd â'i gŵr Max, o Wcráin yn wreiddiol, mewn dawns yn Abertawe.
Ddwy flynedd wedyn fe wnaethon nhw briodi ac ymgartrefu yn Ystradgynlais - pentre genedigol Ann ym mhen uchaf Cwmtawe.
Dianc o'r fyddin
Ym 1941 pan oedd y Natsïaid wedi goresgyn yr Undeb Sofietaidd roedd Max yn un o gannoedd o fechgyn ifanc a gafodd eu cipio o ysgolion yn Wcráin gan y Natsïaid a'u gorfodi i weithio yn Yr Almaen yn lle yr Almaenwyr oedd wedi eu consgriptio i'r lluoedd arfog.
"Fe gafodd e' a'i ffrindie a channoedd o fechgyn eraill eu cymeryd - dim ond teenagers oedden nhw.
"Roedd pobol ifanc Yr Almaen wedi mynd i'r fyddin - felly roedd angen gweithwyr ar y wlad.
"Fe gafodd Max ei gludo i Bafaria a buodd e yn gweithio ar fferm. Roedd e'n lwcus, mewn ffordd, achos a'th e mewn i lle da yn fanna," meddai Ann.
Ond wrth iddi ddod yn amlwg fod Yr Almaen yn colli y rhyfel, fe gafodd Max ei orfodi i adael y fferm ac ymuno â'r fyddin i ymladd dros yr Almaen, a'i anfon i faes y gad, ar y front line.
"Roedd yr Almaen yn colli a dyma nhw yn rowndio lan y bechgyn o Wcráin a mynd â nhw i'r front line. Aeth Max i Tsiecoslofacia a chael ei anafu yn y frwydr.
"Fe gafodd shrapnel yn ei goes a mynd i'r ysbyty ac roedd Almaenwyr yn y ward gyda fe - rhai oedd wedi bod yn rhyfela mewn tanciau ac wedi eu hanafu a'u llosgi.
"Roedd yr anafiadau yn erchyll, ac roedd hyn wedi aros yn ei feddwl."
Ond llwyddodd Max i ddianc o'r fyddin. Dywed Ann iddo weld ei gyfle a phenderfynu ffoi.
"Roedd pawb yn ffoi, yn deserto, achos dim ond 17 oed oedd y bechgyn 'ma a neb wedi cael eu hyfforddi i fod yn filwyr.
"Bu Max yn cerdded am filltiroedd a milltiroedd cyn ffindo ei ffordd nôl i'r fferm lle bu yn gweithio yn Bafaria."
Balch o'i famwlad
Cysylltodd â'i deulu yn nhre orllewinol Stanislav yn Wcráin ond cafodd rybudd gan ei fam i beidio â dod adre neu fe fyddai fe yn cael ei saethu gan y Sofietiaid. Welodd e fyth o'i fam eto.
Cafodd help i deithio i Brydain a chael swydd gyda busnes llaeth yn Abertawe lle y gwnaeth e gwrdd ag Ann.
"Doedd Max byth yn achwyn, byth yn flin am ei hunan. Roedd e wastod yn dweud bod miloedd o bobol yn yr un sefyllfa â fe ar hyd a lled Ewrop," meddai.
Hanner canrif ar ôl cael ei orfodi i adael y wlad gan y Natsïaid, fe aeth Max yn ôl i Wcráin ar ôl chwalu yr Undeb Sofietaidd. Ar ôl cyrraedd Kyiv, fe aeth ar ei liniau a chusanu y ddaear.
"Roedd e wastod yn ymfalchïo yn ei gefndir a'i famwlad. Bydde gweld y rhyfel heddi wedi torri ei galon," medd Ann.
"Fi bron bod yn falch bo fe ddim byw achos bydde fe yn torri ei galon."
Pan glywodd Ann fod angen cymorth ar bobl Wcráin fe wnaeth hi benderfynu prynu generadur trydan i'w anfon yno er mwyn helpu i adfer pŵer pentrefi a chymunedau fyddai yn cael eu taro gan rocedi Rwsiaidd.
Roedd hi yn falch i allu gwneud rhywbeth er cof am ei gŵr, meddai, a hefyd ei thad oedd wastad yn dweud wrthi am gofio am eraill a gwarchod y pethau pwysig mewn bywyd.
"Roedd dad wastod yn dweud wrthai, am ofalu am 'y pethe'. Chi ffili cyfieithu hwnna, ma' fe yn eich calon, roedd e wastod yn dweud 'gofala am y pethe'."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
- Cyhoeddwyd1 Mai 2023
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022